Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Carcharorion

Os ydych yn y carchar, ar remánd neu yn cael eich cadw mewn math arall o ddalfa, gallech fod wedi'ch eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor os ydych yn byw ar eich pen eich hun.

Os ydych yn byw gydag oedolyn arall gallech gael gostyngiad o 25%.

Os ydych chi'n sengl


Byddwch wedi’ch eithrio rhag talu’r dreth gyngor os ydych: 

  • yn y carchar neu ar remánd, a’r
  • unig berson sy'n byw yn eich eiddo.

Os ydych chi mewn cwpl


Gallwch wneud cais am ostyngiad treth gyngor ar y cyd os yw'ch partner ar remánd neu yn y carchar.​

Gwneud cais am ostyngiad neu eithriad


Os hoffech wneud cais am eithriad neu ostyngiad, gallwch e-bostio: trethgyngor@caerdydd.gov.uk 

Bydd angen i chi roi’r canlynol i ni: 

  • eich enw,
  • eich cyfeiriad
  • eich rhif cyfrif Treth Gyngor,
  • eich dyddiad geni
  • y dyddiad y daeth eich eiddo yn wag (os ydych yn sengl),
  • enw a chyfeiriad y carchar, a 
  • y dyddiad yr aethoch chi neu’ch partner i'r carchar


    .


​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd