Hwn yw’r dyddiad y cafodd eich bil ei anfon atoch. Ni chaiff unrhyw daliadau a wnaed ar ôl y dyddiad hwn eu dangos ar y bil hwn.
Mae’r adran hon yn egluro pam fod y bil wedi’i gyhoeddi a bydd yn dangos un o’r rhesymau canlynol:
-
Bil blynyddol
Eich bil newydd am y flwyddyn dreth nesaf. -
Budd-daliadau
Mae’r bil wedi’i gyflwyno i ddangos newid yn eich gostyngiad treth gyngor. -
Cyfrif wedi’i Gau
Anfonir y bil hwn i chi pan ddaw cyfnod bilio i ben e.e. pan fyddwch yn gadael yr eiddo. -
Newid i’r Band Prisio
Caiff y bil hwn ei anfon pan fydd Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi penderfynu ailasesu band eich eiddo. -
Cyfrif Newydd
Mae hyn yn golygu bod cyfrif newydd wedi’i greu i chi yn yr eiddo a ddangosir ar y bil. -
Eithriad
Bydd y bil hwn yn dangos bod eithriad wedi’i roi neu’i dynnu oddi ar eich cyfrif. -
Gostyngiad
Bydd y bil hwn yn dangos bod disgownt wedi’i roi neu’i dynnu oddi ar eich cyfrif.
Dyma eich rhif cyfeirnod personol i’ch cyfrif treth gyngor a’ch cyfnod atebolrwydd. Efallai y bydd gennych lawer o gyfrifon yn yr eiddo yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Rhaid bod gennych y rhif hwn wrth law i drafod eich bil.
Y cyfeiriad y mae’r bil yn berthnasol iddo.
Dyma’r band y rhoddwyd eich eiddo ynddo.
Rhagor o wybodaeth am fandiau prisio.Y cyfnod y mae’r bil yn berthnasol iddo. Mae biliau bob amser yn cyfateb i’r flwyddyn ariannol. Os yw’n fil blynyddol, bydd bob amser o 1 Ebrill tan 31 Mawrth i’r flwyddyn ariannol honno.
Hefyd yn yr adran hon mae:
Balans sy’n cael ei Gario Drosodd: Caiff unrhyw swm sy’n ddyledus gennych o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf ei nodi yma.
Addasiadau: Mae hwn yn dangos unrhyw addasiadau i’ch bil. Mae ffigur negyddol (-) yn ostyngiad o gyfanswm eich bil. Fel arall mae’n ychwanegu at gyfanswm y bil. Bydd hyn am un o’r rhesymau canlynol:
- Budd-daliadau
- Gostyngiad Person Sengl
- Gostyngiad Anabledd
- Disgownt Eiddo Gwag
- Eithriadau
- Ad-daliadau
- Diystyru
- Costau
- Trosglwyddo o eiddo / cyfrifon eraill
Mae hwn yn gyfrifol o’r cyfanswm y bydd angen i chi ei dalu sy’n dangos unrhyw ddisgowntiau a/neu ychwanegiadau.
Y cyfanswm y bydd angen i chi ei dalu am y cyfnod a nodir yn Adran 6.
Mae’r adran hon yn dangos ar ba ddyddiadau y mae angen i chi dalu a sut rydych yn bwriadu talu.
- Debyd Uniongyrchol – bydd eich taliadau’n mynd o'ch cyfrif banc ar y dyddiadau a nodir.
- Arian parod – Unrhyw ddull talu arall, gan gynnwys taliadau ar y rhyngrwyd, yn y swyddfa bost, â cherdyn debyd/credyd a siec.
Symiau'r rhandaliadau: Mae hyn rhoi gwybod i chi faint y byddwch yn ei dalu ar bob dyddiad rhandalu. Mae’r rhandaliad cyntaf fel arfer fymryn yn wahanol i’r gweddill.
Enw’r sawl sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor ar y bil hwn. Rhagor o fanylion ar
bwy sy’n gyfrifol am dalu’r dreth gyngor.