Ymunwch â’ch llyfrgell leol am ddim a chael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau.
Gallwch fenthyg llyfrau ac eLyfrau, a defnyddio'r cyfrifiaduron am ddim, ond rydym yn codi tâl am wasanaethau eraill fel benthyca CDs a DVDs.
Prawf adnabod
Bydd angen i chi ymweld â hyb neu lyfrgell i gasglu eich cerdyn llyfrgell. Dewch ag un o'r mathau canlynol o brofion adnabod gyda chi:
- Trwydded yrru
- Cerdyn debyd neu gredyd
- Bil trydan/nwy/dŵr
- Cerdyn neu lyfryn budd-dal
- Cyfriflen banc neu gerdyn credyd
- Pasbort
- Cerdyn UMC neu fyfyriwr, gan gynnwys Cerdyn Adnabod Myfyrwyr Rhyngwladol (ISIC) neu Gerdyn Teithio Ieuenctid Rhyngwladol (IYTC)
Os ydych chi o dan 16 oed bydd angen i'ch rhiant neu ofalwr ddangos un math o brawf adnabod a llofnodi'r cais.
Os ydych chi eisoes yn aelod o wasanaeth llyfrgell arall yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gallwch ymuno â Llyfrgelloedd Caerdydd drwy gyflwyno eich cerdyn llyfrgell dilys presennol.
Adnewyddu ac eitemau hwyr
Mae llyfrau'n cael eu hadnewyddu'n awtomatig ar hyn o bryd, sy'n golygu na fydd dirwyon hwyr yn berthnasol fel arfer.
Dros dro yw hyn, ac mae'n agored i newid.
Os nad ydych wedi gorffen gyda'r eitem rydych wedi'i benthyg, mae’n bosib y gallwch ei hadnewyddu, ar yr amod nad yw wedi'i chadw gan rywun arall. Gallwch adnewyddu'r llyfr drwy:
Bydd angen eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN arnoch os ydych chi'n adnewyddu ar-lein.
Os ydych chi wedi anghofio’ch PIN, cysylltwch â ni.Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi’n ei wybod.
Cymerwch olwg ar ddirwyon a thaliadau llyfrgell am y wybodaeth ddiweddaraf.
Nid oes dirwyon ar gyfer llyfrau plant, ond dewch â nhw'n ôl atom mor agos i’r dyddiad â phosib, os gwelwch yn dda.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymuno â llyfrgell, neu os ydych chi wedi anghofio eich PIN, gallwch gysylltu â ni drwy’r ffurflen hon. Dylech gynnwys rhif eich cerdyn llyfrgell os ydych chi’n ei wybod.
Cysylltu â ni