Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cael help gan y cyngor

​Rhaid i ni gefnogi plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. 


Disgrifir ein dyletswyddau yn:


Rydym yn gyfrifol am ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol o 0 i 25 oed. Rhaid i ni sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at addysg a hyfforddiant addas, gan gynnwys addysg orfodol ac addysg ôl-16 arbenigol lle bo angen.  Rydym yn rhoi arian i ysgolion i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY. 

Bydd y rhan fwyaf o gynlluniau datblygu unigol (CDUau) ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu datblygu gan ysgolion neu sefydliadau addysg bellach. 

Gall rhieni, goflalwyr, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol sy'n gweithio gyda'r plentyn neu'r person ifanc gysylltu â ni os oes ganddynt bryderon. Gallant ofyn i ni benderfynu a oes gan y plentyn neu’r person ifanc ADY a pharatoi CDU os:

  • yw’r dysgwr yn dan 5 oed a ddim mewn ysgol a gynhelir. 
  • yw’r dysgwr yn derbyn gofal. 
  • yw’r dysgwr yn mynychu ysgol nad yw'n cael ei chefnogi'n ariannol gan y Cyngor.
  • yw’r dysgwr yn cael ei addysg heblaw yn yr ysgol (AHY) neu â chofrestriad deuol. Mae cofrestriad deuol yn golygu pan fo disgybl wedi'i gofrestru mewn un ysgol a darpariaeth arall ar gyfer rhywfaint neu bob rhan o'i ddysgu. 
  • yw’r dysgwr dan gadwad. Er enghraifft, mewn sefydliad troseddwyr ifanc neu gartref plant diogel.


Fel Cyngor, rhaid i ni hefyd gynnig:

  • gwybodaeth a chyngor diduedd i blant, pobl ifanc, rhieni a gofalwyr, 
  • trefniadau ar gyfer osgoi a datrys aghytundebau sy’n annibynnol ar y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau (byddem yn penodi swyddog i weithio gyda’r rhieni a’r ysgol i ddatrys unrhyw faterion a allai godi), 
  • mynediad i wasanaethau eiriolaeth annibynnol, a
  • swyddog arweiniol sy'n gallu cefnogi plentyn dan 5 oed i ddechrau'r ysgol.


Byddwn yn adolygu'r trefniadau a'r ddarpariaeth rydym yn eu cynnig yn rheolaidd i sicrhau eu bod yn werth chweil ac yn effeithiol. 

Ein dyletswydd i benderfynu ar ADY plentyn neu berson ifanc

Pan ddaw plentyn neu berson ifanc i’n sylw, mae'n ddyletswydd arnom i benderfynu a oes ganddo anghenion dysgu ychwanegol.
Er enghraifft, byddem yn ystyried gwneud penderfyniad ynghylch plentyn neu berson ifanc: 

  • os yw wedi cael ei atgyfeirio gan gorff llywodraethu, 
  • os yw plentyn, rhiant neu berson ifanc wedi gwneud cais i ni, 
  • os yw Bwrdd Iechyd Lleol wedi gwneud atgyfeiriad (adran 64), neu
  • os ydym wedi cael cyfarwyddyd i wneud hynny gan y Tribiwnlys Addysg.


Ni fyddwn yn gwneud penderfyniad am ADY plentyn neu berson ifanc os: 

  • mae cynllun datblygu unigol (CDU) eisoes yn cael ei gynnal ar gyfer y plentyn neu'r person ifanc.
  • rydym wedi penderfynu o'r blaen bod gan blentyn neu berson ifanc ADY ac nid yw'r anghenion hynny wedi newid ers gwneud penderfyniad, neu nid oes unrhyw wybodaeth newydd a fydd yn newid y penderfyniad, 
  • rydym yn fodlon bod y penderfyniad am ADY y plentyn neu'r person ifanc yn cael ei wneud gan yr ysgol neu'r sefydliad addysg bellach (adran 11(1)),
  • mae'r penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc sy'n fyfyriwr mewn addysg bellach, neu
  • mae'r penderfyniad yn ymwneud â pherson ifanc dros 16 oed nad yw'n cydsynio i'r penderfyniad sy’n cael ei wneud. ​




© 2022 Cyngor Caerdydd