Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

CCTV

​Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i roi gwybod i breswylwyr ac ymwelwyr yn ardal Caerdydd sut y caiff eu data personol ei brosesu drwy systemau teledu cylch cyfyng a weithredir gan Gyngor Caerdydd. Mae'r hysbysiad hwn yn disgrifio ein diben ar gyfer prosesu a'r sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i gasglu a storio eich data personol. 

Pa wybodaeth bersonol y byddwn yn ei chipio yn ein systemau teledu cylch cyfyng?​​

Mae systemau teledu cylch cyfyng Cyngor Caerdydd yn cipio delweddau o bobl a cherbydau yn y man lle mae camera'n cael ei weithredu ac o'i amgylch. Gall hyn gynnwys gwybodaeth adnabyddadwy fel platiau cofrestru cerbydau a delweddau o aelodau'r cyhoedd.

Beth yw ein diben ar gyfer defnyddio teledu cylch cyfyng?​

Byddwn yn defnyddio eich data personol a gesglir drwy systemau teledu cylch cyfyng at y dibenion canlynol:

  • Cynyddu diogelwch i breswylwyr, gweithwyr ac ymwelwyr Caerdydd.
  • Monitro diogelwch staff Cyngor Caerdydd ac ymwelwyr ag adeiladau'r Cyngor.
  • Helpu i atal, rhwystro a chanfod troseddau, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol a helpu i ddarparu amgylchedd mwy diogel i'r bobl hynny sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac i ymwelwyr sy'n teithio drwy'r ardal.  
  • Helpu i reoli mannau cyhoeddus yn gyffredinol.
  • Cynorthwyo'r Cyngor i gyflawni ei swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas ag iechyd a diogelwch amgylcheddol, rheoli llygredd, tir halogedig, iechyd a diogelwch, diogelwch bwyd, lles anifeiliaid, diogelu defnyddwyr, pwysau a mesurau a thrwyddedu.
  • Darparu cymorth rheoli traffig a gorfodi cyfyngiadau lonydd bysus a pharcio
  • Darparu cymorth a chyfeiriad os bydd argyfwng mawr yng Nghaerdydd.

 

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?​

Ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol drwy systemau teledu cylch cyfyng yw:

  • GDPR y DU Erthygl 6 (1) (e) prosesu er budd y cyhoedd. 

Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn ymgymryd â'n tasgau cyhoeddus o ran diogelwch y cyhoedd, atal a chanfod troseddau a chaniatáu rheoli traffig yn gadarnhaol yn yr ardal.

Gyda phwy y byddwn yn rhannu eich data personol?​

Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol â sefydliadau eraill at ddibenion, gan gynnwys atal a chanfod troseddau, i gydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol, neu pan fo hynny'n cael ei ganiatáu'n gyfreithiol. Mae'r sefydliadau hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Adrannau eraill Cyngor Caerdydd
  • Cwmnïau yswiriant
  • Llysoedd a thribiwnlysoedd
  • Asiantaethau Gorfodi'r Gyfraith, gan gynnwys yr Heddlu
  • Yr ombwdsman ac awdurdodau rheoliadol.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data personol?​​

Cedwir pob recordiad teledu cylch cyfyng am ddim mwy na chyfnod o 31 diwrnod a'i ddileu'n awtomatig wedi hynny. Gellir cadw unrhyw recordiadau teledu cylch cyfyng y bernir eu bod yn berthnasol i ymchwiliad parhaus am gyfnod estynedig a chânt eu dileu pan ddaw i ben yn unol ag amserlen cadw corfforaethol y Cyngor. 

Beth yw eich hawliau?​​

  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol. 
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi.
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol.
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.

 

Mae gennych hefyd hawl i gofrestru cwyn yn gysylltiedig â'r hysbysiad preifatrwydd hwn neu weithgareddau prosesu'r Cyngor gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth a gallwch wneud hynny trwy'r wefan isod neu eu llinell gymorth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hawliau hyn gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth neu drwy ei llinell gymorth 0303 123 1113. 

Cysylltu â Diogelu Data

Cysylltwch â'r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth.

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW 

diogeludata@caerdydd.gov.uk

© 2022 Cyngor Caerdydd