Mae gan Gaerdydd 125 o ysgolion, gan gynnwys ysgolion Meithrin, Cynradd, Uwchradd ac Arbennig.
Cyn i chi gwblhau cais, rydym yn argymell eich bod yn ymchwilio i'ch dewis ysgol. Drwy gasglu cymaint o wybodaeth â phosibl am yr ysgolion yn eich ardal, gallwch benderfynu pa un fyddai fwyaf tebygol o ddiwallu anghenion eich plentyn.
Canfod ysgolion yng Nghaerdydd.
Er mwyn eich helpu i benderfynu ar eich dewis ysgolion gallwch:
Ystyriwch ysgolion yn eich dalgylch
Nid oes angen i blentyn fyw o fewn dalgylch ysgol i fod yn gymwys i fynychu'r ysgol honno. Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn ystyried cynnwys eich ysgol ddalgylch fel dewis wrth wneud cais am le mewn ysgol. Mae plant sy’n byw yn yr ardal hon yn cael blaenoriaeth uwch o ran lle yn eu hysgol ddalgylch o gymharu ag ysgolion eraill a allai fod o ddiddordeb iddynt.
Nid yr ysgol sydd agosaf at gartref y plentyn yw’r ysgol ddalgylch bob tro. Gallwch gael rhagor o
wybodaeth am eich ysgolion dalgylch drwy wirio ar-lein. Nid yw byw yn nalgylch ysgol yn gwarantu lle i chi yn yr ysgol honno.
Ystyriwch sut fydd eich plentyn yn mynd i’r ysgol.
Eich cyfrifoldeb chi fel rhiant yw sicrhau bod eich plentyn yn gallu cyrraedd yr ysgol.
Teithio llesol
Teithio llesol fel cerdded, beicio neu sgwtera ddylai fod yn ddull dewisol gennych wrth ddewis sut i gyrraedd yr ysgol. Gall teithio cynaliadwy hyrwyddo ymarfer corff, gwella dysgu disgyblion a chyfranu at amgylchedd mwy diogel.
Trafnidiaeth ysgol am ddim
Efallai y byddwch yn gymwys i gael
cludiant am ddim i'r ysgol os yw eich plentyn yn byw bellter penodol o'r ysgol ddalgylch briodol agosaf.
Trafnidiaeth amgen
Os nad ydych yn gymwys i gael cludiant am ddim i'r ysgol, mae llawer o opsiynau eraill ar gael. Rhagor o wybodaeth am
gludiant amgen i'r ysgol.Dethol eich dewis o ysgolion
Dylech restru’r ysgolion o’ch dewis yn nhrefn blaenoriaeth. Rhowch eich dewis cyntaf yn gyntaf.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis:
- 1 ysgol ar gyfer Derbyn i Addysg Feithrin
- 3 ysgol ar gyfer Derbyn i Addysg Gynradd
- 5 ysgol ar gyfer derbyn i Addysg Uwchradd