Mewn ymateb i gau ysgolion yn dilyn pandemig COVID-19, mae Cyngor Caerdydd yn cydnabod nad oes dewis arall ar gael ar hyn o bryd i blant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Felly, rydym wedi neilltuo amser ac adnoddau i sicrhau y gall plant a fyddai wedi cael prydau am ddim gael taleb electronig yn lle hynny. Rydym yn gweithio'n agos gyda chwmni a ddewiswyd (Sodexo) i sicrhau bod hyn yn cael ei hwyluso cyn gynted â phosibl. Fel y cyfryw, bydd data personol cyfyngedig yn cael ei ddarparu i'r cwmni er mwyn hwyluso'r gwasanaeth hwn a sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu. Ein seiliau cyfreithlon ar gyfer prosesu data personol at y diben hwn yw gorchwyl contract a chyhoeddus.
Os hoffech ragor o wybodaeth am sut mae Sodexo yn prosesu data personol, gallwch weld eu polisi preifatrwyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.