Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Ôl-16

​​​Ar ôl gadael yr ysgol, mae llawer o bobl ifanc yn mynychu sefydliad addysg bellach neu'n gwneud hyfforddiant. Bydd pob dysgwr sydd angen darpariaeth ddysgu ychwanegol yn y coleg yn cael cynllun datblygu unigol i'w helpu i bontio o'r ysgol i addysg a hyfforddiant ôl-16.

Mae darpariaeth ddysgu ychwanegol yn addysg neu hyfforddiant sy'n ychwanegol at, neu'n wahanol i'r ddarpariaeth a ddarperir i ddysgwyr eraill o'r un oedran. 

Mae cynllun datblygu unigol yn ddogfen gyfreithiol sy'n disgrifio ADY y dysgwr ac yn rhoi manylion y canlyniadau yr hoffai eu cyflawni yn y dyfodol, a'r ddarpariaeth ddysgu sydd ei hangen i'w cefnogi. 

Wrth ddewis coleg ar gyfer dysgwr, byddwn yn gweithio gyda'r ysgol ac yn defnyddio'r cod ADY i benderfynu sut i ddiwallu anghenion y dysgwr. 

Mae gan berson ifanc hawl i hyd at 2 flynedd o addysg bellach a hyfforddiant.


Os yw’r dysgwr eisoes wedi cael 2 flynedd neu fwy, efallai na fydd ganddo’r angen rhesymol dros gael mwy. Mae rhai amgylchiadau lle byddwn yn ystyried cais am fwy na 2 flynedd:

  • Os yw’r rhaglen astudio i fod parhau am fwy na 2 flynedd o'r dechrau. 
  • Os oes angen estyniad i raglen astudio y mae'r person ifanc eisoes yn ymgymryd â hi. 
  • Os yw'r person ifanc yn gwneud cwrs nad oedd o fudd iddo mewn ffordd ystyrlon neu os oes newid sylweddol yn ei amgylchiadau. 
  • Nid oedd modd darparu elfen hanfodol neu sylweddol o addysg bellach neu hyfforddiant i gyflawni'r canlyniadau dymunol fel rhan o hyfforddiant neu addysg flaenorol. 
  • Mae amgylchiadau eithriadol eraill i awgrymu nad yw'r person ifanc wedi cael mynediad effeithiol at addysg bellach neu hyfforddiant.​
O flwyddyn 9 ymlaen, enw’r broses o ystyried opsiynau a llwybrau ar gyfer person ifanc ôl-16 yw cynlluniau pontio. Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda'r person ifanc, ei deulu a’r gweithwyr proffesiynol y mae’n gweithio gyda nhw i drafod:

  • amcanion sydd ganddynt ar gyfer y dyfodol 
  • yr hyn sydd ei angen i gyflawni'r amcanion
  • pwy fydd yn darparu’r cymorth

Bydd gweithiwr allweddol pontio yn cael ei enwi ar y cynllun i sicrhau ei fod yn rhedeg yn ddidrafferth ac i helpu os bydd angen. 

Pan fydd cynllun wedi'i gwblhau, bydd yn cael ei rannu â phawb sy'n cefnogi'r person ifanc, gan gynnwys:

  • yr ysgol neu'r coleg
  • teulu 
  • gwasanaethau iechyd neu ysbyty 
  • gwasanaethau cymdeithasol   


Bydd y cynllun yn cael ei adolygu bob blwyddyn.  

Cyn i'r person ifanc droi'n 16 oed, bydd ei rieni neu’r gwasanaethau cymdeithasol yn penderfynu a ddylid rhannu'r cynllun. Unwaith y bydd y person ifanc yn troi'n 16 oed, gall benderfynu a yw'n dymuno i'r cynllun gael ei rannu neu a yw am barhau i gael cynllun pontio.

Wrth i amser fynd yn ei flaen, efallai y bydd angen cymorth ar y person ifanc gan weithiwr cymdeithasol pontio. Os yw'r gweithiwr cymdeithasol yn penderfynu bod angen cymorth ar y person ifanc wrth iddo ddod yn oedolyn, bydd y gweithiwr cymdeithasol pontio yn gofyn am benderfyniad amlasiantaethol i benderfynu pwy fydd yn parhau i helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol y person ifanc pan fydd yn 18 oed.

Os bydd person ifanc yn gadael addysg neu'n teimlo nad oes angen cymorth arno mwyach i gynllunio ar gyfer ei ddyfodol, gall ofyn i'w gynllun ddod i ben. 

Nid oes gan bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed hawl i addysg neu hyfforddiant parhaus mwyach. 
Wrth gynllunio ar gyfer y dyfodol gyda pherson ifanc, mae'n hanfodol ystyried ei farn, ei deimladau a'i uchelgeis i’r dyfodol. Mae angen rhannu nodau a chanlyniadau dymunol gyda ni pan fyddwn yn edrych am ddarpariaeth i ddiwallu eu hanghenion. 

