Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynnig i ailddatblygu safle Ysgol Cantonian


Fodd bynnag, mae effaith pandemig Covid-19 ynghyd â materion gweithredol, ac optimeiddio cyfluniad y safle a'r dyluniad adeiladu er budd dysgwyr, wedi cael effaith sylweddol ar weld y cynigion yn mynd rhagddynt sydd wedi arwain at oedi i'r gwaith arfaethedig.
 

Mae'r Cyngor wedi gweithio'n agos gyda chontractwr y prosiect i nodi rhaglen waith newydd fyddai'n caniatáu cwblhau'r adeiladau a'i feddiannu o fis Medi 2025 ymlaen. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi gofyn am ganiatâd Gweinidog Cymru i ohirio gweithredu'r newidiadau arfaethedig yn llawn o 1 Medi 2023 i fis Medi 2026 a chytunwyd ar hynny. 

Er mwyn sicrhau darpariaeth digon o lefydd prif ffrwd addas a lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y cyfnod dros dro, nodwyd ystod o fesurau dros dro yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Uwchradd Woodlands ac Ysgol Arbennig Riverbank ac maent yn cael eu gweithredu fel a ganlyn:  

  • niferoedd i Ysgol Uwchradd Cantonian i gynyddu o 6 dosbarth mynediad (180 o ddisgyblion fesul grŵp blwyddyn) i 7 dosbarth mynediad (210 disgybl), o fis Medi 2023, cyn yr ehangu parhaol i 8 dosbarth mynediad pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau yn 2025/2026 
  • capasiti Ysgol Uwchradd Woodlands i gynyddu o 140 o lefydd i 180 o lefydd ym mis Medi 2023, cyn yr ehangu parhaol i 240 o lefydd pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, a'r ysgol yn trosglwyddo i'w hadeiladau newydd ar safle Campws Tyllgoed; y llefydd ychwanegol i'w darparu trwy ddefnyddio llety dros dro newydd ar safle presennol yr ysgol 
  • capasiti Ysgol Arbennig Riverbank i gynyddu o 70 o lefydd i 78 o lefydd ym mis Medi 2023, cyn yr ehangu parhaol i 112 o lefydd pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau, a'r ysgol yn trosglwyddo i'w hadeiladau newydd ar safle Campws y Tyllgoed; y llefydd ychwanegol i'w darparu trwy ddefnyddio llety dros dro newydd ar safle presennol yr ysgol.

 

Bydd y trefniadau uchod yn sicrhau darpariaeth ddigonol o ystafelloedd dosbarth, addas a llety ategol ar gyfer disgyblion a allai fod wedi cofrestru fel arall yn Ysgol Uwchradd Cantonian neu a fyddai wedi gofyn am leoliad oedran cynradd neu uwchradd arbenigol ar gyfer anghenion dysgu cymhleth yn ystod y cyfnod pontio rhwng 2023/2024 a 2025/2026. 

Bydd y nifer dynodedig o lefydd yng Nghanolfan Adnoddau Arbennig Ysgol Uwchradd Cantonian ar gyfer dysgwyr sydd â Chyflwr Sbectrwm Awtistiaeth (CSA) yn cynyddu o 20 lle i 30 lle ym mis Medi 2023 yn unol â'r cynnig a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. 

Mae'r Cyngor hefyd wedi symud ymlaen â nifer o brosiectau eraill i sicrhau bod digon o lefydd ysgol uwchradd prif ffrwd i wasanaethu cymuned leol Ysgol Uwchradd Cantonian, ac i sicrhau digon o lefydd i ddysgwyr a allai fod wedi'u cofrestru fel arall yn y ddarpariaeth arbenigol i'r ddinas yn Ysgol Uwchradd Woodlands ac Ysgol Arbennig Riverbank. 

Mae'r Cyngor yn dymuno gweld manteision y cynnig gan gynnwys caniatáu i nifer fwy o ddisgyblion elwa o'r addysg a gynigir yn yr ysgolion gael eu gwireddu cyn gynted â phosibl a bydd y newidiadau a amlinellir uchod yn hwyluso hyn. 

Gallwch gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yn www.newyddioncaerdydd.co.uk gan gynnwys gwybodaeth am yr ymgynghoriad cyn gwneud cais presennol sy'n ceisio barn i'w hystyried cyn cyflwyno cais cynllunio i Bwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion trwy e-bost i: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu ar 029 2087 2720.​


​​​​​​Cyhoeddi Hysbysiadau Statudol Cyfreithiol​​​


Yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2019, cytunodd Cabinet y Cyngor i gyhoeddi hysbysiadau statudol i: 
  • Gynyddu’r ddarpariaeth yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 6 dosbarth mynediad (6DM) i wyth dosbarth mynediad (8DM) gyda darpariaeth chweched dosbarth ar gyfer hyd at 250 o ddisgyblion mewn adeiladau newydd;
  • Ehangu’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer dysgwyr â Chyflwr Sbectrwm Awtistig (CSA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 i 30 lle mewn uned bwrpasol yn adeiladau newydd yr ysgol;
  • Trosglwyddo Ysgol Arbennig Woodlands i’r safle ar Doyle Avenue a chynyddu nifer y lleoedd o 140 i 240 yn yr adeiladau newydd
  • Trosglwyddo Ysgol Arbennig Riverbank i’r safle ar Doyle Avenue a chynyddu nifer y lleoedd o 70 i 112 yn yr adeiladau newydd.​



Cyhoeddi Adroddiad Gwrthwynebu


Cyhoeddwyd yr hysbysiadau statudol ar 28fed o Fehefin 2019 am 28 niwrnod er mwyn caniatáu gwrthwynebidau.  Daeth cyfnod yr hysbysiad statudol i ben ar 25 Gorffennaf 2019.  

Derbyniodd y Cyngor un gwrthwynebiad erbyn dyddiad cau’r hysbysiad statudol.  

Pan fo gwrthwynebiadau i hysbysiadau statudol yn cael eu derbyn, rhaid cyhoeddi adroddiad gwrthwynebu yn crynhoi’r gwrthwynebiadau ac ymateb y cynigydd i’r gwrthwynebiadau hynny. 


Mae'r cynigion hyn yn effeithio ar ddarpariaeth chweched dosbarth ac felly bydd angen cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn golygu y bydd Gweinidogion Cymru yn ystyried y cynnig a’r gwrthwynebiad a dderbyniwyd ac yn gwneud y penderfyniad terfynol ynghylch a fydd y newidiadau yn mynd yn eu blaen. Bydd y Cyngor felly yn anfon copïau o’r gwrthwynebiad statudol yn ogystal â’r adroddiad gwrthwynebu i Weinidogion Cymru.  

Wedi i Lywodraeth Cymru benderfynu, bydd y Cyngor yn hysbysu pawb y mae’r cynnig yn effeithio arnyn nhw am y penderfyniad. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2917 neu e-bostiwch ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk 
​​​

CYNGOR CAERDYDD

DEDDF SAFONAU A THREFNIADAETH YSGOLION (CYMRU) 2013

DARPARIAETH YSGOL UWCHRADD CYFRWNG SAESNEG


HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag Adran 42 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, fod Cyngor Dinas Caerdydd (sef “yr Awdurdod” o hyn ymlaen), ar ôl ymgynghori â’r bobl briodol ym marn y Cyngor, yn cynnig gwneud y canlynol:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cantonian, Fairwater Road, Y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 3JR o 6 dosbarth mynediad (180 lle fesul grŵp blwyddyn) i wyth dosbarth mynediad (240 lle fesul grŵp blwyddyn) gyda chweched dosbarth i hyd at 250 disgybl, gan adeiladu ysgol newydd fwy yn lle yr adeilad presennol ar yr un safle; ac

 

  • Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) yn Ysgol Uwchradd Cantonian i ddysgwyr sydd â Chyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig o 20 lle i 30 lle yn y cyfleuster mwy a phwrpasol yn yr adeiladau ysgol newydd.

Cynigir rhoi’r cynnig ar waith o mis Medi 2023. 

Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.


Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Gellir gweld adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn yn:


http://www.caerdydd.gov.uk/cynnigionsaflecantonian


Capasiti cyfredol yr ysgol yw 1,046 gan gynnwys y chweched dosbarth. Nifer cyfredol y disgyblion yn yr ysgol yw 573 (11-16) a 52 (y chweched  dosbarth).


Nifer y disgyblion a gaiff eu derbyn i’r ysgol ym Mlwyddyn 7 (sef y grŵp oedran perthnasol), yn 11 oed, yn ystod y flwyddyn ysgol gyntaf y caiff y cynnig ei roi ar waith, fydd 240. 



Capasiti arfaethedig yr ysgol ar ôl gweithredu'r cynnig fydd 1,450 lle gan gynnwys y chweched dosbarth.


Yr awdurdod lleol sy’n rheoli derbyn i’r ysgol.


Mae gan y CAA ar hyn o bryd adnoddau ar gyfer 20 disgybl oed 11-19 gyda datganiadau anghenion addysgol arbennig sy’n benodol i gyflyrau ar y sbectrwm awtistiaeth.


Rheolir derbyniadau i’r CAA gan yr awdurdod lleol.  Mae'n ofynnol i ddisgybl gael datganiad Angen Addysgol Arbennig cyn cael ei dderbyn, yn unol â Chod Ymddygiad Addysg Arbennig Cymru 2002 a’r Ddeddf newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018 (pan ddaw i rym).

 

Does dim cynlluniau i newid polisi’r Cyngor ar dderbyn plant i’r ysgol yn sgil y cynigion hyn.


Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.


O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 25 Gorffennaf 2019, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  


Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.


Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk


Sylwer bod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir, gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.


Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 28 niwrnod, gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, sef erbyn 21 Awst 2019.


Dyddiedig 28 Mehefin 2019


Llofnod:                                  Davina Fiore
Cyfarwyddwr Cyfraith a Llywodraethiant a Swyddog Monitro
Ar ran Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd


NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)


Cynigir cynyddu capasiti Ysgol Uwchradd Cantonian o 180 disgybl y grŵp blwyddyn i 240 disgybl y grŵp blwyddyn ac ymestyn y CAA gyfredol yn yr ysgol o 20 lle i 30 lle o fis Medi 2023.


Y cynnig yw adeiladu ysgol newydd fwy ar safle'r ysgol gyfredol.


Yn ogystal â’r cynnig i ehangu a newid adeilad Ysgol Uwchradd Cantonian a’r GAA, cynigir hefyd symud Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands i safle Ysgol Uwchradd Cantonian a chynyddu capasiti'r ddwy ysgol.  Gellir gweld manylion y cynigion hyn a chopïau o'r hysbysiadau statudol yn http://www.caerdydd.gov.uk/cynnigionsaflecantonian


Pe bai'r cynnig yn cael ei roi ar waith, byddai unrhyw adeiladau newydd a fyddai'n ofynnol yn cael eu cynllunio i fodloni amodau cyllido Llywodraeth Cymru (LlC) fel BREEAM a byddent hefyd yn cael eu dylunio yn unol â Bwletinau Adeiladu yr Adran Addysg sy’n nodi bod angen cynnwys y cyfleusterau canlynol mewn unrhyw ysgol:

  • Lle addysgu: mewnol ac allanol
  • Neuaddau
  • Ardal giniawa
  • Ardaloedd adnoddau dysgu
  • Staff a gweinyddu
  • Storfa
  • Toiledau a gofal personol
  • Cyfleusterau cegin
  • Cylchrediad
  • Offer a waliau mewnol

CYNGOR CAERDYDD

DEDDF SAFONAU A THREFNIADAETH YSGOLION (CYMRU) 2013

DARPARIAETH YSGOL ARBENNIG


HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag Adran 44 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, fod Cyngor Dinas Caerdydd (sef “yr Awdurdod” o hyn ymlaen), ar ôl ymgynghori â’r bobl briodol ym marn y Cyngor, yn cynnig gwneud y canlynol:

  • Symud Ysgol Uwchradd Woodlands, Vincent Road, Caerau, Caerdydd, CF5 5AQ i adeilad newydd yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Fairwater Road, Y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 3JR.

