Y person a enwir ar fil Treth Gyngor sy'n gyfrifol am dalu'r ffioedd.
Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, y preswylydd sydd â'r budd mwyaf yn yr eiddo fel arfer. Megis:
Bydd perchnogion yn atebol dros eiddo sydd heb ei feddiannu ac ar gyfer eiddo yr ystyrir ei fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth.
Cyd-Atebolrwydd
Mae atebolrwydd cyd ac unigol yn derm cyfreithiol sy'n golygu bod pob person sydd â'r un lefel o fudd mewn eiddo yr un mor gyfrifol am dalu'r Dreth Gyngor.
Byddwn yn cyflwyno’r bil Treth Gyngor mewn mwy nag un enw os ydych:
- yn berchen ar eich eiddo ar y cyd â pherson arall neu bobl eraill,
- â chyd-denantiaeth â pherson arall neu bobl eraill,
- yn briod,
- yn rhan o bartneriaeth sifil, neu
- yn byw gyda rhywun arall fel rhan o gwpl.
Yr hawl i apelio
Os ydych yn anghytuno â'r penderfyniad i'ch gwneud yn atebol dros y tâl, neu os ydych yn credu bod gennych hawl i ostyngiad neu eithriad, yna mae gennych hawl i apelio.