Ar 14 Gorffennaf 2022 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlyno:
- Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd
- Ehangu ystod oed yr ysgol o 4-11 i 3-11 drwy greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i gynnig 32 lle rhan amser.
Gweld copi o adroddiad y CabinetDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Gweld copi o'r Llythyr PenderfyniadDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Y broses ymgynghori
Ystyriwyd adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd ar 10 Mawrth 2022 a amlinellodd argymhellion yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar gynigion i ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol.
Gellir gweld yr adroddiad ar yr ymgynghoriadDolen yn agor mewn ffenestr newydd sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion ac ymateb yr Awdurdod a barn Estyn.
Cytunodd y Cabinet i'r Cyngor fwrw ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol cyfreithiol er mwyn:
- Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd
- Ehangu ystod oed yr ysgol o 4-11 i 3-11 drwy greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i alluogi cynnig 32 lle rhan amser.
Yr oedd yr hysbysiad statudol yn fyw o 6 Mai 2022 a caniatáodd cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at a chan gynnwys 2 Mehefin 2022.
Gweld y hysbysiad statudolDolen yn agor mewn ffenestr newydd
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2720 neu e-bostiwch ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk