Os ydych chi wedi gweld problem gyda gât lôn gefn, rhowch wybod i ni. Gorau po fwyaf o wybodaeth y gallwch ei rhoi i ni.
Gallwch ddefnyddio'r ffurflen hon i ddweud wrthym am broblem fel:
- allwedd neu fecanwaith clo diffygiol,
- gatiau nad ydynt yn agor nac yn cau, neu
- bollt gollwng wedi torri (y bollt gollwng yw'r lifer metel sy'n sicrhau bod y gât ar agor neu ar gau).
Gwnewch yn siŵr eich bod yn disgrifio'r lleoliad i'n helpu i ddod o hyd i'r gât. Mae opsiwn i ychwanegu lluniau.
Rhowch gyfeiriad yr eiddo sydd agosaf at y gât.
Adrodd am broblem gyda gât lôn gefn