Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Cynnig Gofal Plant Cymru

​​

​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​

chilcare offer_EN.png​ 

​ 

Cynnig Gofal Plant Cymru: Help gyda chostau gofal plant i rieni cymwys â phlant 3 a 4 oed.

Gallwch hawlio hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant yr wythnos. Mae'r cynllun yn cwmpasu hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn helpu rhieni cymwys i:

  • ddychwelyd i’r gwaith 
  • cynyddu eu horiau
  • gweithio’n fwy hyblyg
  • mynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant 




 

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn darparu rhieni cymwys gyda 30 awr cyfunol o ofal plant a Darpariaeth Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a ariennir gan y llywodraeth am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. 

Mae’r 48 wythnos yn cynnwys 39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol adeg tymor ysgol ynghyd â 9 wythnos o ofal plant y tu allan i dymhorau ysgol.

Byddwch yn atebol am unrhyw ofal plant sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod y 4 wythnos na thelir amdanynt. Wythnosau gwyliau ysgol fydd y rhain bob amser.​​

39 wythnos o addysg a gofal plant cyfunol yn ystod tymor ysgol
Provision
Awr yr wythnos​
​Darpariaeth ddysgu sylfaen (addysg gynnar)
12.5 awr
Cynnig gofal plant 
17.5 awr

​= 30 awr

9 wythnos o ddarpariaeth ‘wyliau’ y tu allan i dymhorau ysgol
Provision
Awr yr wythnos
​Cynnig gofal plant
30 awr​​​
Nid oes angen i chi gymryd lle addysg gynnar mewn dosbarth meithrin i ddefnyddio'r Cynnig Gofal Plant, hyd yn oed os nad oes lleoedd yn eich ysgol ddewisol. P'un a ydych yn dewis cael mynediad at y 12.5 awr o addysg a ddaw gyda'r cynnig ai peidio, bydd eich cyllid gofal plant yn cael ei gapio ar uchafswm o: 

  • 17.5 awr yn ystod y tymor, neu 
  • 30 awr yn ystod gwyliau'r ysgol. 


Mae arian y Cynnig Gofal Plant ar gyfer y gofal plant y mae’r gweithwyr proffesiynol yn y lleoliad yn ei ddarparu. Nid yw'n cynnwys bwyd, cludiant i’r dosbarth meithrin neu oddi wrtho, na gweithgareddau oddi ar y safle sy'n codi tâl ychwanegol, y mae'n bosib y bydd yn rhaid i chi eu talu.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch pa gostau ychwanegol y gallai fod rhaid i chi eu talu ar ôl gwneud cais, siaradwch â'r darparwyr.  


Os hoffech fanteisio ar y cynllun Gofal Plant Di-dreth i helpu gyda'r costau ychwanegol hyn, bydd angen i chi gyflwyno cais ar wahân ar wefan GOV.UK. Dysgwch fwy am y Cynllun Gofal Plant Di-dreth​.​



Rydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig Gofal Plant os ydych yn byw yng Nghymru, bod gennych blentyn 3 neu 4 oed, a’ch bod naill ai:

  • Yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac yn ennill o leiaf yr hyn sy'n cyfateb i 16 awr yr wythnos ar y gyfradd Isafswm Cyflog Cenedlaethol a llai na £100,000 y flwyddyn.
  • Wedi’ch cofrestru ar gwrs addysg bellach neu gwrs israddedig neu ôl-radd addysg uwch sydd o leiaf 10 wythnos o hyd. Rhaid i'r cwrs gael ei redeg gan goleg neu brifysgol a ariennir yn gyhoeddus i fod yn gymwys.  


Os oes gennych bartner sy'n byw gyda chi, rhaid iddo hefyd fodloni'r meini prawf.

Os oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol, mae arian ychwanegol ar gael. Cysylltwch â ni os gall fod angen cymorth ychwanegol ar eich plentyn.


Ni allwn gadarnhau a ydych yn gymwys nes ein bod wedi derbyn a phrosesu eich cais gorffenedig.


Gallwch ddewis unrhyw ddarparwr gofal plant sydd wedi cofrestru ar gyfer y Cynnig Gofal Plant ac sydd wedi’i gofrestru hefyd gydag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Cewch weld a yw eich darparwr dewisol wedi cofrestru ar hyn o bryd drwy gysylltu â'r tîm Cynnig Gofal Plant ar 03000 628 628 neu wirio Dewis Cymru.

Nid yw gwneud cais yn gwarantu lle gofal plant.

Pryd i wneud cais
Dyddiad geni'r plentyn
Cymwys o
Cymwys i
Ceisiadau ar agor
1 Medi 2019 i 31 Awst 2020
Cymeradwyo cais
31 Awst 2024
Ar agor
​1 Medi 2020 i 31 Rhagfyr 2020
Cymeradwyo cais
​31 Awst 2025
​Ar agor
​1 Ionawr 2021 i 31 Mawrth 2021
Cymeradwyo cais
​31 Awst 2025
Ar agor
​1 Ebrill 2021 i 31 Awst 2021
​2 Medi 2025
​31 Awst 2025
​19 Mehefin 2024
​1 Medi 2021 i 31 Rhagfyr 2021
​6 Ionawr 2025
​31 Awst 2026
​23 Hydref 2024
​1 Ionawr 2022 i 31 Mawrth 2022
​28 Ebrill 2025
​31 Awst 2026
12 Chwefror 2025​
​Os ydych yn gymwys bydd eich arian yn dechrau ar ôl i’ch darparwr gytuno i’r cytundeb gofal plant rydych wedi’i sefydlu.

Nid oes dyddiad cau ar gyfer gwneud cais, ond ni allwn ôl-ddyddio unrhyw gyllid ar gyfer ceisiadau sydd wedi'u cymeradwyo ar ôl dechrau'r tymor.




Mae’r cais hwn ar gyfer y Cynnig Gofal Plant yn unig. Rhaid i chi fynd i Dderbyniadau Meithrin i wneud cais am addysg gynnar​

Byddwn yn cynnal gwiriadau cymhwysedd bob tymor. Eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i ni a'r lleoliad gofal plant os yw eich amgylchiadau wedi newid. 

Os yw amgylchiadau eich teulu wedi newid ac nad ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun mwyach, byddwch yn dal i allu manteisio ar y Cynnig am 8 wythnos, gan roi cyfle i chi ddod yn gymwys eto.

Os oes unrhyw gwestiynau gennych neu os hoffech drafod eich cais, yna cysylltwch â ni.

Ffôn:  03000 628 628

Ebost: cynniggofalplantcaerdydd@caerdydd.gov.uk​


Dewch o hyd i ni ar Facebook
Dewch o hyd i ni ar X​.
Dewch o hyd i ni ar Instagram​.



​​​​​​​​​​​​ ​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​​
© 2022 Cyngor Caerdydd