Sign In
Cyngor Caerdydd www.caerdydd.gov.uk
Loading

Fy Nghymdogaeth

Defnyddiwch eich cod post i ddod o hyd i gynghorwyr, cyfleusterau, dalgylchoedd ysgol lleol a mwy.

Find facilities in my area

Cyngor Caerdydd

www.caerdydd.gov.uk

Gostyngiad Pobl Anabl

​​​​​​​​​​​​​Ystyr ‘person anabl’ yn y cyd-destun hwn yw person sydd ag anabledd sylweddol a pharhaol. Gall fod yn oedolyn neu'n blentyn ac nid oes rhaid iddo fod yn gyfrifol am dalu bil Treth Gyngor. 

Gallech fod yn gymwys i gael gostyngiad os oes gan eich eiddo o leiaf un o’r canlynol:

  • ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol i fodloni anghenion y person anabl,
  • ystafell (heblaw cegin, ystafell ymolchi neu doiled) i fodloni anghenion y person anabl ac a ddefnyddir yn bennaf gan y person hwnnw,
  • lle ychwanegol y tu mewn i’r eiddo er mwyn defnyddio cadair olwyn.

Rhaid i'r ystafell neu'r gadair olwyn fod yn hanfodol, neu'n bwysig iawn i les y person anabl. Mae cadeiriau olwyn i'w defnyddio yn yr awyr agored yn unig yn cael eu heithrio.

Nid oes rhaid bod ystafell ychwanegol wedi'i hadeiladu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad oni bai bod yr ystafell yn hanfodol neu'n bwysig iawn i'r person anabl.

Os cewch y gostyngiad, bydd eich Treth Gyngor yn cael ei gostwng i fod yn gyfwerth â'r band prisio islaw'r un sydd gennych nawr, er enghraifft os ydych yn byw mewn eiddo band D, codir y Dreth Gyngor arnoch ar gyfer eiddo band C. Os ydych yn byw mewn eiddo band A, bydd eich Treth Gyngor yn cael ei gostwng gan ganran penodol.


Nam Meddyliol Difrifol​



Gall unrhyw un sydd wedi'i ardystio'n feddygol fel un sydd â nam difrifol ar ei weithredu deallusol neu gymdeithasol, sy'n ymddangos yn barhaol, fod yn gymwys i gael gostyngiad y Dreth Gyngor. 

Mae hyn yn golygu y bydd gan y person gyflwr parhaol sy'n effeithio'n ddifrifol ar ei weithredu deallusol a chymdeithasol. 

Mae'r cyflyrau a all arwain at nam meddyliol difrifol (NMD) yn cynnwys:


  • clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia,  
  • clefyd Parkinson, 
  • anawsterau dysgu difrifol, a
  • strôc






Gall llawer o gyflyrau eraill fod yn berthnasol

I fod yn gymwys, rhaid i'r person gael diagnosis o NMD gan feddyg a rhaid i’r person hefyd fod â hawl i dderbyn un o'r budd-daliadau a restrir ar y ffurflen hon (p'un a yw’n eu derbyn ai peidio).

  • Os ydych wedi cael diagnosis o NMD gan feddyg a'ch bod yn byw ar eich pen eich hun neu ddim ond gydag eraill sydd ag NMD, byddwch yn cael eich eithrio rhag talu’r Dreth Gyngor.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o NMD gan feddyg a'ch bod yn byw gydag un oedolyn sy'n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor, bydd eich cartref yn cael gostyngiad o 25%.
  • Os ydych wedi cael diagnosis o NMD gan feddyg a'ch bod yn byw gyda 2 neu fwy o oedolion sy'n gymwys i dalu’r Dreth Gyngor, ni fydd unrhyw ostyngiad.








​​


© 2022 Cyngor Caerdydd