Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Alcohol a Chyffuriau

​Mae yfed mwy na’r hyn a argymhellir yn effeithio ar eich iau/afu, stumog a chalon ac yn cynyddu eich siawns o gael canser, trawiad ar y galon a phroblemau o ran ffrwythlondeb.
 
Os hoffech siarad â rhywun am alcohol neu gyffuriau, un ai ar eich rhan eich hun neu er mwyn helpu rhywun agos, mae amrywiaeth o wasanaethau ar gael yng Nghaerdydd.

Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd

 
Mae TAChC (Tîm Alcohol a Chyffuriau Caerdydd) yn cynnig help ymarferol, cyfarwyddyd, gwasanaeth cwnsela a gofal cymdeithasol i bobl y mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio ar eu bywydau.

Mae tîm gwaith cymdeithasol TAChC yn gweithio gydag unigolion i nodi ac asesu eu hanghenion,  gan awgrymu a chynnig cyngor o ran unrhyw wasanaethau priodol sydd ar gael.

Mae tîm TAChC hefyd yn cynnig cwnsela ar sail un wrth un.

029 2078 8300
 

​​
© 2022 Cyngor Caerdydd