Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cael help gan yr ysgol

​​
​Y rhan fwyaf o'r amser gall anawsterau plentyn neu berson ifanc gael eu nodi a gall yr ysgol ddiwallu anghenion y plentyn neu’r person ifanc hwnnw.   

Mae pob ysgol yn ystyried anghenion dysgu unigol ei disgyblion, a bydd yr athrawon yn cynnig cymorth ychwanegol, er enghraifft:

  • ychwanegu mwy o gamau at dasg, 
  • awgrymiadau gweledol i helpu’r plant i drefnu eu hunain,
  • apiau i’r dysgwyr weithio ar eu cyflymder eu hunain,
  • rhoi amser ychwanegol i gwblhau tasgau,
  • grwpiau dal i fyny neu waith grŵp bach gyda chymorth penodol ar gyfer mathemateg a llenyddiaeth, a
  • chymorth lles.  


Bydd angen mwy o gymorth neu gymorth gwahanol ar rai dysgwyr i'r cymorth a roddir yn gyffredinol i bob plentyn.

Mae gan bob ysgol a gynhelir yng Nghymru ddyletswyddau cyfreithiol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).

Mae gan feithrinfeydd, ysgolion a cholegau ddyletswyddau clir o dan Ddeddf ADYTA 2018 a Chod ADY Cymru 2021 (y cod). Mae'r cod yn cynnwys arweiniad ar yr hyn y dylent fod yn ei wneud i nodi a chefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.

Rhaid i ysgolion benderfynu os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol a rhoi’r cymorth sydd ei angen arno i’w helpu i ddysgu.  Mae'r cod ADY yn dweud bod yn rhaid i'r ysgol ystyried rhoi help os oes pryder am ei gynnydd.

Er mai athrawon yn aml yw'r bobl sy'n penderfynu bod dysgwr angen rhywfaint o help, mae'r cod yn dweud bod unrhyw un sy'n adnabod y dysgwr ac sy'n pryderu yn gallu rhoi gwybod i'r ysgol.  Mae hyn yn cydnabod bod gan rieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill wybodaeth hanfodol yn aml a all gadarnhau barn yr ysgol neu ychwanegu ati.

Mae'r cod ADY yn dweud y dylai ysgolion geisio nodi anhawster dysgwr yn gynnar, fel bod y plentyn yn gallu cael y math iawn o help cyn gynted â phosibl.
  
Rhaid i bob ysgol fod â chydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (Cydlynydd ADY) Yn unol â’r Ddeddf ADY mae bod â chydlynydd ADY mewn ysgol yn ofyniad cyfreithiol. Yn flaenorol, nid oedd cael cydlynydd anghenion addysgol arbennig (Cydlynydd AAA) yn ofyniad cyfreithiol.

Os nad yw eich plentyn yn gwneud digon o gynnydd yn yr ysgol, dylai'r athro dosbarth neu'r Cydlynydd ADY siarad â chi am gael cyngor gan bobl eraill y tu allan i'r ysgol.

Ar y cam hwn, gall yr ysgol geisio cyngor a chymorth gan wasanaethau allanol a ddarperir gennym ni neu asiantiaethau eraill.  Er enghraifft:
  
  • Athro Arbenigol, 
  • Seicolegydd Addysg, 
  • Therapydd Lleferydd ac Iaith, neu 
  • Gweithiw(y)r Iechyd Proffesiynol. 

​​

© 2022 Cyngor Caerdydd