Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gwneud cais am fathodyn glas

​​​​​​​​​​​​​​​​​Rydym yn ymwybodol o'r oedi wrth i’r Adran Gwaith a Phensiynau brosesu dyfarniadau Taliad Annibyniaeth Bersonol (TAB).

​Os yw eich bathodyn glas i fod i gael ei adnewyddu ac nad ydych wedi derbyn eich llythyr dyfarniad TAB newydd, gallwn dderbyn llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau gydag estyniad amser ar gyfer eich dyfarniad TAB fel prawf o'ch hawl.

​Fel arall, os nad oes gennych lythyr estyniad am​ser yna gallwch gyflwyno cais meddygol. Darllenwch ein canllaw ar wneud cais meddygol​​.


​​

​​​​​​​​












​Cyn i chi wneud cais am fathodyn glas, gwiriwch a ydych yn gymwys​.

Rhaid i chi brofi eich bod yn gymwys os hwn yw eich cais cyntaf neu os ydych yn adnewyddu'ch bathodyn. 

Gallwch wneud cais drosoch eich hun neu ar ran rhywun arall. 

Mae bathodynnau glas ar gael am ddim yng Nghymru ac yn ddilys am hyd at 3 blynedd. 


Bydd angen llun digidol arnoch i wneud cais am fathodyn glas ar-lein. Rhaid rhoi llun newydd bob tro y byddwch yn gwneud cais. 

Rhaid i'r llun fod yn un diweddar ar ffurf pasbort. 

Efallai bydd eich cais yn cael ei oedi os nad yw'ch llun yn addas. 

Rhaid i'ch llun: 

  • fod yn glir ac yn gryno, 
  • fod o’ch pen a'ch ysgwyddau yn unig,
  • fod mewn lliw, 
  • fod ar gefndir plaen neu liw golau, a
  • beidio â bod yn hunlun.​​


Yn eich llun mae'n rhaid i chi: 

  • fod yn wynebu tua’r blaen ac yn edrych yn syth at y camera, a​​​​​​​ 
  • peidio â chael unrhyw beth yn gorchuddio'ch wyneb. 


Os ydych yn cyflwyno llun printiedig, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw a dyddiad geni'r ymgeisydd ar gefn y llun. 

Os na allwch chi ddarparu llun adnabod gyda'ch cais, dylai'r llun argraffedig a ddarperir gennych fod wedi ei wirio gan berson proffesiynol.

Dyma rywun rydych chi'n ei adnabod yn broffesiynol nad yw'n ffrind nac yn aelod o'r teulu. Er enghraifft: 

  • meddyg,
  • cyfreithiwr,
  • gweithiwr cyngor,
  • fferyllydd,
  • swyddog heddlu, neu
  • weithiwr banc neu gymdeithas adeiladu.
     

Rhaid iddynt gynnwys y geiriau “mae hwn yn debygrwydd gwirioneddol o..." ynghyd â llofnod a galwedigaeth.



Rhaid i chi brofi eich bod yn gymwys bob tro y gwneir cais, hyd yn oed os oedd gennych fathodyn glas yn y gorffennol. Rhaid i'r prawf meddygol rydych yn ei ddarparu fod o fewn y 12 mis diwethaf. 

Mae angen cymaint o wybodaeth a thystiolaeth â phosibl arnom i asesu cyflwr meddygol. Os na fyddwn yn derbyn y dystiolaeth sydd ei hangen arnom, gallai gymryd mwy o amser i brosesu eich cais. 

Os byddwch yn dweud yn eich cais eich bod yn cael meddyginiaeth ar bresgripsiwn, bydd angen i chi ddarparu prawf o bresgripsiynau ailadroddus. 

Os byddwch yn dweud yn eich cais eich bod yn derbyn neu wedi derbyn gwasanaethau neu driniaethau fel Pryd ar Glud, gwasanaethau gofal, ffisiotherapi, clinigau poen ac ati, bydd angen i chi ddarparu prawf o hyn. 

Os byddwch yn dweud yn eich cais eich bod yn defnyddio cymorth cerdded, bydd angen i chi ddarparu prawf prynu neu lythyr gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a ragnododd y cymorth symudedd. 