 

  • Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Woodlands o 140 lle i 240 lle drwy adleoli’r ysgol mewn cyfleusterau newydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol ar safle Ysgol Uwchradd Cantonian.

Cynigir rhoi’r cynnig ar waith o mis Medi 2023.  


Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.


Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Gellir gweld adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn yn:


http://www.caerdydd.gov.uk/cynnigionsaflecantonian


Nifer gyfredol y disgyblion yn Ysgol Uwchradd Woodlands yw 136 (11-19 oed). 140 yw capasiti yr ysgol ar hyn o bryd a’r capasiti arfaethedig wedi i’r cynnig gael ei weithredu fydd 240.


Mae plant yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau cymysg a gallai’r niferoedd fesul grŵp oedran amrywio, ond ni fyddai’r cyfanswm yn uwch na 240.


Bydd yr ysgol yn parhau i gynnig lleoedd ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu cymhleth.


Yr awdurdod lleol sy’n rheoli derbyn i’r ysgol. Mae'n ofynnol i ddisgybl gael datganiad Angen Addysgol Arbennig cyn cael ei dderbyn, yn unol â Chod Ymddygiad Addysg Arbennig Cymru 2002 a’r Ddeddf newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018(pan ddaw i rym).


Does dim cynlluniau i newid polisi’r Cyngor ar dderbyn plant i’r ysgol yn sgil y cynigion hyn.


Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.


O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 25th Gorffennaf 2019, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  


Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.


Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk


Sylwer bod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir, gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.


Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 28 niwrnod, gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, sef erbyn 21 Awst 2019.


Dyddiedig 28 Mehefin 2019


Llofnod:                                  Davina Fiore
Cyfarwyddwr Cyfraith a Llywodraethiant a Swyddog Monitro
Ar ran Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd


NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)


Mae Ysgol Uwchradd Woodlands yn ysgol arbennig sy’n cynnig lleoedd ysgol arbennig i ddysgwyr 11 – 19 oed sydd ag anghenion dysgu cymhleth.


Mae anghenion disgyblion yn cynnwys ystod eang o anawsterau dysgu difrifol neu gymedrol, anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. Nid oes gan anawsterau dysgu lluosog a dwys. Mae rhai disgyblion yn symudol, mae rhai’n actif neu mae gan rai anghenion ymddygiad ond gallai fod gan rai eraill fân anableddau corfforol. Gallai fod gan rai nam difrifol ar eu synhwyrau. Mae lleoedd cymorth yn cynnwys ystafelloedd synhwyraidd, chwarae meddal (cynradd) a chanolfannau therapi megis therapi lleferydd ac iaith neu gymorth synhwyraidd, ond ddim hydrotherapi. Mae rhai plant yn defnyddio cymhorthion symudedd.


Mae’r ysgol yng Nghaerau ac mae’n derbyn disgyblion o bob rhan o’r awdurdod.


Ers 08 Ionawr 2018 bu’r ysgol mewn ffederasiwn gydag Ysgolion Arbennig Riverbank a Thŷ Gwyn, dan yr enw Ffederasiwn Campws Dysgu’r Gorllewin.  Byddai’r ysgol yn parhau i fod yn rhan o’r ffederasiwn.


Cynigir symud yr ysgol i adeilad newydd mwy yn Ysgol Uwchradd Cantonian yn y Tyllgoed a chynyddu’r capasiti o 140 lle i 240 lle.


 Yn ogystal â’r cynigion i symud ac ehangu Ysgol Uwchradd Woodlands, cynigir hefyd symud ac ehangu Ysgol Arbennig Riverbank i safle Ysgol Uwchradd Cantonian, ac ehangu ac amnewid adeiladau presennol Ysgol Uwchradd Cantonian a’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA).  Gellir gweld manylion y cynigion hyn a chopïau o'r hysbysiadau statudol yn http://www.caerdydd.gov.uk/cynnigionsaflecantonian​

 

Mae gan y ddarpariaeth ADY ychwanegol ddalgylch ledled y ddinas ac felly efallai na fydd disgyblion yn byw gerllaw'r safle. O ganlyniad, efallai na fydd llwybrau cerdded, beicio, gwasanaethau bysus na rheilffyrdd yn addas o ran pellter nac anghenion disgyblion. Ar ben hynny, tra bo rhai disgyblion yn gallu teithio yn annibynnol gyda chymorth cydnabyddir na all eraill ac felly bydd gofyn i Gludiant Ysgolion weithio gyda disgyblion, ysgolion a rhieni/gofalwyr i edrych ar y ffyrdd fwyaf priodol o gludo disgyblion a’u hanghenion.


