Os oes gennych anabledd dysgu efallai y byddwch yn ei chael yn anodd:
- deall gwybodaeth newydd neu gymhleth,
- dysgu sgiliau newydd, neu
- ymdopi ar eich pen eich hun.
Gallwch chi ddysgu mwy ar wefan Anableddau Dysgu Caerdydd.
Yr hyn i'w wneud os oes angen help arnoch
Os oes gennych chi (neu rywun rydych chi'n ei nabod) anabledd dysgu a bod angen help arnoch, gallwn drefnu i weithiwr cymdeithasol gynnal asesiad i weld a allwn helpu mewn unrhyw ffordd. Rhaid i chi fod yn 18 oed neu'n hŷn i gael help.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen gyswllt anableddau dysgu i wneud cais am asesiad.
Unwaith i chi wneud cais am asesiad bydd gweithiwr cymdeithasol yn cysylltu â chi i gael gwybodaeth amdanoch chi a phennu pa wasanaethau y gallem eu cynnig i chi.
Ffurflen gyswllt anableddau dysgu
Beth sy'n digwydd nesaf?
Os gallwn gynnig gwasanaeth i chi byddwn yn siarad â chi a'ch gofalwr am eich anghenion ac yn ceisio dod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnoch neu roi arian i chi taliadau uniongyrchol i dalu am y cymorth hwn.
Os na allwn gynnig gwasanaeth i chi byddwn yn ceisio rhoi cymorth i chi ddod o hyd i bobl eraill a allai eich helpu chi, fel gwasanaethau a sefydliadau iechyd.
Dogfennau defnyddiol:
- Gwasanaethau anabledd dysgu (PDF, 739 KB)
- Byw'n Dda gydag Anabledd Dysgu i Oedolion Caerdydd 2024 i 2029 (PDF, 12 MB)
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni.
029 2053 6111