Tystiolaeth


Rhai enghreifftiau o dystiolaeth y gellir eu darparu: 

  • llythyr neu adroddiad gan feddyg ymgynghorol
  • llythyr neu adroddiad gan therapydd galwedigaethol
  • llythyr neu adroddiad gan ffisiotherapydd
  • llythyr gan glinig poen
  • llythyr gan nyrs ardal 
  • llythyr gan weithiwr cymorth
  • copi o'r cynllun gofal
  • Adroddiad Gwasanaethau Cymdeithasol neu dîm Gofal Cymdeithasol Oedolion


Gallwch ddarparu crynodeb meddyg teulu o nodiadau sy'n nodi'r diagnosis os nad oes gennych unrhyw dystiolaeth arall ar gael. 

Ni ellir derbyn llythyrau apwyntiadau, cardiau neu bresgripsiynau fel tystiolaeth gan nad ydyn nhw’n cynnwys gwybodaeth feddygol. Fodd bynnag, gellir eu hychwanegu fel tystiolaeth ategol.



Gwasanaeth Cynghori Annibynnol


Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu gwasanaeth cynghori annibynnol ar gyfer awdurdodau lleol os nad oes modd gwneud penderfyniad ar gais meddygol.

Os na allwn ddod i benderfyniad, byddwn yn anfon ffurflen gais atoch y mae'n rhaid i chi ei llenwi a'i dychwelyd atom. 

Pan fyddwn wedi derbyn eich cais, byddwn yn ei gyfeirio i’r gwasanaeth cynghori annibynnol. Byddan nhw’n cysylltu â chi gyda'u penderfyniad neu'n gofyn i chi am fwy o wybodaeth. 

Byddwn yn ysgrifennu atoch os bydd eich cais yn cael ei wrthod.​

Gwnewch gais am eich bathodyn glas ar-lein


Gallwch wneud cais am fathodyn glas ar-lein. Bydd angen i chi gynnwys: 

  • eich manylion personol,
  • eich Rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych un),
  • manylion eich bathodyn glas presennol (os ydych yn adnewyddu),​ a​​
  • llun digidol diweddar. Darllenwch ein canllaw lluniau digidol ar y dudalen hon. 


Bydd angen i chi hefyd gael llun neu sgan o'ch:

  • cerdyn adnabod â llun, megis pasbort, trwydded yrru neu bàs bws,
  • prawf o gyfeiriad o fewn y 12 mis diwethaf, megis bil treth gyngor neu lythyr y llywodraeth,
  • prawf o fudd-daliadau (os ydych yn eu cael), a
  • prawf o gyflwr meddygol a sut mae'n effeithio ar eich symudedd. Darllenwch ein canllaw ar wneud cais meddygol.


Os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni. Dylech gynnwys enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r ymgeisydd yn yr ymchwiliad. 

​Gwnewch gais am eich bathodyn glas mewn Hyb 

​Os na allwch wneud cais ar-lein, gallwch ymweld â'ch Hyb lleol, lle gall aelod o staff eich cynorthwyo i gyflwyno'ch cais. Gall staff hefyd gymryd copïau o'ch dogfennau a thynnu llun i chi, i'w gynnwys yn eich cais. Yna gallant gyflwyno'ch cais yn ddigidol. 

Chwiliwch am Hybiau sy’n cynnig gwasanaethau bathodyn glas​. ​



​​

Cysylltu â ni​

Cyn cysylltu â ni, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio'r cyfeiriad e-bost a ddefnyddiwyd gennych ar eich cais. Bydd unrhyw ddiweddariadau cynnydd cais wedi cael eu hanfon i'r cyfeiriad hwn.

Gall gymryd hyd at 12 wythnos i gais gael ei brosesu. Peidiwch â chysylltu â ni os ydych wedi gwneud cais o fewn yr amser hwn oherwydd gall hyn ymestyn eich cais.

Os gwnaethoch gais dros 12 wythnos yn ôl ac nad ydych wedi derbyn unrhyw ddiweddariadau, cysylltwch â ni.

Ffôn: 029 2087 3209 (9:30am i 12pm, dydd Llun i ddydd Gwener)
E-bost: BathodynnauAnabledd@caerdydd.gov.uk

Neu, bydd angen i chi roi enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r ymgeisydd yn llawn:

Ffurflen gyswllt​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd