Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd y Tîm Cymorth Diogelu Iechyd Cenedlaethol

Bydd y polisi preifatrwydd hwn yn esbonio sut mae'r Tîm Cymorth Diogelu Iechyd Cenedlaethol yn defnyddio'r data personol a gasglwn gennych pan fyddwn yn cysylltu â chi, neu pan fyddwch chi'n cysylltu â ni drwy e-bost.

Mae'r Tîm Cymorth Diogelu Iechyd Cenedlaethol yn rhan o Gyngor Caerdydd, sef y Prosesydd Data at ddibenion y data a gesglir.

Prosesir yr holl ddata personol yn unol â GDPR y DU a Deddf Diogelu Data 2018. 

Mae'r Tîm Cymorth Diogelu Iechyd Cenedlaethol yn brosesydd data sy'n gweithio ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru at ddibenion monitro ac atal lledaeniad clefydau heintus. O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU), y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:

(e) Tasg gyhoeddus: mae angen y prosesu er mwyn i chi gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith. Y ddeddfwriaeth yw: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, adran 162-165.

Pa ddata rydym yn ei gasglu?

Mae'r Tîm Cymorth Diogelu Iechyd yn derbyn rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn cysylltu â chi. Bydd hyn yn cynnwys rhai o'r rhain neu bob un: enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyflogwr, teitl swydd a Rhif y GIG. Pan fyddwn yn cysylltu byddwn yn gofyn i chi gadarnhau, neu ddiweddaru'r wybodaeth hon gyda ni. Gyda hynny mewn golwg, gall y Tîm Cymorth ofyn i chi gadarnhau neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf ganlynol i ni:

  • Gwybodaeth adnabod bersonol (enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyflogwr, teitl swydd, rhif y GIG)

Byddwn hefyd yn gofyn i chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf ganlynol i ni:

  • Meddyginiaeth a ragnodir yn ymwneud ag atal a rheoli clefydau heintus perthnasol yn unig
  • Lleoedd yr ymwelwyd â nhw pan oeddech o bosibl dan effeithiau dod i gysylltiad â'r clefyd heintus perthnasol
  • Pobl y gallech fod wedi dod i gysylltiad â nhw wrth hunanynysu neu yn ystod y cyfnod amlygiad posibl

  • Cesglir hyn at ddibenion monitro ac atal rheolaeth clefydau heintus.

     

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydym yn derbyn eich data gan Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) yn gyntaf. Gall hyn gynnwys eich enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, cyflogwr, teitl swydd, a rhif y GIG. Byddwn yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost. Pan fyddwn yn cysylltu, byddwn yn gofyn i chi gadarnhau rhywfaint o'r wybodaeth hon i sicrhau ein bod yn siarad â'r person cywir. Byddwn yn diwygio neu'n diweddaru gwybodaeth os yw'n anghywir neu'n hen. Efallai y byddwn yn eich ffonio neu'n anfon e-bost atoch i wneud hyn.

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich data

O dan Reoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU (GDPR y DU), y sail gyfreithiol yr ydym yn dibynnu arni ar gyfer prosesu'r wybodaeth hon yw:
(e) Tasg gyhoeddus: mae angen y prosesu er mwyn i chi gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu ar gyfer eich swyddogaethau swyddogol, ac mae gan y dasg neu'r swyddogaeth sail glir yn y gyfraith.

Y ddeddfwriaeth yw: Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, adran 162-165.

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Bydd y Tîm Cymorth yn prosesu eich data i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru (ICC) wrth fonitro clefydau heintus. Gallai hyn gynnwys:

  • Cysylltu â chi os ydych yn cael eich adnabod fel rhywun a allai fod wedi dod i gysylltiad â pherson sy'n dioddef o glefyd heintus.
  • Cysylltu â chi os ydych yn cael eich adnabod fel rhywun sydd wedi'ch heintio gan glefyd heintus.
  • Cynnig gwybodaeth a chyngor defnyddiol yn ymwneud ag ynysu a meddyginiaeth ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru.
  • Byddwn yn derbyn eich data yn ddiogel gan ICC er mwyn cysylltu â chi. Dim ar ôl cwblhau ein galwadau y byddwn yn rhannu eich data yn ôl ag ICC.
  • Byddwn yn diweddaru unrhyw wybodaeth anghywir a dderbyniwyd cyn ei rhannu yn ôl ag ICC. 

Sut rydym yn storio eich data?

Mae'r Tîm Cymorth yn storio'ch data yn ddiogel ar Weinyddwyr Cyngor Caerdydd ac yn rhannu yn ôl yn ddiogel ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ôl i ni gwblhau unrhyw gamau.

Bydd y Tîm Cymorth yn cadw'ch data personol am hyd at dri mis. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, byddwn yn dileu'r ffeil sy'n cynnwys eich data drwy ddefnyddio cyfnodau cadw awtomataidd yn ein meddalwedd storio ddiogel.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai'r Tîm Cymorth wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol:

Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn am gopïau o unrhyw ran o'ch data personol. 

Yr hawl i gywiro

Mae gennych chi hawl i ofyn i'r Gwasanaethau Cyfreithiol gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych chi hawl hefyd i ofyn bod yr wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi yn cael ei chwblhau.

Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gyfyngu ar brosesu

Mae gennych hawl i ofyn i ni roi cyfyngiadau ar brosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i wrthod prosesu

Mae gennych hawl i wrthod prosesu eich data personol, dan rai amodau.

Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau.


Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn, cysylltwch â ni ar ein cyfeiriad e-bost:

Polisi preifatrwydd sefydliadau eraill

Iechyd Cyhoeddus Cymru: Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru

Newidiadau i'n polisi preifatrwydd

Mae Ein Cwmni yn adolygu ei bolisi preifatrwydd yn rheolaidd ac yn rhoi unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon. Diweddarwyd y polisi preifatrwydd hwn ddiwethaf ar 27 Ionawr 2024.

Sut i gysylltu â ni  

Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau am ein polisi preifatrwydd, y data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk neu drwy'r post:   

 

Swyddog Diogelu Data  
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth  
Neuadd y Sir  
Glanfa'r Iwerydd   
Caerdydd  
CF10 4UW    ​ 

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol   

Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth​: 0303 123 1113.      ​

© 2022 Cyngor Caerdydd