Yn ei gyfarfod ar 19 Hydref 2023 awdurdododd Cabinet y Cyngor swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol mewn perthynas â chynigion a fyddai'n:
Drosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank
- Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9 Dosbarth Mynediad) i 420 o leoedd (2 Ddosbarth Mynediad) a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
Cyfuno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone
- Gau Ysgol Gynradd Allensbank yn swyddogol.
- Cau Ysgol Gynradd Gladstone yn swyddogol.
- Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2 Ddosbarth Mynediad) gyda dosbarth meithrin ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.
Cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol ar 9 Tachwedd 2023 gan ganiatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 6 Rhagfyr 2023.
Derbyniodd y Cyngor bum gwrthwynebiad i'r cynigion a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwrthwynebiadau.
Bydd adroddiad yn nodi manylion y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain, ac argymhellion ar y ffordd ymlaen yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 18 Ionawr 2024.
Yn yr adroddiad argymhellir y Cabinet i:
- Gymeradwyo'r cynigion mewn perthynas ag Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Mynydd Bychan fel y'u cyhoeddir heb eu haddasu.
Mae’r newidiadau arfaethedig yn amodol ar benderfyniad Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i weithredu ei gynnig i drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol, o fis Medi 2025.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2720 neu e-bostiwch:
ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk.
Cyflwynwyd cynigion i ad-drefnu’r ddarpariaeth gynradd i fynd i'r afael â nifer o faterion sy'n effeithio ar y ddarpariaeth cyfrwng Saesneg a chyfrwng Gymraeg sy'n gwasanaethu'r ardaloedd hyn.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn:
- cynorthwyo pob ysgol i barhau i wella addysg ar gyfer eu holl ddysgwyr
- sicrhau bod pob darpariaeth ysgol a gynigir yn diwallu anghenion amrywiol y gymuned leol
- cynorthwyo ysgolion i fod yn gynaliadwy yn ariannol, gyda chyllidebau ysgol sefydlog
- cynorthwyo ysgolion i ddyrannu cyfran uwch o gyllideb i addysgu a dysgu, a thrwy hynny gadw a chynyddu cyfleoedd i ddysgwyr
- cynyddu lleoedd cynradd cyfrwng Cymraeg gan un Dosbarth Mynediad (210 disgybl oedran cynradd)
- cadarnhau lleoedd cynradd cyfrwng Saesneg ynghyd â lefel briodol o leoedd gwag.
Cafodd adroddiad ar yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ym mis Mai a Mehefin 2023 ei ystyried gan Gyngor y Cabinet yn ei gyfarfod ar 19 Hydref 2023.
Roedd yr adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen. Roedd yr adroddiad hwn hefyd yn ystyried sut na fyddai pob un o'r materion uchod yn cael sylw, a'r anawsterau i ysgolion wrth gynnal a gwella ar eu safonau uchel, pe na bai unrhyw newidiadau yn cael eu gwneud i ysgolion sy'n gwasanaethu'r ardal.
Ar ôl ystyried canlyniad yr ymgynghoriad, awdurdododd y Cabinet swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol i:
Drosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank
- Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9 dosbarth mynediad) i 420 o leoedd (2 ddosbarth mynediad) a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
Cyfuno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone
- Cau Ysgol Gynradd Allensbank yn ffurfiol.
- Cau Ysgol Gynradd Gladstone yn ffurfiol.
- Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2 ddosbarth mynediad) gyda dosbarth meithrin ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.
Mae’r hysbysiad statudol yn fyw o 09 Tachwedd 2023 ac mae’n caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at a chan gynnwys 06 Rhagfyr 2023.
Pe byddech am wrthwynebu’r newidiadau arfaethedig, dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad ebost canlynol:
ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk.
Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.
Mae'r newidiadau i’r ddarpariaeth gynradd gymunedol yn amodol ar newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
Yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2023 cytunodd Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i symud ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi hysbysiad statudol cyfreithiol i:
- Trosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, Heol yr Eglwys Newydd, Caerdydd CF14 3JL, i'r adeilad sydd ar hyn o bryd yn cael ei feddiannu gan Ysgol Mynydd Bychan, Heol Seland Newydd, Caerdydd, CF14 3BR.
