Dyma grant i sefydliadau sy’n gweithio i helpu cymunedau a phobl yng Nghaerdydd. Mae’r grant yn caniatáu i sefydliad ddarparu cynhyrchion i bobl o aelwydydd incwm isel.
Os gwnewch gais, bydd angen i chi ddangos i ni fod y grwpiau a'r gweithgareddau rydych yn eu rhedeg yn hawdd eu cyrchu ac yn hyrwyddo ffordd o fynd i'r afael â thlodi mislif.
Ar gyfer beth gellir defnyddio’r arian?
Gallwch ddefnyddio'r arian i brynu a dosbarthu:
- nwyddau mislif fel tamponau, padiau, cwpanau mislif, dillad isaf mislif amldro neu ddewisiadau amgen addas,
- bagiau gwaredu nwyddau mislif, a
- pyrsiau storio neu fagiau gwlyb ar gyfer nwyddau amldro.
Mae'n rhaid i chi wario o leiaf 70% o'r arian ar nwyddau mislif ecogyfeillgar.
Sut i wneud cais
Cysylltwch â ni i gael mwy o wybodaeth ac i gael gwybod sut i wneud cais.
Lleoliadau nwyddau mislif