Mae Gorchmynion Cadw Coed (GCC) yn berthnasol i goed a choetiroedd penodol yng Nghaerdydd er mwyn helpu i’w diogelu.
Mae’n anghyfreithlon torri, tocio, dinistrio neu ddifrodi unrhyw waith os oes GCC mewn grym.
Gwiriwch ein map am goed sydd â gorchymyn diogelu.
Er mwyn gwneud gwaith rhaid i chi gwblhau ffurflen gais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadwcoed.
Cwblhewch y ffurflen a’i dychwelyd i amddiffyncoed@caerdydd.gov.uk. Gallwch ddychwelyd y ffurflen drwy’r post neu mewn person i:
Development Management
Neuadd y Sir
Caerdydd
CF10 4UW
Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio dogfen sy’n cynnig cyngor ar
Orchmynion Cadw Coed.
Os yw’r goeden neu goetir rydych eisiau gwneud gwaith arno mewn Ardal Gadwraeth bydd angen i chi lenwi
ffurflen gais i wneud gwaith ar goed sydd dan orchymyn cadwcoed.
Gwybodaeth a chyngor