Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rhoir gorau i ysmygu

Boed hynny am resymau’n ymwneud  â’ch iechyd neu i arbed arian, byddai’r rhan fwyaf o ysmygwyr yn dymuno rhoi’r gorau iddi.

Mae rhoi’r gorau i ysmygu yn cynnwys llawer o fanteision gan gynnwys:
 
  • llai o risg o gael canser, clefyd y galon a’r ysgyfaint, 
  • gwella iechyd yn gyffredinol, a 
  • gwella lefelau ffrwythlondeb.

 

Byddwch yn teimlo’r manteision o stopio 'smygu yn syth. Dyma beth allwch chi ei ddisgwyl: 

  • 8 awr - Bydd lefelau'r nicotin a charbon monocsid yn eich gwaed wedi lleihau gan 50%. Bydd eich lefelau ocsigen yn normal eto. 
  • 24 awr – Bydd carbon monocsid yn gadael y corff, bydd yr ysgyfaint yn dechrau gwaredu llysnafedd a gweddillion eraill sydd ynghlwm wrth ysmygu. 
  • 48 awr – Does dim nicotin ar ôl yn y corff a byddwch yn gallu blasu a gwynto’n llawer gwell. 
  • 72 awr – Byddwch yn ei chael hi’n haws i anadlu. Bydd y tiwbiau bronciol yn dechrau ymlacio a bydd eich lefelau egni’n cynyddu.  
  • 2-12 wythnos – Cylchrediad gwell. 
  • 3-9 mis – Bydd problemau tagu, gwichian ac anadlu yn gwella wrth i swyddogaeth yr ysgyfaint gynyddu gan hyd at 10%.  
  • Blwyddyn – Bydd y risg o gael trawiad ar y galon yn hanner o'i gymharu â rhywun sy'n 'smygu. 
  • 10 mlynedd – Bydd y risg o ganser ar yr ysgyfaint yn hanner o'i gymharu â rhywun sy'n 'smygu. 
  • 15 mlynedd – Risg o gael trawiad ar y galon yr un peth â rhywun sydd heb 'smygu erioed. 



Mae plant sydd â rhieni nad ydynt yn ysmygu yn llai tebygol o ddioddef broncitis, niwmonia, asthma, llid yr ymennydd a haint yn y glust.

Pa gymorth sydd ar gael?


Os hoffech roi’r gorau i ysmygu, gallwch lwyddo gyda help gan eich meddyg teulu neu Helpa fi i Stopio​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd. 


 

Mae Helpio fi i Stopio​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd yn wasanaeth GIG am ddim a ariennir ac a redir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r gwasanaeth yn cynnig cyngor a gwasanaethau i ddiogelu a gwella iechyd a lles pobl yng Nghymru.

 

0800 085 2219

 

Chwilio am wybodaeth a chymorth yng Nghaerdydd i’ch helpu i roi’r gorau i ysmygu​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


​​
© 2022 Cyngor Caerdydd