Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Gwneud cais am docyn bws

Caiff pob person hŷn a pherson anabl deithio ar wasanaethau bws lleol am ddim yng Nghymru.

Gall pobl anabl sydd angen cymorth i deithio hefyd fynd â rhywun gyda nhw am ddim.

Pwy all wneud cais am bàs bws?

Gallwch wneud cais os ydych:

  • yn hŷn na 60 oedyn,
  • dioddef o anabledd neu anaf sy'n ei gwneud yn anodd iawn i chi gerdded,
  • yn fyddar a heb leferyddyn,
  • ddall neu'n rhannol ddall,
  • yn debygol o gael eich gwrthod am drwydded gyrru Adran 92 Deddf Traffig Ffyrdd 1988 - onid yw'n ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau neu alcohol yn gyson,
  • ni allwch ddefnyddio'r ddwy fraichmae, neu
  • gennych anabledd dysgu.

Pa fysus alla i ddefnyddio fy mhàs arnynt?

Gellir defnyddio pasys ar:

  • Pob gwasanaeth bws lleol yng Nghymru 7 diwrnod yr wythnos unrhyw adeg o'r dydd.
  • Gwasanaethau TrawsCymru.
  • Gwasanaeth gwennol X10 Caerdydd i Abertawe.

Ni ellir defnyddio'r pasys i deithio ar y National Express neu'r MegaBus.

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau bws ar gael ar wefan Traveline Cymru.

Mae rhai cynghorau sydd ar y ffin â Lloegr hefyd wedi trefnu i'r pasys fod yn ddilys ar lwybrau i drefi'r gororau.

Sut ydw i'n gwneud cais?

Gwnewch gais ar-lein ar wefan Trafnidiaeth Cymru.

Bydd angen eich rhif yswiriant gwladol arnoch a llun digidol o'ch hun os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf.

I adnewyddu, bydd angen rhif eich pàs bws presennol arnoch.

Os oes angen ffurflen gais bapur arnoch, ffoniwch 0300 303 4240 neu gallwch gael help i wneud cais yn un o'n Hybiau Cynghori.

Colli neu ddwyn pàs

Gofynnwch am bàs newydd gan Trafnidiaeth Cymru.