Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Y blynyddoedd cynnar

​​
​Mae yna lawer o wahanol fathau o ddarpariaethau gofal plant a meithrin yng Nghaerdydd, megis: 

  • grwpiau chwarae  
  • meithrinfeydd annibynnol, a 
  • meithrinfeydd ynghlwm wrth ysgolion. 


Cynhwysiant ar gyfer pob plentyn

Mae pob plentyn yn wahanol a gallant ddatblygu ar adegau gwahanol am lawer o resymau gwahanol.  Mae ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar (pobl sy'n gweithio yn lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar) yn brofiadol yn arsylwi a chasglu gwybodaeth am blant. Mae lleoliadau yn gweithio i leihau rhwystrau amgylcheddol a chymdeithasol i gynhwysiant, ac yn cynnig cyfleoedd i bob plentyn gyflawni ei botensial llawn.   

Bydd ymarferwyr y Blynyddoedd Cynnar yn monitro cynnydd eich plentyn.  Dylai'r ymarferwyr nodi cryfderau'r plentyn ac unrhyw feysydd lle nad yw ei gynnydd yn ôl y disgwyl.  Os codir unrhyw bryderon am eich plentyn, dylai'r lleoliad ddefnyddio ei arbenigedd i ddiwallu ei anghenion. Dylai lleoliadau ddarparu amgylchedd cynhwysol effeithiol ac ymdrechu i ddileu unrhyw rwystrau posibl a allai effeithio ar ddatblygiad neu ddysgu.  

Os oes gennych bryderon am eich plentyn

Os oes gennych bryderon am gynnydd eich plentyn, dylech drafod hyn gyda'r lleoliad neu eich ymwelydd iechyd. Gall y lleoliad drafod yr hyn sydd ganddo ar waith a’r ffordd y mae'n bodloni anghenion eich plentyn. 

Ni ddylid tybio bod gan blant anghenion ychwanegol dim ond am fod eu cynnydd yn arafach nag eraill.  Pan ymddengys bod plentyn yn gwneud cynnydd araf iawn, efallai y bydd angen rhoi cyfleoedd eraill iddo neu ddefnyddio dulliau amgen. 

Os bydd anawsterau eich plentyn yn parhau, gallai hyn ddangos bod ganddo anghenion ychwanegol sy'n gofyn am lefel o gymorth sydd ddim ar gael yn y lleoliad presennol. 

Os gallai eich plentyn fod ag anghenion dysgu ychwanegol 

Efallai y bydd gan rai plant anghenion cymhleth na all y lleoliad ddarparu ar eu cyfer. Efallai y bydd angen darpariaeth ychwanegol ar y lleoliad i gefnogi datblygiad eich plentyn. 

Os yw hyn yn wir, yna bydd angen i naill ai'r lleoliad neu weithiwr iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â'ch plentyn ein hysbysu ni y gallai fod gan eich plentyn anghenion dysgu ychwanegol (ADY).  Gallant wneud atgyfeiriad at Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar. Grŵp amlasiantaethol yw’r Panel sy'n gwneud cynlluniau ar gyfer, yn monitro ac yn adolygu plant ag anghenion sy’n dod i’r amlwg, ADY neu anableddau (yn unol â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018).

Mae'n bosibl bod rhai plant ag anghenion cymhleth eisoes wedi cael eu nodi fel rhai ag ADY neu anabledd cyn dechrau lleoliad y Blynyddoedd Cynnar.  Bydd y Panel neu’r Tîm Cynhwysiant Blynyddoedd Cynnar eisoes wedi cynllunio darpariaeth briodol, ac yn parhau i fonitro ac adolygu eu hanghenion. 

Am fwy o wybodaeth am Banel Cynhwysiant y Blynyddoedd Cynnar, e-bostiwch: TimCynhwysiantBlynyddoeddCynnar@caerdydd.gov.uk.

Dechrau yn yr ysgol

Dylech drefnu i ymweld â'r ysgol i roi cyfle i chi gwrdd â'r staff addysgu ac ystyried sut y byddant yn ymateb i anghenion eich plentyn. Bydd gan yr ysgol hefyd ddarlun llawnach o anghenion eich plentyn cyn iddo ddechrau. 

Os oes gan eich plentyn gynllun datblygu unigol (CDU), byddwn yn dweud wrth yr ysgol am gynnal y CDU. Dylid cofnodi'r holl gytundebau pontio yn adran 3C o'r CDU. 

Ni fydd yr ysgol yn cynnal y CDU os yw'r plentyn wedi dechrau derbyn gofal. Byddwn yn parhau i gynnal CDUau ar gyfer pob plentyn sy'n derbyn gofal. 

Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar

Rhaid i bob cyngor fod â Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar sy'n gyfrifol am gydlynu ein gweithrediadau ynghylch plant sydd o dan oedran ysgol gorfodol ac nad ydynt eto yn mynychu ysgol a gynhelir (o dan y Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg).

Byddant hefyd yn datblygu ac yn cynnal perthynas effeithiol â'r holl wasanaethau eraill sy'n gweithio gyda’n carfannau blynyddoedd cynnar, fel iechyd a gwasanaethau plant. 

Gallwch gysylltu â'n Swyddog Arweiniol Anghenion Dysgu Ychwanegol y Blynyddoedd Cynnar ar e-bost: TimCynhwysiantBlynyddoeddCynnar@caerdydd.gov.uk​.
© 2022 Cyngor Caerdydd