Mae Trwyddedau Parcio ar gael yn Gymraeg neu Saesneg
Byddwn yn sicrhau bod trwyddedau’n cael eu hanfon yn unol â’ch iaith ddewis, ac anfonir adnewyddiadau bob blwyddyn yn awtomatig yn yr iaith a ddewisoch yn wreiddiol.
I dderbyn trwydded parcio yn Gymraeg, dewiswch ‘Cymraeg’ a chwblhewch y ffurflen yn Gymraeg.
Os dymunwch newid eich dewis iaith unrhyw bryd, gwnewch gais am drwydded newydd a chwblhewch y cais un ai yn Gymraeg neu’n Saesneg.