Gallwch wneud cais am fathodyn glas os yw eich sefydliad yn gofalu am bobl anabl sy'n gymwys am fathodyn ac yn eu cludo.
Os ydych yn gweithio i'r sefydliad, gallwch ddefnyddio'r bathodyn wrth gludo pobl anabl. Ni allwch ei ddefnyddio er eich lles eich hun.
Ar ôl i'ch cais gael ei gyflwyno, bydd angen i chi anfon y canlynol atom:
- Y ddogfen cofrestru cerbyd (V5C) ar gyfer pob cerbyd rydych chi'n gwneud cais amdano. Rhaid i'r cerbyd fod wedi ei gofrestru i'r sefydliad.
- Copi o logo eich sefydliad a fydd yn cael ei arddangos ar y bathodyn.
- Taliad o £10 fesul cerbyd yr ydych yn gwneud cais amdano. Anfonwch hwn drwy siec neu archeb bost gyda llythyr eglurhaol. Gwnewch hwn yn daladwy i Gyngor Caerdydd.
Tîm Bathodyn Glas
BLWCH POST 47
Caerdydd
CF11 1QB