Ar 1 Ebrill 2023, roedd 911 eiddo heb eu meddiannu ac heb eu dodrefnu i raddau helaeth am fwy na 12 mis. Codwyd premiwm ar 882 o'r eiddo hyn.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2022 i 2023, casglwyd cyfanswm o £483,478.58 o daliadau premiwm am eiddo hirdymor heb eu meddiannu.
Mae'r premiymau rydym wedi'u casglu yn cael eu defnyddio i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan eiddo sydd heb eu meddiannu'n hirdymor. Rydym hefyd wedi gallu dechrau gweithio ar fynd i'r afael â phroblemau tai eraill yng Nghaerdydd, megis darparu tai fforddiadwy.
Tîm Datrysiadau Tai
Gyda'r cyllid o bremiymau treth gyngor, rydym wedi gallu rhoi mwy o swyddogion mewn Hybiau lleol. Mae'r swyddogion hyn yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i atal pobl rhag bod angen ein gwasanaeth digartrefedd.
Ers i ni ehangu'r tîm, rydym wedi rhoi cefnogaeth a chyngor i dros 400 o gwsmeriaid.
Tîm Gwasanaeth Tenantiaid ac Ymholiadau Landlordiaid (LETS)
Gyda'r cyllid rydym wedi'i gasglu o bremiymau treth gyngor, rydym wedi gallu cyfuno ein Cynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru â'n tîm Sector Rhentu Preifat (PRS), i greu un gwasanaeth hawdd.
Rydym yn gweithio gyda landlordiaid preifat ledled Caerdydd i:
- sicrhau bod eu heiddo yn barod i'w gosod,
- paru tenantiaid â thai addas, a
- cofrestru eu heiddo gyda Rhentu Doeth Cymru.
Bydd hyn yn cynyddu nifer y tai sydd gennym ar draws Caerdydd a gall ddarparu tai i'r rhai sydd eu hangen.
Ers mis Ebrill 2023, rydym wedi:
- cefnogi 155 o bobl mewn llety rhent preifat,
- a cofrestru 62 eiddo i Gynllun Prydlesu Llywodraeth Cymru (roedd 21 o'r cartrefi hyn yn wag yn wreiddiol).
Gorfodi tai
Mae'r premiymau treth gyngor rydym wedi'u casglu wedi ein galluogi i weithio gyda pherchnogion eiddo gwag i'w defnyddio unwaith eto.
Hyd yn hyn, rydym wedi gallu:
- dod ag 84 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2021 a 2022,
- dod â 95 eiddo yn ôl i ddefnydd rhwng 2022 a 2023, a
- adnewyddu a meddiannu 2 eiddo drwy Orchymyn Prynu Gorfodol.
Gyda'r cynnydd mewn taliadau premiwm o fis Ebrill 2024, ein nod yw dod â 100 eiddo nôl i ddefnydd o fewn y flwyddyn ariannol.