Mae anghenion dysgu ychwanegol, y cyfeirir atynt yn aml fel 'ADY', yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio anawsterau dysgu neu anableddau sy'n ei gwneud yn anoddach i blentyn ddysgu o'i gymharu â phlant o'r un oedran.
Mae gan tua un o bob pum dysgwr yng Nghymru anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Gall pob plentyn wynebu heriau gyda'i ddysgu. I'r rhan fwyaf o blant, mae'r anawsterau hyn yn cael eu goresgyn gyda chefnogaeth gan athrawon a gartref. Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd angen help ychwanegol neu wahanol ar blant ag ADY i ddysgu.
Efallai y bydd gan rai plant ADY oherwydd cyflwr meddygol neu anabledd. Efallai y bydd gan blant eraill ADY heb ddiagnosis neu anabledd. Ni ystyrir bod gan blant ADY dim ond oherwydd nad Cymraeg neu Saesneg yw eu mamiaith.
Mae’r diffiniad o ADY yn debyg iawn i'r diffiniad cyfredol o anghenion addysgol arbennig. Y gwahaniaeth mawr yw y gellir ei ddefnyddio ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed.
Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (ADYTA) (Cymru) 2018 (Rhan 2, Pennod 1) (Pennod 2 Cod ADY) yn dweud:
Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (pa un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.
Gall anghenion dysgu ychwanegol effeithio ar allu plentyn neu berson ifanc i ddysgu. Er enghraifft, gallai ADY rhywun effeithio ar ei:
- ddarllen a’i ysgrifennu,
- gallu i ddeall pethau,
- ymddygiad neu ei allu i gymdeithasu a chyfathrebu,
- lefelau canolbwyntio, a
- gallu corfforol.