Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

​Y canfasiad blynyddol


Bob blwyddyn rydym yn cysylltu â holl eiddo preswyl Caerdydd i gadarnhau'r wybodaeth ar y Gofrestr Etholiadol.   

Gelwir y broses hon yn "ganfasiad blynyddol".  

Mae'n ofyniad cyfreithiol cadw'r Gofrestr Etholiadol yn gyflawn ac yn gywir, ac mae'r Comisiwn Etholiadol yn monitro'r broses. 

Rydym yn cyhoeddi'r Gofrestr Etholiadol wedi'i diweddaru bob mis Rhagfyr.  

Cofiwch fod angen i unrhyw un sy'n newydd yn yr eiddo neu wedi troi'n 14 oed ers i'r canfasau olaf gofrestru ar GOV.UK i bleidleisio ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​


Sut mae’n gweithio

Byddwch yn derbyn e-bost neu lythyr gennym ym mis Gorffennaf neu Awst. 

Rhowch wybod os ydych:

  • yn symud cartref neu i lety myfyrwyr, 
  • yn newid eich enw, 
  • am newid y ffordd rydych chi'n pleidleisio,  
  • am newid eich dewis Cofrestr Agored. 







Gwiriwch a chadarnhewch eich manylion

Fe gewch e-bost neu lythyr yn gofyn i chi gadarnhau eich manylion.

 
Bydd angen eich codau diogelwch arnoch yn eich e-bost neu lythyr.

Does dim angen i chi wneud unrhyw beth os nad oes newidiadau.


Gwiriwch a diweddaru eich manylion

Os ydym yn credu y gallai newidiadau yn eich eiddo ddod i law, byddwch yn derbyn llythyr erbyn 11 Awst.

Gwiriwch a diwe​ddarwch eich manylion ar-lein ​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd​​ erbyn 22 Awst.

Bydd angen eich codau diogelwch yn eich llythyr.


Os na fyddwch yn cadarnhau eich manylion

Os na wnewch unrhyw beth, byddwn yn anfon ffurflen atoch i'w chwblhau o 7 Medi.

Dychwelwch y ffurflen orffenedig cyn 5 Hydref.

Mae'n bosib y byddwn yn ymweld â'ch cartref i ofyn am eich manylion yn bersonol os na fyddwch yn dychwelyd y ffurflen.
 

Adrodd newid ar unrhyw bryd 

Cysylltwch â ni gydag unrhyw newidiadau i'ch gwybodaeth ar gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​ neu 029 2087 2087
fel y gallem ddiweddaru eich gwybodaeth ar y Gofrestr Etholiadol.
© 2022 Cyngor Caerdydd