- Ymestyn ystod oedran yr ysgol o 4-11 i 3-11 gan greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i alluogi cynnig 32 lle rhan amser.
Byddai'r cynigion arfaethedig yn cael eu gweithredu'n llawn o fis Medi 2025.
Yn dilyn y cyfnod gwrthwynebu, bydd Cabinet y Cyngor yn penderfynu ar y cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd Allensbank, Ysgol Gynradd Gladstone ac Ysgol Mynydd Bychan. Mae hyn yn golygu y bydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a fydd y newidiadau yn mynd yn eu blaen. Gall y Cabinet benderfynu cymeradwyo neu wrthod y cynnig, neu ei gymeradwyo â rhai newidiadau (addasiadau).
Os nad oes gwrthwynebiad i'r cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, y Corff Llywodraethu fyddai'n penderfynu'r cynnig. Gall y Corff Llywodraethu benderfynu cymeradwyo, gwrthod neu gymeradwyo'r cynigion gydag addasiadau. Pe baent yn penderfynu cymeradwyo’r cynigion, byddai hyn yn amodol ar y Cyngor hefyd yn cymeradwyo ei gynigion.
Pe bai gwrthwynebiadau i'r cynigion ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica, byddai'r cynigion yn cael eu cyfeirio at yr Awdurdod Lleol i'w penderfynu.
Ar ôl penderfynu ar y cynigion, bydd y Cyngor yn hysbysu'r holl randdeiliaid o'r penderfyniad a bydd hefyd yn cyhoeddi ei benderfyniad ar wefannau'r Cyngor a’r ysgolion.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2917 neu ebostiwch:
ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk.
Adroddiad St Monica
Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica yn cael ei ystyried gan y Corff Llywodraethu yn ei gyfarfod ar 26 Hydref 2023.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Corff llywodraethu o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb Cyngor Caerdydd i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad, argymhellir bod y Corff Llywodraethu yn cytuno i gyhoeddi hysbysiad statudol i:
- drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.
Rhoddir diweddariad ar y newidiadau arfaethedig ar ôl i’r Corff Llywodraethu ystyried yr adroddiad i’r ymgynghoriad.
Adroddiad Cyngor Caerdydd
Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i leoedd ysgolion cynradd i wasanaethu Cathays a rhannau o Gabalfa, y Mynydd Bychan, Ystum Taf a Phlasnewydd yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor ar 19 Hydref 2023.
Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiad statudol i:
- Drosglwyddo Ysgol Mynydd Bychan i safle presennol Ysgol Gynradd Allensbank.
- Cynyddu capasiti Ysgol Mynydd Bychan o 192 o leoedd (0.9 dosbarth mynediad) i 420 o leoedd (2 ddosbarth mynediad) a chynyddu nifer y lleoedd meithrin yn Ysgol Mynydd Bychan o 64 i 96.
- Cyfuno Ysgolion Cynradd Allensbank a Gladstone:
- Cau Ysgol Gynradd Allensbank yn ffurfiol.
- Cau Ysgol Gynradd Gladstone yn ffurfiol.
- Sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd â 420 o leoedd (2 ddosbarth mynediad) gyda dosbarth meithrin ar safle a rennir presennol Ysgol Gynradd Gladstone / Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica.
Byddai’r newidiadau arfaethedig yn cael eu rhoi ar waith o fis Medi 2025.
Mae cyhoeddi’r hysbysiad statudol yn amodol ar gytundeb Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i hefyd gyhoeddi ei gynigion i drosglwyddo Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Santes Monica i safle presennol Ysgol Mynydd Bychan a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol, o fis Medi 2025.
Rhoddir diweddariad ar y newidiadau arfaethedig ar ôl i’r Cabinet a Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Monica ystyried yr adroddiadau ar yr ymgynghoriad.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y newidiadau arfaethedig, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2720 neu e-bostiwch ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk.