Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Ardoll Ymwelwyr

​Mae Cyngor Caerdydd wedi penderfynu rhoi Ardoll Ymwelwyr ar waith o 1 Ebrill 2027 sy'n cwmpasu ôl troed awdurdod lleol Caerdydd. Gweld gwybodaeth am yr ymgynghoriad ar yr Ardoll Ymwelwyr​ ​.

Mae'r ardoll yn cael ei phennu gan ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru fel:

  • £1.30 y pen y noson ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o lety
  • 75c y pen y noson ar gyfer lleiniau ac ardaloedd ar gyfer gwersylla, ac ystafelloedd a rennir fel hosteli.

Mae'r Ardoll Ymwelwyr yn ddarostyngedig i Dreth ar Werth (TAW).  Os yw darparwr llety wedi'i gofrestru ar gyfer TAW, rhaid iddo ychwanegu TAW cyfradd safonol (20% yn y DU) i'r swm a gesglir ar gyfer yr ardoll. 

Ni fyddwch yn talu'r ardoll ymwelwyr os ydych chi: 

  • o dan 18 oed ac yn aros mewn pabell ar lain safle gwersylla neu mewn ystafell a rennir (fel hostel neu ystafelloedd cysgu)
  • mae archebu yn caniatáu i chi aros am fwy na 31 noson 
  • mewn tai brys neu dros dro a drefnwyd gan y Cyngor lleol mewn perthynas â digartrefedd.

Am ragor o wybodaeth, gwelwch y cynnig ar gyfer yr Cynnig Ardoll Ymwelwyr (PDF, 678 KB)

Dysgwch fwy am ddeddfwriaeth yr Ardoll Ymwelwyr ar wefan Llywodraeth Cymru.