Bydd y bil Treth Gyngor ar gyfer eiddo lle caiff un o ddau breswylydd ei eithrio yr un fath ag ydyw ar gyfer eiddo gydag un preswylydd yn unig. Hynny yw, cewch ostyngiad o 25%.
Os yw rhywun sy’n gymwys am eithriad yn byw ar ei ben ei hun, neu ond gydag eraill nad ydynt yn gymwys am eithriad, bydd gostyngiad o 50% yn berthnasol.
Nid yw pobl yn y grwpiau canlynol yn cael eu cyfrif tuag at nifer yr oedolion sy’n byw mewn eiddo:
-
myfyrwyr llawn-amser
nyrsys sy’n fyfyrwyr
diplomyddion
gŵr neu wraig i fyfyriwr nad yw’n dod o Brydain
aelodau o’r lluoedd arfog a’u dibynyddion
pobl 18+ oed sydd â hawl i gael budd-dal plant
aelodau o gymunedau crefyddol (e.e. mynachod a lleianod)
pobl sy’n gofalu am rywun anabl nad yw’n ŵr, yn wraig neu’n bartner nac yn blentyn dan 18 oed
gweithwyr gofal sy’n gweithio am dâl isel (fel arfer i elusennau)
pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn yr ysgol neu sydd newydd adael ysgol
pobl sy’n aros mewn hosteli/llochesi nos penodol
cleifion mewn ysbytai
cleifion mewn cartrefi gofal
prentisiaid a’r rhai ar hyfforddiant ieuenctid (rhaid i brentisiaid ennill llai na £195 yr wythnos)
Sylwer, os yw eiddo'n cael ei feddiannu gan fyfyrwyr, pobl sy'n gadael gofal neu bobl â nam meddyliol difrifol yn unig neu unrhyw gyfuniad o'r rhain, gall eithriad fod yn berthnasol.