Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Plant

​​​​Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn wedi'i gynllunio i hysbysu Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd o Wasanaethau Plant Cyngor Caerdydd ynghylch sut y bydd eu data personol yn cael ei brosesu gan Gyngor Caerdydd. 

Mae'n rhaid i Gyngor Caerdydd gasglu gwybodaeth bersonol gan unigolion i'n galluogi i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u teilwra.   Bydd rhywfaint o’r wybodaeth hon yn wybodaeth sensitif a gallai gynnwys data am iechyd, anableddau neu gefndir hiliol ac ethnig.   Efallai y bydd angen i ni hefyd gasglu gwybodaeth am eich gofalwyr, ffrindiau a pherthnasau. 

Byddai unigolion sy'n derbyn gofal cymdeithasol eisoes wedi cael gwybod bod y wybodaeth hon wedi'i chasglu.   Mae'r hysbysiad hwn yn esbonio mwy am sut rydym yn prosesu'r wybodaeth hon, yr hyn y mae'n cael ei defnyddio ar ei gyfer a sut rydym yn cadw'r wybodaeth hon yn ddiogel. 

Pa fathau o ddata personol rydym yn eu prosesu?​​​

Mae’r mathau o ddata personol rydym yn eu prosesu yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill: 

Categorïau cyffredinol:

  • Gwybodaeth bersonol uniongyrchol e.e. enw llawn, dyddiad geni, rhyw, ac ati
  • Manylion cyswllt, e.e. cyfeiriad, ac ati
  • Data demograffig, e.e. ethnigrwydd, iaith gyntaf, ac ati
  • Cofnodion Gofal Cymdeithasol ac Iechyd lle bo'n berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir am blant.  


Is-gategorïau: 

  • Manylion Rhieni / Gofalwyr (gan gynnwys unrhyw berthnasau a / neu bersonau â chyfrifoldeb cyfreithiol dros blant a phobl ifanc) 
  • Cofnodion yr ystyrir eu bod yn berthnasol i unrhyw bryderon diogelu a lles a godir ynghylch plant.  
  • Anghenion ac amgylchiadau'r plentyn 
  • Barn gweithwyr proffesiynol 
  • Staff sy'n cefnogi'r plentyn 
  • Pryd a lle wnaeth y staff gwrdd â’r plentyn 
  • Am beth oedd y cyfarfodydd a’r hyn ddigwyddodd ynddyn nhw 
  • Gwybodaeth y mae gofalwr y plentyn / pobl eraill mae e’n eu hadnabod wedi ei rhoi i ni
  • Gwybodaeth a ddarperir gan wasanaethau eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn, e.e. Iechyd, Addysg, 
  • gweithwyr gofal ac asiantaethau gwirfoddol
  • Nodweddion Agored i Niwed, e.e. Plant sy’n Derbyn Gofal (PDG), Prydau Ysgol am Ddim (PYADd), Ceiswyr Lloches, Teithwyr, Cymraeg/Saesneg fel iaith ychwanegol (C/SIA), Plant y Lluoedd Arfog, Gofalwyr Ifanc ac ati

Sut rydyn ni’n cael eich data personol?



Rydyn ni’n cael eich data personol o ffynonellau gan gynnwys:

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro 
  • Asesu a Chynllunio Gofal
  • Gwasanaethau Canolog Gwasanaethau Plant 
  • Gwella Gwasanaeth a Strategaeth
  • Gofal Dirprwy Deulu 
  • Lles, Amddiffyn a Chefnogi
  • Gwasanaethau Plant Ardal Leol 
  • Y Gyfarwyddiaeth Addysg a Dysgu Gydol Oes 
  • Addysg Plant sy'n Derbyn Gofal 
  • Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
  • Gwasanaeth Ieuenctid 
  • Y Gwasanaeth Budd-daliadau 
  • Cofrestriadau Geni  
  • Blynyddoedd Cynnar (gan gynnwys Dechrau'n Deg) 
  • Y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a Theithwyr 
  • Clearsprings Ready Homes Ltd (mewn perthynas â Cheiswyr Lloches) 
  • Cysylltu â Chaerdydd (C2C)
  • Treth Gyngor
  • Gwasanaeth Lles Addysg (GLlA) 
  • Awdurdodau Lleol ac Ysgolion eraill a / neu leoliadau addysgol sy'n rhan o hanes addysgol eich plentyn
  • Gwasanaethau Cludiant Teithwyr

Sut rydyn ni'n defnyddio eich data personol?

