Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Darpariaeth iechyd a lles emosiynol

​​​Ar 21 Mawrth 2024, cytunodd y Cabinet i'r Cyngor symud ymlaen i'r cam nesaf a chyhoeddi Hysbysiadau Statudol cyfreithiol yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar newidiadau arfaethedig i'r Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Mae'r hysbysiadau am newidiadau arfaethedig i Ysgol Gynradd Baden Powell, Ysgol Gynradd y Tyllgoed, Ysgol Gynradd Herbert Thompson, Ysgol Gynradd Lakeside, Ysgol Gynradd Springwood ac Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yn fyw o 10 Ebrill 2024 ac yn caniatáu cyfnod o 28 diwrnod ar gyfer gwrthwynebiadau ffurfiol i'r cynigion hyd at ac yn cynnwys 7 Mai 2024. 

Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW. 

Gellir anfon gwrthwynebiadau hefyd at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk​.

Sylwer bod yn rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a anfonir drwy e-bost gynnwys enw llawn a chyfeiriad post y sawl sy'n gwrthwynebu.



​​Bydd adroddiad ar yr ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ystyried gan Gabinet y Cyngor yn ei gyfarfod ar 21 Mawrth 2024.​

Mae'r adroddiad yn hysbysu'r Cabinet o'r ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad, y materion a godwyd, ymateb y Cyngor i'r rhain ac argymhellion ar y ffordd ymlaen.

Yn yr adroddiad argymhellir bod y Cabinet yn awdurdodi swyddogion i gyhoeddi hysbysiadau statudol i:

  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle newydd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol. sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 16 lle newydd ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2025, o fewn adeiladau presennol neu adeilad newydd.  
  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 16 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.  
  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn cymryd lle'r Dosbarth Lles presennol.  
  • sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 20 lle ar gyfer dysgwyr ag Anghenion iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.


Argymhellir nad yw'r Cabinet yn symud ymlaen â'r cynnig i sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol 8 lle ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch. Bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda'r ysgol i gefnogi dysgwyr sydd eisoes wedi cofrestru ac sydd wedi'u lleoli yn y Dosbarth Lles, a bydd cynigion diwygiedig ar gyfer darparu lleoedd ysgol gynradd iechyd a lles emosiynol cyfrwng Cymraeg yn cael eu cyflwyno cyn gynted â phosibl.


Rhoddir y wybodaeth ddiweddaraf am y cynigion yn dilyn cyfarfod y Cabinet. ​

​​​​​​​​​Mae Cyngor Caerdydd yn ymgynghori ar newidiadau i ddarparu lleoedd ysgol arbenigol cynradd ac uwchradd o safon uchel i blant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. 

Beth sy’n cael ei gynnig? 


Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd Canolfan Adnoddau Arbenigol i ddysgwyr cynradd ac uwchradd ag anghenion iechyd a lles emosiynol, mae’r Cyngor yn cynnig:

  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Baden Powell o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 
  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.   
  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (16 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  
  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (16 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Lakeside o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol.  Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.   
  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gynradd Springwood o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.   
  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (8 lle) ar gyfer iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch o fis Medi 2024 yn yr adeiladau presennol. Byddai hyn yn disodli'r dosbarth lles presennol.  
  • sefydlu canolfan adnoddau arbenigol (20 lle) ar gyfer dysgwyr ag anghenion iechyd a lles emosiynol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr o fis Medi 2024, yn yr adeiladau presennol. 


Mae’r ymgynghoriad yn rhedeg o 20 Tachwedd 2023 i 19 Ionawr 2024 ac mae’n gyfle i ddysgu am y newidiadau arfaethedig, i ofyn cwestiynau ac i wneud sylwadau.

Gallwch ddarllen neu lawrlwytho copi o’r dogfennau ymgynghori sy’n nodi’r newidiadau arfaethedig.

Mae’r wybodaeth yn y ddogfen hon wedi’i dylunio i’w hargraffu ac efallai na fydd modd gweld popeth ar-lein.



Dweud eich dweud


Gallwch ddweud eich dweud yn y ffyrdd canl​ynol:


Dyddiadau cyfarfodydd ymgynghori 


Rydym wedi trefnu sesiynau galw heibio a chyfarfodydd cyhoeddus wyneb-yn-wyneb ac ar-lein y gallwch ddod iddynt os hoffech i ni egluro'r newidiadau a awgrymir i chi a gofyn cwestiynau.

Ymgynghoriad
Dyddiad ac amser  
Lleoliad
Sesiwn galw i mewn
Dydd Mercher 29 Tachwedd 2023 
9am i 11am
Hyb Treali a Chaerau 
Sesiwn galw i mewn
Dydd Mawrth 5 Rhagfyr 2023
9am i 11am
​Hyb Powerhouse Llanedern 
Sesiwn galw i mewn
​Dydd Llun 8 Ionawr 2024
2pm i 4pm
​Hyb Partneriaeth Tredelerch
Sesiwn galw i mewn ar-lein
Dydd Mawrth 12 Rhagfyr 2023
10am i 12 hanner dydd 
​Microsoft Teams
Sesiwn galw i mewn ar-lein
Dydd Gwener 12 Ionawr 2024
2pm i 4pm
​Microsoft Teams
​Cyfarfod cyhoeddus 
(Saesneg/Cymraeg)
Dydd Iau 11 Ionawr 2024
5pm i 7pm
​Hyb y Llyfrgell Ganolog​
Cyfarfod cyhoeddus ar-lein
(Cymraeg)
Dydd Llun 15 Ionawr 2024
5:30pm i 7pm
​Microsoft Teams
Cyfarfod cyhoeddus ar-lein
(Saesneg)​
​Dydd Mawrth 16 Ionawr 2024
5:30pm i 7pm​
Microsoft Teams

Mae'r sesiynau galw heibio ar-lein a cyfarfodydd cyhoeddus ar-lein yn cael eu cynnal trwy Microsoft Teams.  

Cadwch eich slot drwy e-bostio ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk neu drwy ffonio 029 2087 2720.

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 19 Ionawr 2024.


 

Cysylltu â ni   


Os oes unrhyw ymholiadau gennych, cysylltwch â’r Tîm Cynllunio Trefniadaeth Ysgolion. 

Gallwch gysylltu drwy e-bost neu dros y ffôn.

E-bost: ymatebionysgolion@caerdydd.gov.uk
Ffôn: 029 2087 2720​


© 2022 Cyngor Caerdydd