Ymddiriedaethau ynni
Os oes angen cymorth arnoch, mae gwahanol gynlluniau a grantiau ar gael i'ch helpu gyda'ch biliau ynni. Efallai y bydd gan eich cyflenwr ynni ymddiriedolaeth ynni.
Gall ymddiriedolaeth ynni eich helpu gyda’r canlynol:
- nwy, ynni a dyledion eraill y cartref, gan gynnwys treth gyngor ac ôl-ddyledion rhent,
- eitemau cartref sylfaenol, gan gynnwys peiriannau golchi a ffwrn,
- cymorth ariannol eraill, gan gynnwys methdaliad, blaendaliadau a threuliau angladd.
Ewch i wefan eich cyflenwr ynni i weld a oes ganddo ymddiriedolaeth a gwneud cais.
I gael rhagor o wybodaeth gallwch gysylltu â’r canlynol:
Talebau tanwydd
Os ydych yn cael trafferth rhoi credyd ar eich mesurydd ynni talu ymlaen llaw, gallech fod yn gymwys i hawlio talebau tanwydd.
Ffoniwch y Tîm Cyngor Ariannol ar 029 2087 1071 neu
ewch i'ch hyb lleol i gael rhagor o wybodaeth.
Cronfa Cymorth Dewisol
Mae'r Gronfa hon yn darparu 2 fath o grant:
- Taliad Cymorth Brys,
- Taliad Cymorth Unigol.
Dŵr Cymru
Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau dŵr, efallai y bydd Dŵr Cymru yn gallu eich helpu.
Pecynnau band eang ffôn
Os ydych yn hawlio budd-daliadau penodol, efallai byddwch yn gymwys i gael tariffau cymdeithasol.