Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Parcio Digidol

​​​Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn ar gyfer pobl yng Nghaerdydd sy'n defnyddio gwasanaethau digidol y Cyngor drwy ein darparwr MiPermit. At ddibenion casglu gwybodaeth, Cyngor Caerdydd yw'r Rheolydd Data. 

Pa ddata rydym yn ei gasglu a pham?

Gall Cyngor Caerdydd gasglu'r data canlynol er mwyn darparu ein gwasanaethau parcio digidol:

 

  • Enw a chyfeiriad llawn.
  • Rhif cyfeirnod y Dreth Gyngor neu Ardrethi Busnes (fel prawf preswylio/cymhwysedd).
  • Cyfeiriad e-bost.
  • Rhif ffôn.
  • Marc Cofrestru'r Cerbyd.
  • Lleoliad parcio ac amser cyrraedd (os yw'n berthnasol).
  • Unrhyw ddata a ddarperir fel tystiolaeth i gadarnhau cymhwysedd ar gyfer trwydded neu wasanaeth parcio arall.
  • A hoffech ymuno â'n gwasanaeth diweddariadau parcio ai peidio.

 

Cesglir hyn er mwyn darparu gwasanaethau parcio digidol i chi megis prynu “e-drwyddedau" a'u cyflwyno i chi, pasys tymor meysydd parcio neu dalu taliadau parcio heb fod angen prynu ac arddangos tocyn talu ac arddangos o beiriant tocynnau (parcio heb arian parod). 

Efallai y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio hefyd i fonitro effeithiolrwydd ein gwasanaethau, monitro a gorfodi tramgwyddau parcio, lonydd bysus a thraffig sy'n symud, a sicrhau nad yw'r gwasanaeth yn cael ei gamddefnyddio. 

Sut rydym yn casglu eich data?

Rydym yn casglu eich data pan fyddwch yn rhoi eich data i'n cyflenwr trydydd parti, MiPermit. 

Rydym hefyd yn casglu data pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ar ein gwefan drwy'r sgwrs fyw.  Bydd cynnwys ysgrifenedig a gyflwynir drwy ein SgyrsBot gwasanaeth cwsmeriaid (Bobi) yn Gymraeg yn cael ei brosesu gan Google Translate er mwyn cael testun Saesneg cyfatebol i ddeall y cynnwys.

Mae hyn yn golygu bod unrhyw wybodaeth a gofnodir yn Gymraeg hefyd yn ddarostyngedig i delerau prosesu data Google Translate. 

Y sail gyfreithiol ar gyfer ein defnydd o'ch data personol

Mae Cyngor Caerdydd yn cadw data personol amdanoch yn rhinwedd ei waith fel rheolydd data.  Rydym yn prosesu eich data personol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd. 

Mae prosesu'r data hwn yn ein helpu i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol fel Awdurdod Lleol, o dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 a Deddf Rheoli Traffig 2004, i reoli a rheoleiddio'r defnydd o briffyrdd cyhoeddus, sy'n cynnwys rheoli parcio yn Ardal yr Awdurdod Lleol.

Mae Rhan IX a.115(2) Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 yn ei gwneud yn drosedd gwneud datganiad anwir at ddibenion cael unrhyw drwydded naill ai ar gyfer yr ymgeisydd ei hun neu unrhyw berson arall. Mae prosesu'r data hwn yn ein helpu i gydymffurfio â'r gofynion sydd arnom i sicrhau nad oes troseddau'n cael eu cyflawni. 

Sut byddwn yn defnyddio eich data?

Gallwn ddefnyddio data personol a ddarparwch wrth ddefnyddio ein gwasanaethau parcio digidol i:

  • Eich galluogi i dalu, heb arian parod, unrhyw daliadau parcio a allai fod yn ddyledus mewn lleoliadau sy'n cymryd rhan.
  • Caniatáu i bobl cymwys wneud cais am "e-drwyddedau" electronig (o unrhyw fath) a thocynnau tymor meysydd parcio a thalu amdanynt.
  • Gwirio a ydych yn gymwys i wneud cais am fath penodol o e-drwydded.
  • Prosesu ceisiadau am e-drwyddedau.
  • Sicrhau nad oes gan bobl fwy o e-drwyddedau nag a ganiateir.
  • Cysylltu â chi os oes unrhyw broblemau'n codi o gais rydych wedi'i gyflwyno ar gyfer unrhyw un o'n gwasanaethau parcio digidol.
  • Cyfrifo unrhyw symiau sy'n daladwy am drwydded, tocyn tymor, arhosiad heb arian parod neu wasanaeth parcio arall â thâl rydym yn ei ddarparu.
  • Nodi unrhyw gamddefnydd o e-drwyddedau, neu dorri unrhyw delerau ac amodau yr ydych yn cytuno iddynt ar adeg gwneud cais/prynu.
  • Nodi twyll neu unrhyw drosedd arall sy'n gysylltiedig â chael neu gamddefnyddio trwydded a helpu mewn unrhyw ymchwiliadau neu achos cyfreithiol y gellir eu cychwyn/cymryd o ganlyniad i'r twyll honedig hwnnw. 
  • Cynnal dadansoddiad ystadegol, y gellir cyhoeddi ei ganlyniadau o bryd i'w gilydd, yn enwedig fel rhan o'r gofyniad statudol i ni gyhoeddi ein Hadroddiad Parcio Blynyddol, neu ei ddefnyddio i hyrwyddo'r gwasanaethau parcio digidol a ddarparwn.
  • Helpu mewn unrhyw broses sy'n gysylltiedig â gorfodi sifil o ran tramgwyddau parcio, lonydd bysus a thraffig o dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004.
  • Helpu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer unrhyw achos gorfodi a allai ddeillio o gyhoeddi Hysbysiadau Tâl Cosb (HTCau).

  • Gellir defnyddio data trwydded parcio lle mae trwydded yn bodoli i brofi eithriad i gyfyngiad traffig e.e. strydoedd na all neb ond preswylwyr gael mynediad iddynt yn ystod cyfnodau cyfyngedig. 

Efallai y byddwn hefyd yn cynnig cyfle i chi ymuno â'n gwasanaeth diweddariadau parcio. Os ydych yn dewis cofrestru, efallai y byddwn yn defnyddio'r gwasanaeth hwn i anfon gwahanol gyfathrebiadau atoch am barcio yng Nghaerdydd drwy'r opsiynau y nodwch eich bod yn eu ffafrio a'u dewis (e-bost a/neu neges destun SMS). 

Gall y gwasanaeth hwn anfon gohebiaeth atoch megis: 

  • Cylchlythyrau parcio Cyngor Caerdydd.
  • Diweddariadau ar newidiadau i barcio yn eich ardal chi, fel hysbysiadau o gyfyngiadau parcio newydd sy'n cael eu cyflwyno.
  • Rhoi gwybod i chi am ymgynghoriadau pwysig a gynhelir.
  • Diweddariadau ar newidiadau i'r gwasanaeth MiPermit a ddarparwn, megis hysbysiadau o newidiadau mewn telerau ac amodau.
  • Gwybodaeth am faterion eraill sy'n ymwneud â pharcio sy'n berthnasol i wasanaethau parcio Cyngor Caerdydd.
     

Gallwch optio allan o'r gwasanaeth hwn ar unrhyw adeg ar-lein drwy eich gosodiadau Cyfrif MiPermit, neu drwy e-bostio: trwyddedauparcio@caerdydd.gov.uk. 

Am ba hyd y byddwn yn storio eich data?

Dim ond cyhyd ag sy'n ofynnol y cadwn eich data er mwyn bodloni gofynion cyfreithiol, rhwymedigaethau cytundebol a diogelu ein buddiannau cyfreithlon.  Bydd y wybodaeth a gasglwn ynglŷn â sut rydych yn defnyddio ein gwasanaethau parcio digidol yn cael ei chadw am gyfnod o 7 mlynedd ar y mwyaf, ac ar ôl hynny caiff ei dileu'n ddiogel yn awtomatig.

Gyda phwy rydym yn rhannu eich data?

Wrth ddefnyddio ein gwasanaethau parcio digidol caiff eich data ei brosesu drwy MiPermit, cwmni trydydd parti.  Mae hyn yn golygu eu bod yn gweithredu fel Prosesydd Data ar ein rhan ac y cedwir data dros dro ar eu gweinyddion.

Gellir rhannu data hefyd ag Experian neu'r DVLA pan fo angen i ni gael data am eich cerbyd, megis allyriadau cofrestredig eich cerbyd, er mwyn sicrhau ein bod yn cyfrifo'r symiau talu gofynnol yn gywir neu i wirio dosbarth neu bwysau eich cerbyd er mwyn sicrhau ei fod yn gymwys i gael math o drwydded benodol.

Gellir cyhoeddi canlyniadau dadansoddiadau ystadegol hefyd yn yr Adroddiad Parcio Blynyddol, y mae ei lunio yn ofyniad statudol. Lle y bo'n briodol, gellir cyhoeddi'r canlyniadau hyn hefyd i hyrwyddo ein gwasanaethau ni neu MiPermit.

Mae Cyngor Caerdydd wedi gweithredu'r mesurau diogelwch angenrheidiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol, gan gynnwys Cytundeb Rhannu Data ac asesiadau effaith perthnasol.

Dim ond yn unol â deddfwriaeth diogelu data gyfredol a pholisi diogelu data Cyngor Caerdydd y caiff yr holl wybodaeth ei chadw a'i throsglwyddo. I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae MiPermit yn prosesu data personol, gweler eu polisi preifatrwydd.

Beth yw eich hawliau diogelu data?

Hoffai Cyngor Caerdydd wneud yn siŵr eich bod yn gwbl ymwybodol o'ch holl hawliau diogelu data. Mae gan bob defnyddiwr hawl i'r canlynol: 

Yr hawl i gael mynediad

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd am gopïau o'ch data personol. 

Yr hawl i gywiro

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gywiro unrhyw wybodaeth sy'n anghywir yn eich barn chi.  Mae gennych hefyd hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gwblhau'r wybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi. 

Yr hawl i ddileu

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd ddileu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i gyfyngu prosesu

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd gyfyngu ar brosesu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i wrthwynebu prosesu

Mae gennych hawl i wrthwynebu i Gyngor Caerdydd brosesu eich data personol, dan rai amodau. 

Yr hawl i gludo data

Mae gennych hawl i ofyn i Gyngor Caerdydd drosglwyddo'r data yr ydym wedi'i gasglu i sefydliad arall, neu'n uniongyrchol i chi, dan rai amodau. 

Hysbysiadau Preifatrwydd Ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Caerdydd yn prosesu data personol, darllenwch yr Hysbysiad Preifatrwydd llawn

I gael rhagor o wybodaeth am sut y mae MiPermit yn prosesu data personol, gweler eu gweler eu polisi preifatrwydd. 

Newidiadau i'n Hysbysiad Preifatrwydd

Gall newidiadau i'n Hysbysiad Preifatrwydd ddigwydd ar unrhyw adeg er mwyn adlewyrchu diweddariadau mewn deddfwriaeth, arfer gorau a chanllawiau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Cyhoeddir y newidiadau hyn ar ein gwefan. 

Ar gyfer ymholiadau parcio cyffredinol dylech gyfeirio'n gyntaf at ein gwefan​. Os na allwch ddod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano gallwch hefyd ffonio 029 2087 2088. 

Sut i gysylltu â Diogelu Data

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am bolisïau preifatrwydd Cyngor Caerdydd neu'r data rydym yn ei gadw amdanoch chi, neu os hoffech arfer un o'ch hawliau diogelu data, mae croeso i chi gysylltu â ni drwy'r post: 

Swyddog Diogelu Data,
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth,
Neuadd y Sir,
Glanfa'r Iwerydd,
Caerdydd
CF10 4UW 

Neu drwy e-bost i diogeludata@caerdydd.gov.uk. 

Sut i gysylltu â'r awdurdod priodol 

Os hoffech gyflwyno cwyn neu os teimlwch nad yw Cyngor Caerdydd wedi mynd i'r afael â'ch pryder mewn modd boddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth​: 0303 123 1113.  ​​

© 2022 Cyngor Caerdydd