Dyma rai enghreifftiau o ganlyniadau a ddymunir: 

  • cwblhau cymhwyster galwedigaethol
  • datblygu sgiliau byw'n annibynnol
  • cymryd rhan yn y gymuned 
  • paratoi ar gyfer gwaith
  • symud ymlaen i gyfleoedd addysg neu hyfforddiant eraill


Gall fod ffocws ehangach hefyd, fel: 

  • datblygu perthnasoedd cymdeithasol
  • cefnogi sefydlogrwydd emosiynol 
  • datblygu sgiliau neu rinweddau eraill y bydd eu hangen wrth fod yn oedolyn
Ar ôl i'r person ifanc rannu ei ganlyniadau dymunol, byddwn yn dod o hyd i raglen astudio addas. Gall y rhan fwyaf o ysgolion prif ffrwd a sefydliadau addysg bellach gynnig rhaglen addas ar gyfer person ifanc ag ADY a bydd y rhain yn cael eu hystyried yn gyntaf. Byddwn yn penderfynu a all y person ifanc astudio yno ac a oes angen unrhyw ddarpariaeth ddysgu ychwanegol. ​

Os ydym yn fodlon y gallai ysgol neu sefydliad addysg bellach ddarparu'r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar y person, byddant yn paratoi ac yn cynnal y CDU ar gyfer y person ifanc. 

Os yw'n annhebygol y gellir bodloni anghenion y person ifanc mewn lleoliad prif ffrwd, gallwn ystyried rhaglenni astudio mewn sefydliad arbenigol, fel Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol. Os bydd person ifanc yn mynychu Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol, byddwn yn cynnal y CDU. 

Yn ddelfrydol, dylai pob person ifanc ag ADY fynychu addysg a hyfforddiant ôl-16 yn eu hardal leol er mwyn cynnal cysylltiadau â'r teulu, eu cymuned a gwasanaethau lleol. 

Os yw anghenion person ifanc yn gymhleth ac nad oes darpariaeth addas ar gael yn lleol, gall fynychu sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Byddwn ond yn ystyried sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol os yw’n debygol mai dim ond mewn sefydliad arbenigol y gellir diwallu anghenion y person ifanc. 

Pan fyddwn yn ceisio sicrhau lleoliad mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol, mae'n rhaid i ni ystyried: 

  • A oes gan y person ifanc anghenion rhesymol o ran addysg a hyfforddiant?
  • Beth yw nodau’r person ifanc?
  • Pa ddarpariaeth neu raglen astudio sydd ar gael yn y sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol fyddai'n helpu'r person ifanc i gyflawni'r canlyniadau dymunol? ​
Wrth benderfynu a oes angen bwyd a llety er mwyn bodloni anghenion y person ifanc, byddwn yn ystyried a oes modd bodloni anghenion y person ifanc mewn darpariaeth ddydd. Byddai angen profi mai dim ond mewn lleoliad preswyl y gellir darparu rhan hanfodol o'i addysg neu ei hyfforddiant. Byddai'n rhaid i'r lleoliad hefyd gydymffurfio â safonau rheoleiddio ar gyfer lleoliadau preswyl.​
Mae gallu teithio’n annibynnol yn rhan bwysig o ddatblygu gwytnwch ac annibyniaeth person ifanc. 

Bydd teithio’n cael ei drafod yn adolygiad pontio'r person ifanc, yn enwedig os bydd yn pontio i leoliad lle bydd angen defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae rhywfaint o'r cymorth sydd ar gael yn cynnwys:

Hyfforddiant Teithio Annibynnol

Nod y Cynllun Hyfforddiant Teithio Annibynnol (CHTA) yw rhoi'r sgiliau allweddol a'r hyder i ddisgyblion ag ADY deithio o amgylch y ddinas yn annibynnol gan ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.  

Caiff pobl ifanc eu hasesu i weld a ydyn nhw'n barod am hyfforddiant. Erbyn diwedd blwyddyn 11, dylai person ifanc fod wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn hyfforddiant teithio. Canfod mwy am hyfforddiant teithio

Pasys bws consesiynol

Gall llawer o bobl ifanc ag ADY gael tocyn bws am ddim. Gallant hefyd brynu rhai tocynnau trên hefyd am bris gostyngol gyda'r pàs hwn. Canfod mwy am basys bws consesiynol

Lwfans symudedd 

Os yw person ifanc yn derbyn Taliad Annibyniaeth Bersonol ac â phroblemau symudedd, gall gael lwfans symudedd fel rhan o'r taliad i helpu i dalu am gost trafnidiaeth. Canfod mwy am lwfans symudedd.

Y Cynllun Waled Oren

Mae'r Cynllun Waled Oren wedi'i anelu at bobl ifanc sy'n cael anhawster cyfathrebu. Mae’r waled yn defnyddio geiriau a lluniau i gyfleu anghenion y person ifanc i staff trafnidiaeth ledled Cymru. Mae staff yn cael eu hyfforddi i adnabod y waled. Canfod mwy am y Cynllun Waled Oren


Gall eiriolwr gynnig mwy o gefnogaeth yn ystod y broses bontio. Os hoffai person ifanc gael eiriolwr, gall ofyn i'w ysgol, sefydliad addysg bellach, neu weithiwr cymdeithasol. 

Gall person ifanc gael cymorth gan ffrind achos neu gynrychiolydd hefyd os oedd angen cymorth i wneud penderfyniadau. 
Os bydd rhywbeth yn mynd o'i le, gall y person ifanc gael cymorth gan y Gwasanaeth Datrys Anghytundeb​.  ​
 
© 2022 Cyngor Caerdydd