Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Cerbydau hacni

Gall tacsi (gaiff ei adnabod hefyd fel cerbyd hacni):

  • gail ei alw o'r stryd,
  • weithredu o safleoedd tacsis, a
  • gael ei archebu rhag blaen os oes angen.

Mae cerbydau hacni a drwyddedir gan gyngor Caerdydd yn ddu gyda chwfl gwyn neu'n dacsi du math Llundain.

Dylent oll feddu ar:

  • olau ar y to i nodi pan fo'r cerbyd ar gael i'w hurio
  • plât gwyn ar y cefn a'r rhif trwydded arno
  • mesurydd tacsi, golau ar y to a thabl dangos y pris yn y cerbyd.

Tariff Cerbyd Hacni

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976


Tariff 1

Ar gyfer unrhyw logi o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 5am a 8pm, ac eithrio ar wyliau cyhoeddus:

  • Am y 250 llathen gyntaf mae isafswm tâl o £3.50 (yn daladwy ymlaen llaw)
  • Ar gyfer pob 170 llathen ychwanegol codir tâl o 20c (yn daladwy ymlaen llaw)
  • Bydd tâl o 30c am bob 40 eiliad o amser aros (gan gynnwys o dan 8mya)

Tariff 2

Ar gyfer unrhyw logi naill ai o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8pm a 10pm, neu ddydd Sadwrn neu ddydd Sul rhwng 5am a 10pm, ac eithrio ar wyliau cyhoeddus:

  • Am y 250 llathen gyntaf mae isafswm tâl o £3.50 (yn daladwy ymlaen llaw)
  • Ar gyfer pob 150 llathen ychwanegol codir tâl o 20c (yn daladwy ymlaen llaw)
  • Bydd tâl o 30c am bob 35 eiliad o amser aros (gan gynnwys o dan 8mya)

Tariff 3

Am unrhyw logi rhwng 10pm ar unrhyw ddiwrnod a 5am y diwrnod canlynol neu ar unrhyw adeg ar wyliau cyhoeddus:

  • Am y 250 llathen gyntaf mae isafswm tâl o £3.50 (yn daladwy ymlaen llaw)
  • Ar gyfer pob 130 llathen ychwanegol codir tâl o 20c (yn daladwy ymlaen llaw)
  • Bydd tâl o 30c am bob 30 eiliad o amser aros (gan gynnwys o dan 8mya)

Ffioedd Ychwanegol

  • Mae pob tariff yn seiliedig ar 1 - 4 teithiwr. Mae tâl ychwanegol o £1 y teithiwr os oes mwy na 4 teithiwr yn teithio.
  • Ychwanegir £3 at deithiau sy'n digwydd ar Noswyl Nadolig, Dydd Nadolig, Gŵyl San Steffan, Nos Galan neu Ddydd Calan.
  • £60 am drochi'r cerbyd.

Byddwch yn ymwybodol os gwelwch yn dda:

  • Rhaid i'r gyrrwr ddefnyddio'r mesurydd ar gyfer pob taith o fewn ffiniau Caerdydd, ac ni chaiff fod yn fwy na Thariff Cerbyd Hacni.
  • Ar gyfer teithiau sy'n dod i ben y tu allan i ardal Caerdydd ac ni chytunwyd ar y pris cyn dechrau'r daith, ni chaiff y pris fod yn fwy na Thariff Cerbyd Hacni.

Ni all gyrwyr Cerbyd Hacni wrthod taith sy'n dechrau a gorffen o fewn Caerdydd a rhaid i yrwyr ddefnyddio'r mesurydd ar gyfer y prisiau hyn. Fodd bynnag, gallant wrthod unrhyw daith sy'n gorffen y tu allan i Gaerdydd a does dim rhaid iddynt ddefnyddio mesurydd bryd hynny.

Mae teithiau a nodir ar fesurydd yn cael eu rheoli gan Gyngor Caerdydd.

Os yw gyrrwr Cerbyd Hacni wedi gwrthod mynd â chi gan fod y daith yn rhy fyr, neu os nad yw'r gyrrwr neu'r cerbyd yn cwrdd â'ch disgwyliadau, gallwch adrodd am hyn i Is-adran Trwyddedu Cyngor Caerdydd.