Toggle menu

Uwchraddio'r wefan ddydd Mawrth 23 Mehefin

Bydd y symud hwn yn digwydd ar ddydd Mawrth 23 Mehefin.

Hygyrchedd ein ap

Lansiwyd ap CardiffGov yn 2018 ac mae'n rhoi swyddogaeth i gwsmeriaid anfon adroddiadau, gwirio casgliadau gwastraff a rheoli treth gyngor.

Fersiwn ddiweddaraf o'r ap: Chwefror ​2026

Mwy o wybodaeth am ap Cyngor Caerdydd​.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i ap Cyngor Caerdydd. Mae gennym hefyd ddatganiad hygyrchedd ar gyfer ein wefan.

Cynhelir yr ap hwn gan Gyngor Caerdydd. ​​Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r ap hwn.

Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu: 

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau, 
  • llywio'r rhan fwyaf o'r ap gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig, 
  • llywio'r rhan fwyaf o'r ap gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais, 
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r ap gan ddefnyddio darllenydd sgrin. 

Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar yr ap mor syml â phosibl i'w ddeall. Mae gan yr elusen AbilityNet gyngor ar sicrhau bod eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd. ​

Pa mor hygyrch yw'r ap hwn

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r ap hwn yn gwbl hygyrch. Mae hyn yn cynnwys:

  • Porth y Dreth Gyngor
  • E-daliadau
  • Map ar-lein i-share ​

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am y rhaglen hon ar gyfer dyfeisiau symudol mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysylltwch â ni.

Adrodd problemau hygyrchedd o ran yr ap hwn

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd yr ap hwn. Os canfyddwch unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

www.caerdydd.gov.uk/adborthamyrap​

Neu e-bostiwch at [email protected]

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018​ (y 'rheoliadau hygyrchedd').

Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb)​.

Cysylltu â ni dros y ffôn neu ymweld â ni yn bersonol

Rydym yn darparu Gwasanaeth Trosglwyddo Fideo trwy Video Relay Service gan Sign Video i bobl sy'n fyddar, â nam ar eu clyw neu sydd â rhwystr lleferydd.

Dysgwch sut y gallwch gysylltu â Chyngor Caerdydd..

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd yr ap hwn

Mae Cyngor Caerdydd wedi ymrwymo i wneud ei ap yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

​Mae'r ap hwn yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. Rhestrir gweddill y meysydd diffyg cydymffurfio yn y tabl.

Cynnwys nad yw'n hygyrch ​​

Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.​​

1.3.1 Gwybodaeth a pherthnasoedd

Testun sy'n edrych fel pennawd, labeli sy'n gysylltiedig â rhaglenni a labeli dal lle.

​Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Wrth ddefnyddio darllenwyr sgrin ar iOS ac Android, nid yw testun sy'n ymddangos yn weledol fel pennawd yn darllen fel pennawd. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.​

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad a cheisio atgyweiriadau.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mai 2025. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Tachwedd 2025.

1.4.4 Newid maint y testun - testun dalfan wedi'i dorri i ffwrdd yn rhanno

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr:

Os ydych yn defnyddio iOS neu Android ni fyddwch yn gallu chwyddo maint testun i 200% ar y maes 'Rhowch rhan o gyfeiriad'. Mae hyn yn effeithio ar y rhan fwyaf o'r app.

Camau a gymerwyd: Mae'r rhan fwyaf o feysydd yr ap lle achosodd hyn broblem wedi'u trwsio, fodd bynnag, pan fydd y testun wedi'i osod i'r maint mwyaf mae'n achosi problem ar y maes 'Rhowch rhan o gyfeiriad'.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mai 2025. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Tachwedd 2025.

2.1.1 Bysellfwrdd

Opsi​ynau dewis

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android ni fyddwch yn gallu dewis cyfeiriad na dewis canslo. Mae hyn yn effeithio ar yr holl swyddogaethau chwilio am gyfeiriad yn yr app.

Camau a gymerwyd: Mae hyn yn nodwedd greiddiol i Android. Ymchwiliwyd i nifer o newidiadau posibl i ddatrysiadau. Mae datblygwyr Caerdydd wedi dod i'r casgliad na fyddai'r un o'r rhain yn trwsio'r byg.

Canlyniad: Mae tîm y prosiect wedi penderfynu gadael hyn gan ragweld datrysiad Android yn hytrach na chreu cod personol o'i gwmpas.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mai 2025 - Monitro trwsiad Android. I'w adolygu fis Tachwedd 2025.

Dolenni

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych yn defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais iOS, ni fyddwch yn gallu defnyddio'r dolenni yn natganiad preifatrwydd y Dreth Gyngor, yn nhelerau ac amodau'r canolfannau ailgylchu nac ar dudalennau telerau ac amodau casgliadau swmpus.

Camau a gymerwyd: Ymchwiliad a cheisio atgyweiriadau.

Canlyniad: Heb ei drwsio ar hyn o bryd.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mai 2025. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Tachwedd 2025.

2.4.3 Trefn ffocws

Ddim ar gael i adrodd ar ap.

Camau a gymerwyd: Mater rheoli iOS creiddiol. Byddai angen i ddatblygwyr Caerdydd weithredu dull untro o'i drwsio.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio oherwydd nam trydydd parti.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mai 2025. Mynd ati i fonitro'n weithredol am drwsiad iOS. Ailedrych ac adolygu ym mis Tachwedd 2025.​

 

3.2.1 Ar ffocws - dewislenni

Sut mae hyn yn effeithio ar y defnyddiwr: Os ydych chi'n defnyddio bysellfwrdd ar ddyfais Android, ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw un o'r cwymplenni drwy'r app.

Camau a gymerwyd: Ymchwilio ac ymdrechion i ddatrys.

Canlyniad: Nid yw Datblygwyr Caerdydd yn gallu trwsio.

Cynlluniau'r Dyfodol: Diweddariad Mai 2025. Mae ein Datblygwyr yn cynnal ymchwiliad pellach. I'w adolygu fis Tachwedd 2025.

Beth rydyn ni'n ei wneud i wella Hygyrchedd 

Ein nod yw adnabod a thrwsio materion yn yr amserlenni a nodir. Byddwn yn parhau i siarad â darparwyr trydydd parti i weld pa welliannau y gellir eu gwneud i'w systemau. 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Mehefin 2021. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 2 Awst ​2025​.​

Cafodd yr ap hwn ei phrofi ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2021 gan  Swyddfa Ddigidol a Data Ganolog Llywodraeth y DU​

Cynhaliwyd profion cynharach ar​ 8 Mehefin 2021 (iOS) a 15 Mehefin 2021 (Android) gan DAC (Digital Accessibility Centre)​​.

Gweld Adroddiad Hygyrchedd DAC ar gyfer App Gov Caerdydd - Androi (PDF, 1 MB)

Gweld Adroddiad Hygyrchedd DAC ar gyfer App Gov Caerdydd - iOS (PDF, 1 MB)

Darganfyddwch sut mae DAC yn cynnal eu profion​​.