Dim ond os oes gennych le parcio oddi ar y stryd y gallwch osod man gwefru gartref.
Mae ychydig o bwyntiau pwysig i'w hystyried os ydych chi'n meddwl am osod man gwefru gartref:
- Caniatâd gan y perchennog:
Rhaid i chi gael caniatâd ysgrifenedig gan berchennog yr eiddo.
Os ydych chi'n denant gyda Chyngor Caerdydd, bydd angen caniatâd arnoch gan y Gwasanaethau Tai drwy C2C ar 029 2087 2088.
- Cydymffurfio:
Rhaid i chi wirio a gwneud yn siŵr bod eich gosodwr yn bodloni'r holl reoliadau profi trydanol ac adeiladu.
- Yswiriant:
Rhaid bod gennych yr yswiriant priodol i ddefnyddio'r gwefrydd yn eich eiddo.
- Caniatâd cynllunio:
Efallai y bydd angen caniatâd cynllunio arnoch i osod man gwefru.
Darllenwch fwy am ganiatâd cynllunio ar gyfer mannau gwefru gartref.
Mae eich gosodwr hefyd yn gallu rhoi arweiniad am hyn.
- Cymorth ariannol:
Darllenwch fwy am gymorth ariannol ar gyfer mannau gwefru gartref.
Sylwch:
Allwch chi ddim gosod man gwefru ar y palmant y tu allan i'ch cartref.
Allwch chi ddim gadael i gebl lusgo dros y palmant i wefru'ch car. Hyd yn oed os yw cebl wedi'i orchuddio neu'n rhedeg trwy gyli, mae'n gallu achosi perygl baglu neu fod yn rhwystr i bobl sy'n defnyddio'r palmant. Pe bai rhywun yn cael ei anafu, gallech chi fod yn atebol.
Rydyn ni'n monitro cynlluniau peilot i weld a oes modd datrys problemau diogelwch a gweithredol.
