Darparu cartrefi newydd sy'n diwallu anghenion a dyheadau tai pobl hŷn
Gweithio mewn partneriaeth ag adrannau Iechyd a Landlord Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) i ddatblygu cynllun sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn datblygu tai fforddiadwy ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys y rheiny sy'n byw â dementia ac amrywiaeth eang o anghenion gofal.
Darparu isafswm o 741 o gartrefi newydd ar gyfer pobl hŷn erbyn 2030 y bydd 434 ohonynt yn gartrefi cyngor, 207 yn gartrefi gyda Landlord Cymdeithasol Cofrestredig a 100 i bobl hyn eu prynu, a datblygu cynigion ychwanegol yn rhan o'n hymrwymiad i adeiladu 2,000 o gartrefi newydd.
Cynyddu'r cyflenwad o dai 'parod ar gyfer gofal' i bobl hŷn sy'n addas ar gyfer heneiddio yn y lle ac sy'n galluogi darpariaeth o ofal yn y cartref.
Gwella cartrefi presennol i sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn cefnogi byw'n annibynnol
Gweithio gyda phartneriaid Landlord Cymdeithasol Cofrestredig i ddeall cyflwr tai presennol y ddinas ar gyfer pobl hŷn gan gynnwys y potensial i'w defnyddio yn y dyfodol. Adolygu pob eiddo "oedran-ddynodedig" y Cyngor er mwyn gwella hygyrchedd.
Parhau i ailwampio ein stoc o dai gwarchod ar sail fesul cynllun, gan sicrhau achrediad y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall (RNIB) ar gyfer y cynlluniau sydd wedi eu hailwampio.
Cynllunio cartrefi a chymunedau newydd i ddiwallu anghenion tai a gofal ar draws pob deiliadaeth yn y dyfodol
Gweithio tuag at roi'r Polisi Cynllunio Cymru newydd ar waith yn llawn fel y mae'n ymwneud â thai pobl hŷn, gan gynnwys y defnydd o Ganllawiau Cynllunio Atodol lle bo'n briodol.
Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol nesaf, pennu targed ar gyfer darpariaeth o dai i bobl hŷn sy'n agos at y canolfannau newydd lleol neu o gwmpas iddynt, a gweithio gyda datblygwyr i fwrw'r targed hwn.
Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth sy'n benodol i'r person a datblygu "Uned Cartrefi Hygyrch ac i Bobl Hyn"
- Darparu cyngor arbenigol ar dai i bobl hŷn i'w helpu i ddeall eu dewisiadau tai.
- Sicrhau bod cyngor a gwybodaeth ar gael ar ein gwefannau, mewn Hybiau a thrwy ddigwyddiadau gwybodaeth.
- Cefnogi pobl ag anableddau i gael mynediad i eiddo wedi'i addasu.
- Hyrwyddo Tai Gofal Ychwanegol fel dewis arall i ofal preswyl ac fel cam i lawr o'r ysbyty.
- Hwyluso cyfnewidiadau rhwng tenantiaid cymdeithasol trwy wybodaeth a ddelir ar y Rhestr Aros Tai..
- Cefnogi pobl hŷn i symud i lety llai, mwy priodol.
Helpu pobl hŷn i gynnal eu hannibyniaeth yn hwy
- Parhau i ddatblygu'r Gwasanaeth Byw'n Annibynnol i helpu pobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartrefi a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau y cynhelir cyllid ar gyfer hyn.
- Parhau a'n hymrwymiad i ddarparu addasiadau i'r anabl er mwyn sicrhau bod pobl hŷn yn gallu aros yn annibynnol yn eu cartrefi.
- Adlewyrchu dewisiadau tai ac anghenion cymdeithasol ehangach pobl hŷn yn well yn y Polisi Dyrannu Tai Cymdeithasol, gan ystyried allgau cymdeithasol, rhwydweithiau cymorth a'r a chymuned. Sicrhau bod y polisi'n cefnogi'r rhai sydd am symud i lety llai.
- Gweithio i ddeall sut mae crefydd yn effeithio ar anghenion tai.
Sicrhau y diwellir anghenion y bobl sydd fwyaf agored i niwed
- Gwella dyraniad llety i bobl hŷn, gofal ychwanegol ac wedi'i addasu, gan gynyddu'r wybodaeth sydd ar gael am anghenion a dyheadau unigolion a sicrhau bod blaenoriaeth i'r rheiny sydd ei angen fwyaf.
- Adolygu darpariaeth y cynlluniau tai gwarchod i sicrhau ei bod yn diwallu anghenion pobl hŷn yn y dyfodol ac archwilio'r cyfle i uwchraddio rhai cynlluniau tai gwarchod presennol i "Tai Gwarchod Ychwanegol" neu "Ofal Ychwanegol Ysgafn", i lefel angen uwch.
- Datblygu dulliau newydd o wasanaethau gofal, chymorth a nyrsio sy'n galluogi pobl i aros yn eu cartrefi eu a'u cymunedau eu hunain a darparu'r safon uchaf o gartrefi gofal i bobl sydd â'r anghenion mwyaf cymhleth.
- Archwilio'r defnydd o dechnoleg newydd ymhellach i helpu pobl i aros yn annibynnol yn eu cartrefi'n hwy.
- Byddwn yn ystyried yr achosion cymorth yn ôl yr angen i ddeall yn llwyr anghenion cymorth unigolion â phroblemau iechyd meddwl yn llawn.
Creu cymunedau cryfach, mwy cynhwysol a helpu i atal allgáu cymdeithasol
- Gwneud defnydd gwell o'n Cynlluniau Byw yn y Gymuneud er mwyn cynnig gwasanaethau i'r gymuned ehangach, mewn partneriaeth â phartneriaid iechyd, gofal cymdeithasol a'r trydydd sector.
- Darparu gwasanaeth iechyd a lles newydd, gweithio trwy ein Hybiau a chyda phartneriaid i ddatblygu digwyddiadau, gweithgareddau ac amrywiaeth o gyngor iechyd er mwyn diwallu anghenion lles pobl hŷn.
- Peilota dull newydd i weithwyr iechyd proffesiynol fynd i'r fael ag anghenion y person gan ei atgyfeirio i wasanaethau llesiant yn y gymuned.
- Sicrhau bod pob aelod staff yr Hybiau yn cael cael hyfforddiant ymwybyddiaeth Cyfeillion Dementia a chynnal caffis dementia a sesiynau cefnogaeth yn yr Hybiau.
Arolwg Pobl Hŷn
Dywedodd ymatebwyr a nododd eu bod yn ystyried symud yn y dyfodol bod y mathau canlynol o dai yn well ganddynt:
- 46% Byngalo
- 29% Tŷ
- 21% Fflat
- Byddai'n well gan 58% gael o leiaf ddwy ystafell wely
Mae 44% o'r cleientiaid a holwyd yn ystyried symud yn y dyfodol
Byddai 45% o'r rheiny sy'n rhentu a 23% o'r rheiny oedd yn berchen ar dŷ yn ystyried symud i dŷ penodol ar gyfer pobl hŷn.
