Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Eich Treth Gyngor ar-lein

Sicrhewch eich bod yn rhoi’ch enw cyntaf, cyfenw a chod post yn union fel y maent ar eich bil.​

Mae’ch rhif cyfrif 8 digid ar eich bil Treth Gyngor.
 
Gallwch weld manylion o ran:
  • ​faint mae angen i chi ei dalu,
  • pryd mae angen i chi dalu,
  • eich band prisio,
  • y taliadau yr ydych wedi’u gwneud, ac 
  • unrhyw daliadau sy'n ddyledus.

 
Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'ch cyfrif, gallwch hefyd:
  • drefnu debyd uniongyrchol, 
  • diwygio debyd uniongyrchol,
  • gwneud cais ar-lein am ad-daliad,
  • gwblhau adolygiad eithriad myfyriwr, a
  • cwblhau adolygiad gostyngiad person sengl.




Os hoffech siarad â rhywun am eich Treth Gyngor, cysylltwch â ni.​ 

Yn anffodus, os yw eich Cyfrif Treth Gyngor yn enw cwmni neu asiant eiddo, ni fyddwch yn gallu cael mynediad i wybodaeth trwy’r Dreth Gyngor Ar-lein.

Gallwch chi ddewis peidio â derbyn biliau papur a dechrau derbyn eich biliau treth gyngor yn electronig.

Mae hyn yn golygu y gallwch weld eich biliau ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Byddwch hefyd yn derbyn nodiadau atgoffa neu hysbysiadau terfynol yn electronig.

Sut i gofrestru ar gyfer e-filiau

​ ​
Bydd angen rhif eich cyfrif Treth Cyngor arnoch i fewngofnodi i'n system Treth Gyngor ar-lein. Unwaith y byddwch wedi mewngofnodi, gallwch ddewis derbyn e-filiau yn y dyfodol.


Gallwch gysylltu â ni ar-lein am eich Treth Gyngor gan ddefnyddio ein ffurflenni cyswllt.

Cofiwch gynnwys eich rhif Treth Gyngor pan fyddwch yn cysylltu â ni drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.​

Cysylltu â ni


​​

Gallwch ffonio Cysylltu â Chaerdydd (C2C) ar 029 2087 2088 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8.30am a 5pm.

Mae’r ganolfan gyswllt ar gau yn ystod gwyliau cyhoeddus y DU. Os byddwch yn ffonio pan fydd ein canolfan gyswllt ar gau, byddwch yn clywed neges yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol.

Ysgrifennwch i:

Y Dreth Gyngor
BLWCH POST 9000
Caerdydd
CF10 3WD​

​​




​​​
​​​​​​​​​​
​​​
Cardiff Gov app logo
Lawrlwythwch i gael ffordd well o gysylltu â gwasanaethau’r cyngor.​
Download app via Apple store Download app via Google Play store​​

​​


​​


© 2022 Cyngor Caerdydd