Chwiliadau Swyddogol Awdurdod Lleol
Oherwydd yr achos presennol o COVID-19 byddwnyn gwneud rhai newidiadau i’r modd y caiff ein gwasanaeth ei gynnal.
Ni allwn dderbyn chwiliadau drwy’r post na sieciau. Allwch chi felly e-bostio eich ceisiadau chwilio i
locallandcharges@caerdydd.gov.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd ynghyd â chynllun. Allwch chi wneud eich taliad drwy BACS os gwelwch yn dda. Caiff pob chwiliad ei ddychwelyd dros e-bost.
Enw Cyfrif: Cyngor Caerdydd
Banc: Banc y Nat West, 96 Heol y Frenhines, Caerdydd, CF10 2GR
Cod Didoli: 52 21 06
Rhif Cyfrif: 20408838
Dyfynnwch Cyf: 72370 BL 101 ar gyfer pob taliad
E-bostiwch locallandcharges@caerdydd.gov.ukDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd pan fo’r taliad wedi ei wneud gan adael i ni gael cyfeiriad yr eiddo fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion a dychwelyd y chwiliad atoch chi.
Os oes angen i chi gysylltu â ni yna defnyddiwch y cyfeiriad e-bost uchod.
Asiantau Chwilio Persono
Mae Neuadd y Sir bellach wedi cau i aelodau o’r cyhoedd.
Allwch chi ddilyn y drefn arferol o yrru rhestrau i mewn atom dros e-bost. Byddwn yn paratoi canlyniadau’r chwiliad a’u gyrru nhw atoch dros e-bost.
Mae modd gwneud chwiliadau ar ein gwefan gan ddefnyddio ein system fapio.
Pridiannau Tir Lleol
Mae Pridiant Tir Lleol yn gyfyngiad neu’n waharddiad sy’n rhwymol ar berchenogion olynol eiddo.
Mae is-adran Pridiannau Tir Lleol y cyngor yn cynnal chwiliadau swyddogol o’r Gofrestr Pridiannau Tir Lleol am dir ac eiddo yng Nghaerdydd.
Rydym yn cynnal Cofrestr Pridiannau Tir ac yn cadw’r gofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref.
Chwiliadau Personol
Fon rhestr o’r holl eiddo rydych am eu chwilio atom drwy e-bost neu ffacs ynghyd â chynlluniau ar gyfer pob eiddo (gyda’r eiddo wedi'i ddynodi’n glir).
-
Rhaid anfon y rhestr atom ar y diwrnod cyn eich bod am alw heibio, erbyn 12:00pm.
-
Ni ellir gwneud unrhyw chwiliad a anfonir atom ar ôl 12:00pm ar y diwrnod canlynol.
-
Ni chewch anfon chwiliad mwy na diwrnod ymlaen llaw.
-
Nid ydym yn cynnig apwyntiadau. Os anfonir eich chwiliad atom cyn 12:00pm gallwch ddod i mewn ar unrhyw adeg y diwrnod canlynol yn ystod oriau agor.
-
Dim ond un rhestr y derbyniwn fesul cwmni y diwrnod, ac ni all gynnwys mwy na 10 eiddo.
-
I sicrhau ein bod wedi cael eich rhestr, gallwch ffonio ein swyddfa ar: 029 2087 2510. Ffôn Symudol: 07583123614/07583123622
Rhaid i leiniau sydd â chyfeirnod stryd gynnwys cyfeiriad llawn, nid rhif llain nac enw datblygiad.
Ffioedd Chwilio
Gallwch chwilio am ffioedd o 1 Ebrill 2021
Ffurflen LLC1 | £6
| Dim TAW | £6
|
Ffurflen CON29 | £99.16
| £19.84
| £119
|
Ffurflen CON29(O) Qs 4-22 | £9
| £1.80 | £10.80 |
Eiddo neu dir ychwanegol | £13
| £2.60 | £15.60 |
Chwiliadau personol
| Am ddim
| Am ddim | Am ddim |
Dylech gynnwys copi o gynllun Arolwg Ordnans neu Gynllun Teitl gan ddynodi ffiniau’r ardal rydych am ei chwilio â choch.
Rhaid talu pob ffi ymlaen llaw. Gwnewch sieciau’n daladwy i ‘Cyngor Dinas Caerdydd’.
Dydyn ni ddim yn derbyn cardiau credyd ond os hoffech dalu â cherdyn debyd cysylltwch â:
Gwasanaethau Cyfreithiol Costau Tir Lleol
Ystafell 410
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Ffôn: 029 2087 2510
Ffôn Symudol: 07583123614/07583123622
Rydym yn ceisio ymateb i chwiliad ymhen 5 diwrnod gwaith.
Draenio
I gael gwybodaeth am ddraenio rhaid i chi gysylltu â:
Dŵr Cymru
Pentwyn Road
Nelson
Treharris
CF46 6LY
0800 052 0145
Ffyrdd sy’n ffinio â’ch eiddo
Ni fydd ein hymateb chwiliad ond yn cyfeirio at y ffordd a enwir yng nghyfeiriad yr eiddo a roddir ym Mocs ‘B’ CON29. Os hoffech wybodaeth am unrhyw ffyrdd eraill wrth eich eiddo bydd angen i chi eu nodi ym Mocs ‘C’ a’u nodi’n glir ar eich cynllun chwilio.
Perchenogaeth tir
I ddysgu am berchenogaeth tir bydd angen i chi wneud cais i:
Cofrestrfa Tir EM (Abertawe)
BLWCH SP 75
Gloucester
GL14 9BD
0844 892 1111
Cofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref
Cedwir y Gofrestr Tir Comin a Lawntiau Pentref gan yr is-adran Pridiannau Tir Lleol a gallwch ei gweld am ddim drwy apwyntiad neu ym mhorth mapio ar-lein.