Mae gan Dechrau'n Deg ystod o wasanaethau i deuluoedd â phlant hyd at 3 blynedd 11 mis oed sy'n byw mewn rhai rhannau o Gaerdydd. Ewch i wefan
Dechrau'n DegDolen yn agor mewn ffenestr newydd i gael rhagor o wybodaeth a gweld a allwch fanteisio arnynt.
Mae hwn yn gwrs chwe wythnos i helpu rhieni neu ofalwyr a'u plant.
Mae'n canolbwyntio ar gyfathrebu, iaith a llythrennedd drwy chwarae, ac mae'n seiliedig ar y themâu canlynol:
- pwysigrwydd siarad â phlant
- arferion bob dydd
- yr awyr agored
- llyfrau a straeon
- caneuon a rhigymau
- sgiliau cyn ysgrifennu
Mae Iaith a Chwarae ar gael mewn nifer o ysgolion i blant oedran meithrin, a rhai dosbarthiadau derbyn.
Pe hoffech ragor o wybodaeth am y cwrs, cysylltwch â ni
Rhaglen ysgol gynradd sydd am wella sgiliau darllen, ysgrifennu a mathemateg plant a’u rhieni neu ofalwyr.
Mae'r rhaglen yn helpu rhieni i ddysgu mwy am waith ysgol eu plentyn, a bod o gymorth iddynt ei helpu gartref yn fwy hyderus.
Mae cyrsiau'n amrywio o bedair sesiwn hyd at ddiwrnod yr wythnos am un tymor ysgol, ac maent am ddim i ysgolion a rhieni.
Gallai rhieni a gofalwyr ennill tystysgrif a gydnabyddir yn genedlaethol am gymryd rhan.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â
FamLearnTog@cavc.ac.uk