Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ehangu Ysgol Pentyrch

Ar 14 Gorffennaf 2022 cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar gynigion i wneud y canlyno:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd
  • Ehangu ystod oed yr ysgol o 4-11 i 3-11 drwy greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i gynnig 32 lle rhan amser.


Gweld copi o adroddiad y Cabinet​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd​​
Gweld copi o'r Llythyr Penderfyniad​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Y broses ymgynghori​​

Ystyriwyd adroddiad gan Gabinet Cyngor Caerdydd ar 10 Mawrth 2022 a amlinellodd argymhellion yn sgil ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn ar gynigion i ehangu Ysgol Gynradd Pentyrch a sefydlu darpariaeth feithrin yn yr ysgol. 

Gellir gweld yr adroddiad ar yr ymgynghoriad​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd sy'n cynnwys crynodeb o'r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion ac ymateb yr Awdurdod a barn Estyn. 

Cytunodd y Cabinet i'r Cyngor fwrw ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiad Statudol cyfreithiol er mwyn:

  • Cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Pentyrch o 140 i 210 o leoedd
  • Ehangu ystod oed yr ysgol o 4-11 i 3-11 drwy greu darpariaeth feithrin yn yr ysgol i alluogi cynnig 32 lle rhan amser.

 

Yr oedd yr hysbysiad statudol yn fyw o 6 Mai 2022 a caniatáodd cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at  a  chan gynnwys 2 Mehefin 2022. 

Gweld y hysbysiad statudol​​​​​​​​Dolen yn agor mewn ffenestr newydd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, cysylltwch â'r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion ar 029 2087 2720 neu e-bostiwch ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk  

© 2022 Cyngor Caerdydd