Fel rhan o raglen Band B Ysgolion y 21ain Ganrif y Cyngor, mae’r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i:
Darpariaeth Uwchradd ac Ôl-16
- Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Willows o 1,121 lle (7.4 Dosbarth Mynediad) i 1,200 lle (8 Dosbarth Mynediad) ar gyfer disgyblion 11-16 oed o fis Medi 2023
- Trosglwyddo Ysgol Uwchradd Willows i Barc Tremorfa, mewn adeiladau newydd, o fis Medi 2023
- Sefydlu darpariaeth ôl-16 i hyd at 250 o ddisgyblion o fewn yr adeiladau newydd o fis Medi 2023
Darpariaeth Gynradd a’r Blynyddoedd Cynnar
- Cau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban, o fis Awst 2021
- Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Baden Powell o 420 lle (2 Ddosbarth Mynediad) i 630 lle (3 Dosbarth Mynediad) o fis Medi 2021
- Lleihau ystod oed Ysgol Gynradd Baden Powell o 3-11 i 4-11 o fis Medi 2021
- Trosglwyddo Ysgol Gynradd Baden Powell i Barc Tremorfa, mewn adeiladau newydd, o fis Medi 2023
- Cynyddu capasiti Ysgol Feithrin Tremorfa o 112 lle i 128 lle a chynyddu ystod y gwasanaethau ar y safle gan gynnwys gofal plant a chymorth rhianta Dechrau’n Deg, o fewn Canolfan Blant Integredig ar safle’r Ysgol Feithrin Tremorfa bresennol a’r safle Ysgol Gynradd Gatholig St Alban gwag o fis Medi 2021
Cyfleusterau Cymunedol
- Gwella cyfleusterau cymunedol yn Nhremorfa drwy adnewyddu rhai o’r cyfleusterau cymunedol awyr agored â rhai sylweddol well fydd wedi eu lleoli ar y safle ysgol newydd a chaeau chwarae newydd i’w rhannu gyda Chlwb Rygbi St Alban a’r gymuned ehangach.
Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei gynnal o 16 Medi tan 04 Tachwedd 2019.
Dweud eich dweud
Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori yn nodi’r manylion arfaethedig.
Ewch i’r
Ddogfen YmgynghoI (2mb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Gweld y
ddogfen grynhoi (581kb PDF)Dolen yn agor mewn ffenestr newydd
Cwblhewch yr arolwg ar-leinDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd
Drwy e-bost i
ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk
Drwy’r post i’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion, Ystafell 422, Neuadd y Sir, Caerdydd, CF10 4UW
Rydym wedi trefnu cyfarfodydd cyhoeddus a sesiynau galw heibio y gallwch fynd iddynt os hoffech i ni esbonio’r newidiadau awgrymedig i chi neu ofyn cwestiynau.
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Mawrth 17 Medi
9:30am – 11:00am | Hyb STAR |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Gwener 20 Medi,
10am-11.30am | Ysgol Gynradd Gatholig St Alban |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Gwener 27 Medi,
10am-1130am. | Ysgol Uwchradd Willows |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Llun 30 Medi
3pm – 4pm | Ysgol Gynradd Stacey |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Mawrth 1 Hydref 9am – 10am | Ysgol Gynradd Moorland |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Mawrth 1 Hydref 10am – 11:30am | Neuadd yr Eglwys St Alban |
Cyfarfod cyhoeddus | Dydd Mercher 02 Hydref
6:30 – 8:00pm | Ysgol Gynradd Gatholig St Alban |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Iau 3 Hydref
5pm – 7pm | Llyfrgell Ganolog |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Mawrth 08 Hydref
1pm – 2:30pm | Meithrinfa Tremorfa |
Cyfarfod cyhoeddus | Dydd Mercher 09 Hydref
6:30 – 8:00pm | Ysgol Uwchradd Willows |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Llun 14 Hydref ,
9am – 10am | Ysgol Gynradd Adamsdown |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Mawrth 22 Hydref
3:30pm – 5pm | Ysgol Gynradd Baden Powell |
Sesiwn Galw Heibio | Dydd Iau 24 Hydref 4.30pm - 6.30pm | St Alban's RFC |