Defnyddir gwybodaeth bersonol i werthuso a yw pobl yn gymwys i gael gwasanaethau gofal cymdeithasol a pha wasanaethau y dylent eu derbyn.   Rydym hefyd yn defnyddio gwybodaeth i'n helpu i gynllunio, trefnu a gwella'r gwasanaethau hynny, adrodd ar y gwaith rydym wedi'i wneud a dangos ein bod wedi defnyddio arian cyhoeddus yn iawn.   Lle bo hynny'n bosibl, caiff gwybodaeth a ddefnyddir at y dibenion hyn ei gwneud yn ddienw. 

Rydym yn sicrhau bod yr holl wybodaeth bersonol yn cael ei chadw'n ddiogel a'i bod ar gael i'r rhai sydd angen ei defnyddio yn unig.   Nid ydym yn cadw gwybodaeth bersonol am fwy o amser nag sydd ei angen arnom. 

Mae'r Gwasanaethau Plant yn defnyddio'r wybodaeth i sicrhau diogelwch a lles y plant yng Nghyngor Caerdydd. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon i sicrhau:

  • bod gan y staff sy’n rhoi cymorth i’r plentyn wybodaeth gywir, gyfredol er mwyn eu helpu i benderfynu ar y cymorth gorau ar ei gyfer 
  • bod cofnodion cywir ar gael pan fyddwn yn adolygu ei ofal a chymorth 
  • y gellir ymchwilio i unrhyw bryderon yn briodol os bydd gennych gŵyn
  • mai dim ond unwaith y bydd rhaid rhoi gwybodaeth i ni


Gallwn ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ar gyfer un neu fwy o'r dibenion canlynol:

  • Cynnig gofal plant
  • Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth i Rieni a Gofalwyr 
  • Plant sy'n derbyn gofal ADLl 
  • Asesu a Chynllunio Gofal
  • Gwasanaethau Canolog
  • Gwella Gwasanaeth a Strategaeth
  • Gofal Dirprwy Deulu 
  • Lles, Amddiffyn a Chefnogi
  • Gwasanaethau Plant Ardal Leol 
  • Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
  • Tîm Iechyd ac Anableddau Plant
  • Hyb Diogelu ac Adolygu
  • Busnes, Perfformiad a Pholisi
  • Cymorth Cynnar
  • Gwasanaeth Ieuenctid 
  • Mabwysiadu
  • Maethu
  • Gofalwyr Ifanc
  • Anabledd Plant 
  • Prosiect Gwasanaethau Chwarae Plant

Beth yw ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu eich data personol?

Dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR), y sail gyfreithiol rydym yn dibynnu arni i brosesu'r wybodaeth hon yw:
Erthygl 6 (1) :  

(c) Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol. 
(d) Mae gennym fuddiant allweddol i fywyd.
(e) Mae ei hangen arnom i gyflawni tasg gyhoeddus
(f) mae gennym fuddiant dilys.

Ein seiliau cyfreithiol ychwanegol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth categori arbennig yw budd y cyhoedd sylweddol / darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Y sefydliadau y gallwn rannu eich data personol â nhw



Efallai y byddwn yn rhannu eich data personol gydag adrannau eraill o fewn Cyngor Caerdydd a sefydliadau allanol rydym yn gweithio gyda nhw. O fewn Cyngor Caerdydd, gallai'r rhain gynnwys:  

  • Y rhai sy'n darparu gwasanaethau gofal ar ran Cyngor Caerdydd.  
  • Y rhai sy'n arolygu ac yn monitro ein gwaith.  
  • Sefydliadau fel y GIG sy'n gweithio gyda ni i ddarparu gwasanaethau. 
  • Adnoddau Corfforaethol i ddarparu adnoddau effeithiol i'n gwasanaethau 
  • Pobl a chymunedau i gefnogi Diogelwch Cymunedol a Chydlyniant 


Mae'r asiantaethau / sefydliadau rydym yn rhannu eich data gyda nhw yn allanol yn cynnwys: 

  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro 
  • Heddlu / Llysoedd (o dan sail gyfreithlon – Gweler Rhannu data personol gydag awdurdodau gorfodi'r gyfraith | .Comisiynydd Gwybodaeth)
  • Awdurdodau Lleol perthnasol sy'n rhan o hanes addysgol eich plentyn (Gweler yr Awdurdodau Lleol / Cynghorau unigol o fewn Cymru a Lloegr ar gyfer eu Hysbysiadau Preifatrwydd)
  • Llywodraeth Cymru (Casglu data a rheoli gwybodaeth) i helpu i wella gofal a chymorth yng Nghymru 
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)


Byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn rhannu eich gwybodaeth, fel arfer ar yr adeg y byddwn yn ei chasglu.

  • Byddwn ond yn rhannu'r wybodaeth hon â sefydliad os bydd ei hangen arnynt i wneud eu gwaith. 
  • Ni fyddwn yn rhannu mwy o wybodaeth nag sydd ei angen. 
  • Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth heb eich caniatâd, dim ond os yw'r gyfraith yn dweud y dylem wneud hynny.   Gallai hyn fod er mwyn diogelu eich buddiannau hanfodol, atal rhywun arall rhag cael ei roi mewn perygl neu i ganfod neu atal twyll. 


Bob blwyddyn mae Llywodraeth Cymru (LlC) yn casglu gwybodaeth am blant ar gyfer y ffurflenni Plant sy'n Derbyn Gofal a Chyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal Cymru (CASP), gan Awdurdodau Lleol ledled Cymru.  Mae gan LlC fynediad at ddata plant mewn angen sy’n derbyn gwasanaethau gan awdurdodau lleol.   Mae gennych chi, fel un ai rhiant neu ofalwr plentyn, neu fel plentyn eich hun dros 12 oed, hawl i gael gwybod am y ffordd y bydd LlC yn prosesu ac yn defnyddio'r data hwn.   


Mae'r wybodaeth a anfonir yn amrywio bob blwyddyn, ond bydd yn cynnwys nodweddion personol a manylion y gwasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir.   Os oes gan blentyn Rif Disgybl Unigryw (RhDU), bydd hynny’n cael ei gynnwys yng Nghyfrifiad CASP.   Mae'r RhDU hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru baru gwybodaeth gofal ac addysg pob plentyn.  Nid yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio enw'r plentyn yn yr ymarfer hwn, nac yn cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â phlant unigol nac yn eu henwi mewn adroddiadau.

Gallwch ofyn i Lywodraeth Cymru am restr o eitemau data yng Nghyfrifiad CASP Cymru. 

Eich hawliau diogelu data

Dan gyfraith diogelu data, mae gennych hawliau sy’n cynnwys:

  • Eich hawl mynediad - Mae gennych hawl i ofyn i ni am gopïau o'ch gwybodaeth bersonol.  
  • Eich hawl i gywiro - Mae gennych hawl i ofyn i ni gywiro gwybodaeth bersonol sy'n anghywir yn eich barn chi. Mae gennych hefyd hawl i ofyn i ni gwblhau gwybodaeth sy'n anghyflawn yn eich barn chi. 
  • Eich hawl i ddileu - Mae gennych hawl i ofyn i ni ddileu eich gwybodaeth bersonol dan rai amgylchiadau. 
  • Eich hawl i gyfyngu ar brosesu - Dan rai amgylchiadau mae gennych hawl i ofyn i ni gyfyngu ar brosesu eich gwybodaeth bersonol. 
  • Eich hawl i wrthwynebu prosesu - Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol dan rai amgylchiadau.
  • Eich hawl i gludadwyedd data - Mae gennych hawl i ofyn i ni drosglwyddo'r wybodaeth bersonol a roesoch i ni i sefydliad arall, neu i chi, dan rai amgylchiadau.


Nid oes angen i chi dalu unrhyw dâl am arfer eich hawliau.  Os gwnewch gais, bydd gennym un mis i ymateb i chi. 

Cysylltwch â ni yn HawliauUnigolion@caerdydd.gov.uk os hoffech wneud cais neu gwblhau’r ffurflen hon.  

Sut i gwyno 


Os hoffech adrodd cwyn neu os ydych yn teimlo nad yw’r gwasanaeth wedi ymdrin â’ch cwyn yn foddhaol, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth​​​: ​0303 123 1113. 

Cysylltu â Diogelu Data


Cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data i gael mwy o wybodaeth. 

Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd 
Caerdydd
CF10 4UW 


Diweddarwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ar 30 Mai 2023.​



© 2022 Cyngor Caerdydd