Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ysgol Uwchradd Willows

​20 Tachwedd - 18 Rhagfyr 2023. 

Gallwch weld y llythyr cais cyn-ymgynghori (103kb PDF)​.

​Ymgysylltu â'r cyhoedd ar ddatblygu adeilad newydd i gymryd lle Ysgol Uwchradd Willows

14 Mehefin – 23 Gorffennaf 2021.​

​​​​​​​​​​​​​​​​Rydym yn adleoli ysgol Uwchradd Willows. Fydd yn cynnig cyfle cyffrous i chi helpu i lunio dyfodol yr ysgol.

Rydym am glywed eich barn ac yn awyddus i glywed cymaint o safbwyntiau â phosibl. Rydym yn arbennig o awyddus i glywed barn plant a phobl ifanc, a fydd yn bwysig wrth ddatblygu gweledigaeth newydd ar gyfer yr ysgol.

Bydd y broses ymgysylltu anstatudol chwe wythnos hwn yn rhoi cyfle i ddisgyblion, yr ysgol, rhieni a'r gymuned ehangach ddweud eu dweud ar sut y gellid datblygu’r ysgol newydd i ddiwallu anghenion y gymuned y mae'n ei gwasanaethu.

Gwerthfawrogir eich barn a'ch sylwadau. Byddant yn chwarae rhan annatod wrth lunio dyfodol yr ysgol gan gynnwys y gwaith o ddatblygu’r adeilad newydd yn ogystal â darparu cwricwlwm newydd ac ail-frandio posibl.

​​Beth fydd yn cael ei ddarparu

Bydd y prosiect yn darparu cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf mewn adeilad newydd sbon mewn lleoliad newydd.

Bydd disgyblion yn gallu manteisio ar amgylchedd dysgu o safon a chyfleusterau cysylltiedig.

Bydd hyn yn cynorthwyo ac yn gwella’r prosesau addysgu a dysgu.

Bydd cyfleusterau chwaraeon gwell hefyd.

Ysgol i'r gymuned fydd hon a bydd cyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned gyfan.

Bydd disgyblion yn aros yn adeilad presennol Ysgol Uwchradd Willows nes bod adeilad newydd yr ysgol yn barod. Ein nod yw amharu cyn lleied â phosibl ar addysg y disgyblion.​

Sut olwg allai fod ar yr ysgol newydd 

Video id: i4Nr6qOVpJM

​ Mae’r fideo hwn yn dangos delweddau CGI o Ysgol Uwchradd Fitzalan sydd wrthi’n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd. Fel hyn y gallai eich ysgol edrych.​


​Sut i gael gwybod mwy


Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgysylltu sy’n manylu ar y newidiadau.


Gweld dogfen ymgysylltu Ysgol Uwchradd Willows (1.70mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Rydym hefyd wedi llunio fersiwn hygyrch o ddogfen ymgysylltu Ysgol Uwchradd Willows (1.30mb PDF)​​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd


Rydym yn awyddus i roi cymaint o wybodaeth â phosibl i chi am ein cynigion ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.  


Trefnwyd cyfres o sesiynau galw heibio lle gallwch siarad â ni am yr ysgol newydd.





Amserlen y sesiynau galw heibio
​​Dyddiad/Amser 
​Venue 
​Dydd Mawrth 22 Mehefin 2021
10am – 12 hanner dydd
​Tesco
Pengam Green
​Dydd Iau 24 Mehefin 2021
12 hanner dydd – 2pm
​Brewery Field (gyferbyn â Rubicon Dance)
Dydd Mercher 30 Mehefin 2021
2pm – 4pm 
​Yr Hen Lyfrgell, Singleton Road 
​Dydd Mawrth 06 Gorffennaf 2021
6pm – 8pm
Pafiliwn Chwaraeon Parc Sblot​ 
​Dydd Llun 12 Gorffennaf 2021
10am – 12 hanner dydd​

​Hyb Butetown, Plas Iona, Stryd Bute
Dydd Iau 15 Gorffennaf 2021
4pm - 6pm
​Hyb Butetown, Plas Iona, Stryd Bute​

​Mae’r holl sesiynau’n cael eu cynnal yn unol â chanllawiau COVID-19 presennol​

Sut i rannu eich sylwadau​  


Gallwch wneud hyn drwy:



​​​​​

© 2022 Cyngor Caerdydd