HYSBYSIR DRWY HYN yn unol ag Adran 44 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 a’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, fod Cyngor Caerdydd (“yr Awdurdod”), ar ôl ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt yn briodol, yn cynnig newid Ysgol Arbennig Meadowbank, Colwill Road, Gabalfa, Caerdydd, CF14 2QQ fel a ganlyn:
- Cynyddu nifer dynodedig Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98.
Cynigir gweithredu’r cynnig o Fedi 2022.
Cynhelir yr ysgol gan Gyngor Caerdydd ar hyn o bryd.
Cynhaliodd yr Awdurdod gyfnod ymgynghori cyn penderfynu cyhoeddi’r cynnig hwn. Gellir gweld adroddiad ar yr ymgynghoriad sy’n cynnwys crynodeb o’r materion a godwyd gan yr ymgyngoreion, ymatebion yr Awdurdod a barn Estyn yn:
Ar hyn o bryd, capasiti’r ysgol yw 40 o leoedd. Nifer presennol y disgyblion yn yr ysgol yw 48.
Capasiti arfaethedig yr ysgol ar ôl gweithredu'r cynnig fydd 98.
Bydd yr ysgol yn parhau i ddarparu lleoedd i ddysgwyr 4-11 oed sydd ag anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu, ac anghenion dysgu cymhleth.
Mae plant yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau cymysg a gallai’r niferoedd fesul grŵp oedran amrywio, ond ni fyddai’r cyfanswm yn uwch na 98.
Does dim cynlluniau i newid polisi’r Cyngor ar dderbyn plant i’r ysgol yn sgil y cynigion hyn.
Rheolir derbyniadau i’r ysgol gan yr awdurdod lleol, yn amodol ar ddatganiad o Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) neu Gynllun Datblygu Unigol (CDU) fel y bo’n briodol.
Bydd unrhyw drefniadau ar gyfer cludo disgyblion i’r ysgol yn cael eu gwneud yn unol â pholisïau presennol yr Awdurdod ar gludo plant i'r ysgol.
O fewn cyfnod o 28 diwrnod o ddyddiad cyhoeddi’r cynigion hyn, sef hyd at 05 Gorffennaf 2022, caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion hyn.
Dylid anfon gwrthwynebiadau at y Cyfarwyddwr Addysg a Dysgu Gydol Oes, Cyngor Caerdydd, Neuadd y Sir, Glanfa'r Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW.
Nodwch fod rhaid i unrhyw wrthwynebiadau o’r fath gynnwys enw llawn a chyfeiriad post yr un sy'n gwrthwynebu.
Bydd yr Awdurdod yn cyhoeddi crynodeb o unrhyw wrthwynebiadau o’r fath a wneir (ac nad ydynt wedi’u tynnu yn ôl yn ysgrifenedig) yn ystod y cyfnod gwrthwynebu, ynghyd â sylwadau’r awdurdod ar y gwrthwynebiadau hynny, cyn pen 7 niwrnod, gan ddechrau ar y diwrnod y penderfynir ar y cynnig.
Dyddiedig y 8ed o Mehefin 2022
Llofnod: Davina Fiore
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol, Llywodraethiant
a Swyddog Monitro Cyngor Caerdydd
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw hwn yn rhan o’r Hysbysiad ond ei nod yw egluro’i ystyron cyffredinol)
Mae Ysgol Meadowbank yn ysgol arbennig sydd wedi'i lleoli yn Ystum Taf ar Colwill Road. Mae'r ysgol yn derbyn disgyblion o bob rhan o'r awdurdod.
Mae'r ysgol wedi'i dynodi ar gyfer hyd at 40 o leoedd i ddisgyblion 4 - 11 oed sydd ag anghenion lleferydd ac iaith a chyfathrebu ac anghenion dysgu cymhleth.
Er mwyn ateb y galw cynyddol am leoedd mewn ysgolion arbennig i ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu cymhleth, cynigir cynyddu'r nifer dynodedig o Ysgol Arbennig Meadowbank o 40 i 98 o fis Medi 2022.
Nifer y disgyblion yn yr ysgol yw 98 gyda'r plant ychwanegol yn cael lle yn y lleoedd dysgu presennol.
Cynigir y byddai gwaith yn cael ei wneud i ddarparu lleoedd dysgu a chyfleusterau newydd ac i addasu'r lleoedd dysgu presennol, er mwyn hwyluso twf yr ysgol. Byddai hyn yn galluogi hyd at 98 o blant gael lle.
Yn ogystal â’r cynnydd arfaethedig mewn lleoedd dynodedig yn Ysgol Arbennig Meadownbank, mae lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu cymhleth a chyflwr sbectrwm awtistiaeth ar gyfer nifer o ysgolion o fewn yr awdurdod lleol.