Pe bai'r cynnig yn cael ei roi ar waith, byddai unrhyw adeiladau newydd a fyddai'n ofynnol yn cael eu cynllunio i fodloni amodau cyllido Llywodraeth Cymru (LlC) fel BREEAM a byddent hefyd yn cael eu dylunio yn unol â Bwletinau Adeiladu yr Adran Addysg sy’n nodi bod angen cynnwys y cyfleusterau canlynol mewn unrhyw ysgol:


  • Lle addysgu: mewnol ac allanol
  • Neuaddau
  • Ardal giniawa
  • Ardaloedd adnoddau dysgu
  • Staff a gweinyddu
  • Storfa
  • Toiledau a gofal personol
  • Cyfleusterau cegin
  • Cylchrediad
  • Offer a waliau mewnol

CYNGOR CAERDYDD

DEDDF SAFONAU A THREFNIADAETH YSGOLION (CYMRU) 2013

DARPARIAETH YSGOL ARBENNIG


HYSBYSIR DRWY HYN, yn unol ag Adran 44 Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, fod Cyngor Dinas Caerdydd (sef “yr Awdurdod” o hyn ymlaen), ar ôl ymgynghori â’r bobl briodol ym marn y Cyngor, yn cynnig gwneud y canlynol:

  • Symud Ysgol Arbennig Riverbank, Vincent Road, Caerau, Caerdydd, CF5 5AQ i adeilad newydd yn Ysgol Uwchradd Cantonian, Fairwater Road, Y Tyllgoed, Caerdydd, CF5 3JR; a

 

  • Cynyddu capasiti Ysgol Arbennig Riverbank o 70 lle i 112 lle drwy adleoli’r ysgol mewn cyfleusterau newydd wedi eu hadeiladu’n bwrpasol ar safle Ysgol Uwchradd Cantonian.

Cynigir rhoi’r cynnig ar waith o mis Medi 2023.  


Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.


Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn.  Gellir gweld adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn yn:


http://www.caerdydd.gov.uk/cynnigionsaflecantonian


Y nifer cyfredol o ddisgyblion yn Ysgol Arbennig Riverbank yw 70 (4 – 11 oed). 70 yw capasiti yr ysgol ar hyn o bryd a’r capasiti arfaethedig wedi i’r cynnig gael ei weithredu fydd 112.


Mae plant yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau cymysg a gallai’r niferoedd fesul grŵp oedran amrywio, ond ni fyddai’r cyfanswm yn uwch na 112.


Bydd yr ysgol yn parhau i gynnig lleoedd ar gyfer dysgwyr sydd ag anghenion dysgu cymhleth.


Yr awdurdod lleol sy’n rheoli derbyn i’r ysgol. Mae'n ofynnol i ddisgybl gael datganiad Angen Addysgol Arbennig cyn cael ei dderbyn, yn unol â Chod Ymddygiad Addysg Arbennig Cymru 2002 a’r Ddeddf newydd, Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018(pan ddaw i rym).


Does dim cynlluniau i newid polisi’r Cyngor ar dderbyn plant i’r ysgol yn sgil y cynigion hyn.


Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.


O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 25 Gorffennaf 2019, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.  


Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.


Gellir hefyd anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd i’r cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk


Sylwer bod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir, gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.


Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 28 niwrnod, gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, sef erbyn 21 Awst 2019.

 

Dyddiedig 28 Mehefin 2019


Llofnod:                                  Davina Fiore
Cyfarwyddwr Cyfraith a Llywodraethiant a Swyddog Monitro
Ar ran Cyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd


NODYN ESBONIADOL

 (Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)


Mae Ysgol Arbennig Riverbank yn ysgol arbennig sy’n cynnig lleoedd ysgol arbennig i ddysgwyr 4 – 11 oed sydd ag anghenion dysgu cymhleth.


