Os yw'ch eiddo yn wag ac yn sylweddol heb ddodrefn, gallech gael eich eithrio rhag taliadau cyngor am hyd at 6 mis. Pan ddaw'r eithriad i ben, byddwch yn gyfrifol am dalu'r swm treth gyngor yn llawn.
Er mwyn cael ei ystyried yn sylweddol heb ddodrefn, ni all unrhyw ddodrefn fod yn eich eiddo ag eithrio:
- carpedi,
- llenni, a
- gosodiadau. Er enghraifft, cegin wedi'i gosod.
Os ydych yn prynu eiddo sydd eisoes yn wag ac yn sylweddol heb ddodrefn, dim ond y rhan sy'n weddill o'r eithriad 6 mis y gallwch ei hawlio.
Er enghraifft, os yw'r eiddo eisoes wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu ers 3 mis, dim ond eithriad am hyd at dri mis y gallwch ei hawlio. Os yw'r eiddo eisoes wedi bod yn wag ac yn sylweddol heb ei ddodrefnu am fwy na 6 mis, ni allwch hawlio eithriad.
Sut i wneud cais am eithriad
Gallwch wneud cais am eithriad eiddo gwag drwy anfon e-bost at trethgyngor@caerdydd.gov.uk
Mae angen i chi ddweud wrthym:
- eich rhif cyfrif Treth Gyngor,
- cyfeiriad yr eiddo sydd heb ei feddiannu,
- y dyddiad y symudwyd y dodrefn allan,
- y dyddiad y daeth yn wag, a
- eich cyfeiriad cartref presennol.
Er mwyn cael eich eithrio, efallai y bydd angen i ni ymweld â'ch eiddo. Gallwn hefyd ofyn am ddod yn ôl ac archwilio'ch eiddo ar unrhyw adeg ar ôl i'r eithriad gael ei ro.
Os yw'ch eiddo yn dal yn wag a heb ei ddodrefnu ar ôl 12 mis, byddwn yn ychwanegu
ffi premiwm o 100% at eich bil.
Eiddo wedi'i ddodrefnu nad oes neb yn preswylio ynddynt ac ail
Ni allwch gael gostyngiad ar gyfer y rhan fwyaf o eiddo wedi'i ddodrefnu sy'n ail gartrefi neu neb yn preswylio yno. Fodd bynnag, gallwch gael gostyngiad o 50%:
- os yw eich eiddo yn garafán ar lain o dir neu gwch gydag angorfa,
- os ydych hefyd yn gyfrifol am y dreth gyngor mewn eiddo arall sy'n gysylltiedig â swydd. Er enghraifft, tafarn,
- os ydych yn aelod o'r lluoedd arfog ac yn byw mewn eiddo a ddarperir, neu
- mae’r person atebol am y taliad wedi marw ac nid oes grant profiant wedi’i gymeradwyo, neu mae llai na 12 mis wedi bod ers y cymeradwyo’r grant.
O 1 Ebrill 2024, codir
premiwm o 100% arnoch os oes gennych ail gartref, neu eiddo wedi'i ddodrefnu nad yw'n breswylfa i neb. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi dalu taliad o 200%.