Pam rydym yn anfon yr hysbysiad hwn atoch?
Mae Cyngor Caerdydd yn derbyn ceisiadau am wybodaeth bersonol dan y Ddeddf Diogelu Data, y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn ddyddiol. Caiff y ceisiadau hyn eu prosesu gan y Tîm Llywodraethu Gwybodaeth corfforaethol.
Mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut a pham y mae Cyngor Caerdydd yn prosesu eich gwybodaeth bersonol fel ymgeisydd gwybodaeth.
Pa ddata personol sydd gennym a sut rydym yn ei gael
Er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau dan y Ddeddf Diogelu Data, byddwn yn gofyn i ch am faint rhesymol o wybodaeth bersonol cyn i ni ddechrau prosesu eich ceisiadau a datgelu gwybodaeth. Mae hyn yn cynnwys y canlynol, ymhlith eraill:
- Gwybodaeth Adnabyddadwy: Dyddiad Geni a Rhif Yswiriant Gwladol a Rhifau Cyflogai ac Aelodaeth.
- Manylion cyswllt: Enw, Cyfeiriad, Cyfeiriad E-bost a Rhif Ffôn
- Prawf Adnabod Ffotograffig: Copi o'ch Pasbort neu Drwydded Yrru
- Tystiolaeth o Gyfeiriad: Copi o Fil Trydan/Nwy/Dŵr diweddar neu Ddatganiad perthnasol
- Prawf o Gyfrifoldeb Rhiant; Gwarcheidiaeth; Ysgutor.
Mae'r holl wybodaeth yn cael ei chasglu gennych chi yn uniongyrchol, fel yr ymgeisydd. Os ydych wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, megis aelodau’r teulu neu bobl ddibynnol sicrhewch fod yr unigolion hynny yn gwybod am yr wybodaeth yn yr hysbysiad hwn a phrif Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Caerdydd.
Sut y byddwn yn defnyddio eich data personol
Pan fyddwch yn cyflwyno cais am wybodaeth, mae rhwymedigaeth gyfreithiol ar Gyngor Caerdydd i brosesu eich gwybodaeth bersonol dan y ddeddfwriaeth y mae eich cais yn berthnasol iddi.
Yn unol â'r rhwymedigaeth gyfreithiol hon, bydd eich data personol yn cael ei ddefnyddio i:
- Gyfathrebu â chi, gan gynnwys datgelu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani.
- Cadarnhau a chroeswirio pwy ydych chi fel y’r ymgeisydd a/neu Destun y Data.
- Sicrhau bod yr wybodaeth a nodwyd yn berthnasol i chi ac nid i unigolion eraill sydd â'r un enwau a'r un Dyddiad Geni.
- Sicrhau fod gan unrhyw ymgeiswyr trydydd parti gydsyniad yr awdurdod perthnasol i dderbyn eich gwybodaeth bersonol.
Am faint rydym yn cadw eich data personol
Rydym ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am yr amser sydd ei hangen arnom er mwyn cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol. Rydym yn cadw gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau am gyfnod o 6 blynedd o'r dyddiad y caiff y cais ei gau, ond efallai y byddwn yn dewis newid neu ymestyn y cyfnod hwn yn unol â'r gofynion busnes.
Gellir cael rhagor o wybodaeth yn
Amserlen Cadw Corfforaethol Cyngor CaerdyddDolen allanol yn agor mewn ffenest newydd.
Rhannu eich gwybodaeth
Byddwn ond yn rhannu eich gwybodaeth bersonol fel ymgeisydd am y rhesymau canlynol:
- ar gyfer gweithdrefnau cyfreithiol pan wneir Gorchymyn Llys
- mewn cysylltiad ag Achosion Cyfreithiol a/neu at ddibenion sefydlu, arfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol
- i gynorthwyo’r awdurdod i atal/canfod troseddau neu erlyn troseddwyr, neu asesu/talu treth.
Proseswyr Data
Mae'r Tîm Llywodraethu Gwybodaeth yn defnyddio llwyfannau Trydydd Parti i helpu i reoli rhwymedigaethau cyfreithiol y Cyngor, ac i sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesu'n effeithlon ac yn ddiogel yn unol â'r Egwyddorion Diogelu Data. Mae Cytundebau Prosesu Data ar waith gyda'r sefydliadau trydydd parti canlynol i sicrhau bod eich data'n cael ei brosesu yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data:
Eich Hawliau
Fel testun data, mae gennych lawer o hawliau yn gysylltiedig â’ch data personol. Mae hyn yn cynnwys:
- Hawl mynediad
- Hawl i gywiro
- Hawl i ddileu
- Hawl i dynnu cydsyniad yn ôl
- Hawl i symud data
- Hawl i gyfyngu ar brosesu
- Hawl i wrthwynebu
- Hawliau yn ymwneud â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio
Tynnu Cydsyniad yn ôl
Os ydym yn dibynnu ar gydsyniad oddi wrthoch i brosesu’ch data, gallwch wneud cais i dynnu’ch cydsyniad yn ôl neu gyfyngu ar rai elfennau o’r gwaith prosesu neu wrthwynebu iddo gael ei brosesu.
Os ydych wedi cydsynio i unigolyn arall wneud cais am/derbyn eich gwybodaeth a’ch bod am dynnu’r Cydsyniad hwn yn ôl, rhaid gwneud hyn cyn i’ch gwybodaeth bersonol gael ei datgelu. I wneud hyn, cysylltwch â’r Swyddog Diogelu Data.
Swyddog Diogelu Data
Tîm Llywodraethu Gwybodaeth
Neuadd y Sir
Glanfa'r Iwerydd
Caerdydd
CF10 4UW
diogeludata@caerdydd.gov.uk