Mae anghenion disgyblion yn cynnwys ystod eang o anawsterau dysgu difrifol neu gymedrol, anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu ac Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig. Nid oes gan anawsterau dysgu lluosog a dwys. Mae rhai disgyblion yn symudol, mae rhai’n actif neu mae gan rai anghenion ymddygiad ond gallai fod gan rai eraill fân anableddau corfforol. Gallai fod gan rai nam difrifol ar eu synhwyrau. Mae lleoedd cymorth yn cynnwys ystafelloedd synhwyraidd, chwarae meddal (cynradd) a chanolfannau therapi megis therapi lleferydd ac iaith neu gymorth synhwyraidd, ond ddim hydrotherapi. Mae rhai plant yn defnyddio cymhorthion symudedd.


Mae’r ysgol yng Nghaerau ac mae’n derbyn disgyblion o bob rhan o’r awdurdod.


Ers 08 Ionawr bu’r ysgol mewn ffederasiwn gydag Ysgolion Arbennig Woodlands a Thŷ Gwyn, dan yr enw Ffederasiwn Campws Dysgu’r Gorllewin.  Byddai ysgol Riverbank yn parhau i fod yn rhan o’r ffederasiwn.

Cynigir symud yr ysgol i adeilad newydd mwy yn Ysgol Uwchradd Cantonian yn Y Tyllgoed a chynyddu’r capasiti o 70 lle i 112 lle.


Yn ogystal â’r cynigion i symud ac ehangu Ysgol arbennig Riverbank, cynigir hefyd symud ac ehangu Ysgol Uwchradd Woodlands i safle Ysgol Uwchradd Cantonian, ac ehangu ac amnewid adeiladau presennol Ysgol Uwchradd Cantonian a’r Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA).  Gellir gweld manylion y cynigion hyn a chopïau o'r hysbysiadau statudol ynhttp://www.caerdydd.gov.uk/cynnigionsaflecantonian


Mae gan y ddarpariaeth ADY ychwanegol ddalgylch ledled y ddinas ac felly efallai na fydd disgyblion yn byw gerllaw'r safle. O ganlyniad, efallai na fydd llwybrau cerdded, beicio, gwasanaethau bysus na rheilffyrdd yn addas o ran pellter nac anghenion disgyblion. Ar ben hynny, tra bo rhai disgyblion yn gallu teithio yn annibynnol gyda chymorth cydnabyddir na all eraill ac felly bydd gofyn i Gludiant Ysgolion weithio gyda disgyblion, ysgolion a rhieni/gofalwyr i edrych ar y ffyrdd fwyaf priodol o gludo disgyblion a’u hanghenion.


Pe bai'r cynnig yn cael ei roi ar waith, byddai unrhyw adeiladau newydd a fyddai'n ofynnol yn cael eu cynllunio i fodloni amodau cyllido Llywodraeth Cymru (LlC) fel BREEAM a byddent hefyd yn cael eu dylunio yn unol â Bwletinau Adeiladu yr Adran Addysg sy’n nodi bod angen cynnwys y cyfleusterau canlynol mewn unrhyw ysgol:

  • Lle addysgu: mewnol ac allanol
  • Neuaddau
  • Ardal giniawa
  • Ardaloedd adnoddau dysgu
  • Staff a gweinyddu
  • Storfa
  • Toiledau a gofal personol
  • Cyfleusterau cegin
  • Cylchrediad
  • Offer a waliau mewnol

 

 




Mae’r hysbysiadau yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod o’r dyddiad cyhoeddi i dderbyn gwrthwynebiadau ffurfiol i’r cynigion.

Dylid cyflwyno gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd CF10 4UW.

Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd trwy ddilyn y cyfeiriad e-bost canlynol: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk​

Sylwer bod rhaid i unrhyw wrthwynebiad o’r fath a anfonir trwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y gwrthwynebwr.


Ymgynghoriad blaenorol


Ymgynghoriad ar y cynnig i ailddatblygu Ysgol Uwchradd Cantonian, Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands

Fel rhan o raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B y Cyngor, mae’r Cyngor yn ymgynghori ar gynigion i ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion uwchradd ac arbennig.

Mewn ymateb i’r galw, mae’r Cyngor yn cynnig gwneud y canlynol o fis Medi 2023:

  • ​Ymestyn Ysgol Uwchradd Cantonian o chwe dosbarth mynediad (6DM) i wyth dosbarth mynediad (8DM) gyda lleoedd chweched dosbarth i hyd at 250 o ddisgyblion gan gynnwys rhoi cyfleusterau ysgol newydd mwy o faint yn lle adeiladau Ysgol Uwchradd Cantonian ar yr un safle.

  • Ymestyn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) i ddisgyblion sydd â Chyflwr ar y Sbectrwm Awtistig (CSA) sydd yn Ysgol Uwchradd Cantonian o 20 lle i 30 lle. Byddai adeiladau ysgol newydd Cantonian yn cynnwys adeilad pwrpasol mwy o faint ar gyfer y CAA.

  • Ymestyn Ysgol Arbennig Riverbank o 70 lle i 140 lle, i gael ei gyflawni trwy ail-leoli’r ysgol i gyfleusterau pwrpasol mwy o faint ar safle Ysgol Uwchradd Cantonian.

  • Ymestyn Ysgol Arbennig Woodlands o 140 lle i 240 lle, i gael ei gyflawni trwy ail-leoli’r ysgol i gyfleusterau pwrpasol mwy o faint ar safle Ysgol Uwchradd Cantonian.


Dweud eich dweud


Gallwch lawrlwytho copi o’r ddogfen ymgynghori sy’n rhoi manylion ar y newidiadau a gynigir

​Ymgynghoriad wedi Cau 26.04.2019



Math o Ymgynghoriad​Dyddiad ac amser ​​Lleoliad​
Sesiwn Galw Heibio​​ ​Dydd Gwener 8 Chwefror 2019 9am - 11amHyb Llyfrgell y Tyllgoed
Cyfarfod Staff Ysgol Uwchradd Cantonian​ Dydd Mercher 13 Chwefror 2019 am 3.30pmYsgol Uwchradd ​Cantonian
Corff Llywodraethu Ysgol Uwchradd Cantonian Dydd Mercher 13 Chwefror 2019 am 5.30pm​Ysgol Uwchradd ​Cantonian
​Cyfarfod Cyhoeddus Dydd Mercher 13 Chwefror 2019 am 7pmYsgol Uwchradd ​Cantonian
​Cyfarfod Staff Ysgol Arbennig Riverbank ac Ysgol Uwchradd Woodlands Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 am 5.30pmYsgol Arbennig Tŷ Gwyn
​Cyfarfod Corff Llywodraethu Ffederasiwn Dysgu’r Gorllewin Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 am 7pm​Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn
Cyfarfod Cyhoeddus ​Dydd Mercher 20 Chwefror 2019 am 7pm​Ysgol Arbennig Tŷ Gwyn
Sesiwn Galw Heibio Dydd Iau 7 Mawrth 2019 5pm - 7pm​Hyb Cymunedol Trelái a Chaerau
​Sesiwn Galw Heibio Dydd Mawrth 12 Mawrth 2019 10am - 12pm​Hyb y Llyfrgell Ganolog
Sesiwn Galw Heibio ​Dydd Mercher 20 ​​Mawrth 2019 2.30pm – 4.30pm ​Hyb Llyfrgell y Tyllgoed​
​Sesiwn Galw Heibio ​Dydd Gwener 29 Mawrth  9.30am – 11.30am​Hyb Llyfrgell y Tyllgoed​
​Sesiwn Galw Heibio ​Dydd Iau 04 Ebril 4.30pm – 6.30pm​​Hyb Llyfrgell y Tyllgoed​
​Sesiwn Galw Heibio ​Dydd Mercher 10 Ebril 2.30pm-4.30pm​Hyb Llyfrgell y Tyllgoed​
​Sesiwn Galw Heibio ​Dydd Llun 15 Ebril 9.30am – 11.30am​Hyb Llyfrgell y Tyllgoed​
 
​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd