Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Rheoli manylion eich bathodyn glas

Rhaid i chi ddweud wrthym os bydd eich manylion neu'ch amgylchiadau'n newid. Mae'n bwysig bod ein cofnodion yn gyfredol fel bod eich bathodyn yn aros yn ddilys.  

Beth i'w wneud os ydych wedi symud​​​ 

Os ydych yn symud i Gaerdydd o awdurdod arall, bydd angen i chi gysylltu â'ch awdurdod blaenorol i ddweud wrthyn nhw eich bod wedi symud. Byddan nhw'n trosglwyddo manylion eich bathodyn i ni. 

Os ydych yn symud allan o Gaerdydd, cysylltwch â ni er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion a'ch trosglwyddo i'ch awdurdod newydd.

Gallwch barhau i ddefnyddio'ch bathodyn. Nid oes angen i chi wneud cais am fathodyn newydd nes bod eich un presennol yn dod i ben.  

Beth i'w wneud os nad oes angen y bathodyn mwyach 

Os nad oes angen bathodyn glas dilys arnoch, dylech ei ddychwelyd atom. 

Bydd angen i chi ddychwelyd y bathodyn os:

  • yw deiliad y bathodyn wedi marw,
  • nad yw'r rhesymau meddygol yn berthnasol mwyach, 
  • mae eich Lwfans Byw i'r Anabl neu'r Taliad Annibyniaeth Bersonol wedi'i ddileu, neu
  • mae deiliad y bathodyn wedi symud i gartref gofal neu gartref preswyl ac nad yw angen bathodyn mwyach.​
    ​​​

  • Nid oes angen i chi ddychwelyd bathodyn sydd wedi dod i ben, gellir dinistrio hyn. Fodd bynnag, gwnewch yn siŵr nad ydych yn arddangos bathodyn sydd wedi dod i ben mewn unrhyw gerbyd.​

    Amnewid bathodyn glas sydd wedi'i golli neu ei ddifrodi 

    Os byddwch yn colli neu'n difrodi eich bathodyn, bydd ffi amnewid o £10. 

    Os rhoddwyd gwybod am ddwyn eich bathodyn glas, efallai y byddwn yn gallu rhoi bathodyn newydd am ddim. Bydd rhaid i chi gynnwys rhif cyfeirnod trosedd dilys gyda'ch cais cyn y gallwn adnewyddu eich trwydded.  

    Os yw eich bathodyn ar fin dod i ben mewn llai na 3 mis, bydd angen i chi gyflwyno cais adnewyddu yn lle hynny.  

    Er mwyn cael bathodyn glas newydd, bydd angen i chi ddarparu:

    • eich manylion personol, 
    • eich rhif yswiriant gwladol (os oes gennych un), a 
    • rhif y bathodyn presennol (os ydych chi'n ei wybod).



    Cwblhewch y ffurflen gais amnewid bathodyn a'i hanfon atom gyda'r taliad. Gwnewch yn siŵr bod enw a dyddiad geni'r ymgeisydd ar gefn y siec neu'r archeb sefydlog.

    Rhaid gwneud y siec neu'r archeb sefydlog yn daladwy i Gyngor Caerdydd. 

    Peidiwch ag anfon sieciau wedi'u hôl-ddyddio nac arian parod oherwydd gallan nhw fynd ar goll. ​





© 2022 Cyngor Caerdydd